- Deddf Camddefnyddio Cyfrifiadur 1990
- Trosolwg syml o’r Ddeddf Cam-drin Cyfrifiaduron
- Deddf Diogelu Data 2018
I gael rhagor o fanylion am y troseddau a’r deddfwriaethau perthnasol gweler Ganllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron ar Seiberdroseddu.
Hafan » Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig » Seiberdroseddau
Mae seiberdrosedd yn derm ambarél a ddefnyddir i ddisgrifio dwy ystod o weithgarwch troseddol sy’n gysylltiedig ond yn wahanol.
Mae Strategaeth Ddiogelwch Seiber Genedlaethol y Llywodraeth yn diffinio’r rhain fel:
- Troseddau seiber ddibynnol – troseddau lle mai dim ond trwy ddefnyddio dyfeisiau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu y gellir eu cyflawni, lle mae’r dyfeisiau yn arf ar gyfer cyflawni’r drosedd, ac yn darged y drosedd (e.e. datblygu a lledaenu maleiswedd er mantais ariannol, hacio i ddwyn, difrodi, ystumio neu ddinistrio data a/neu rwydwaith neu weithgaredd).
- Troseddau a alluogir drwy seiber – troseddau traddodiadol lle gellir cynyddu eu graddfa neu eu cyrhaeddiad drwy’r defnydd o gyfrifiaduron, rhwydweithiau cyfrifiadurol neu ffurfiau eraill o TGCh (fel twyll a alluogir drwy seiber a dwyn data).
Mae seiberdrosedd yn fygythiad byd-eang. Mae seiber droseddwyr yn ceisio camfanteisio ar wendidau dynol neu ddiogelwch er mwyn dwyn cyfrineiriau, data neu arian yn uniongyrchol ar eich dyfeisiau cartref a symudol. Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mae’r bygythiadau seiber mwyaf cyffredin yn cynnwys:
Mae Cyber Aware yn argymell eich bod yn gwella eich diogelwch seiber drwy gymryd chwe cham:
Mae’n bosibl yr hoffech ystyried diogelwch TG ar eich holl ddyfeisiau symudol, gan gynnwys ffonau symudol a llechi electronig. Am ragor o awgrymiadau gweler dolenni defnyddiol ac adnoddau isod.
I gael rhagor o fanylion am y troseddau a’r deddfwriaethau perthnasol gweler Ganllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron ar Seiberdroseddu.
Llywodraeth y DU – Strategaeth Seiberddiogelwch y Llywodraeth: 2022 i 2030.
I gael amryw o adnoddau i’ch helpu i aros yn ddiogel ar-lein ewch i Cyber Aware, Get Safe Online neu’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus
I gael rhagor o gyngor ar sut i aros yn ddiogel ar-lein ewch i Cyber Aware, Get Safe Online neu’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
Os ydych yn ddioddefwr seiberdrosedd, rhowch wybod i Action Fraud, canolfan adrodd am dwyll a seiberdrosedd y DU.