Neidio i'r prif gynnwys

Talk Money Week 06-10 November #TalkMoney

Wythnos Siarad Arian 06-10 Tachwedd #SiaradArian

Bob blwyddyn, rydym yn annog pobl i gael sgyrsiau mwy agored am eu harian – o arian poced i bensiynau – trwy ein hymgyrch Wythnos Siarad Arian. Mae’r wythnos yn rhoi cyfle gwych i bawb ymuno, cychwyn neu arwain sgyrsiau am arian.

Eleni, bydd yr ymgyrch yn cael ei chynnal rhwng 6-10 Tachwedd 2023 ac rydym yn disodli’r thema gyda galwad syml i weithredu: gwnewch un peth. Nid oes rhaid iddo fod yn enfawr. Gallai fod mor syml ag olrhain pensiwn coll, siarad â phlentyn am arian poced neu ddefnyddio un o’r teclynnau neu’r cyfrifianellau am ddim ar wefan HelpwrArian.

Y cyfan sy’n bwysig yw ein bod ni’n cael pobl i siarad am arian, felly gallwn ddod â’r tabŵ i ben gyda’n gilydd.