Neidio i'r prif gynnwys

Seiberdroseddau

Archwilio is-bynciau

Beth yw Seiberdrosedd?

Mae seiberdrosedd yn derm ambarél a ddefnyddir i ddisgrifio dwy ystod o weithgarwch troseddol sy’n gysylltiedig ond yn wahanol.

Mae Strategaeth Ddiogelwch Seiber Genedlaethol y Llywodraeth yn diffinio’r rhain fel:

Troseddau seiber ddibynnol – troseddau lle mai dim ond trwy ddefnyddio dyfeisiau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu y gellir eu cyflawni, lle mae’r dyfeisiau yn arf ar gyfer cyflawni’r drosedd, ac yn darged y drosedd (e.e. datblygu a lledaenu maleiswedd er mantais ariannol, hacio i ddwyn, difrodi, ystumio neu ddinistrio data a/neu rwydwaith neu weithgaredd).

Troseddau a alluogir drwy seiber – troseddau traddodiadol lle gellir cynyddu eu graddfa neu eu cyrhaeddiad drwy’r defnydd o gyfrifiaduron, rhwydweithiau cyfrifiadurol neu ffurfiau eraill o TGCh (fel twyll a alluogir drwy seiber a dwyn data).

Mae seiberdrosedd yn fygythiad byd-eang.  Mae seiber droseddwyr yn ceisio camfanteisio ar wendidau dynol neu ddiogelwch er mwyn dwyn cyfrineiriau, data neu arian yn uniongyrchol ar eich dyfeisiau cartref a symudol. Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mae’r bygythiadau seiber mwyaf cyffredin yn cynnwys:

  • Hacio – yn cynnwys hacio’r cyfryngau cymdeithasol a chyfrineiriau e-bost.
  • Gwe-rwydo – negeseuon e-bost ffug yn gofyn am wybodaeth diogelwch a manylion personol
  • Meddalwedd maleisus – yn cynnwys meddalwedd wystlo lle gall troseddwyr herwgipio ffeiliau a’u dal gan ofyn am arian
  • Ymosodiadau atal gwasanaeth sy’n wasgaredig yn erbyn gwefannau – yn aml mae hyn yn cyd-fynd â gorelwa.

Mae Cyber Aware yn argymell eich bod yn gwella eich diogelwch seiber drwy gymryd chwe cham:

  • Defnyddio cyfrinair cryf unigol ar gyfer eich cyfrif e-bost
  • Creu cyfrineiriau cryf gan ddefnyddio 3 gair ar hap
  • Arbed eich cyfrineiriau yn eich porwr
  • Troi’r dilysiad dau ffactor ymlaen
  • Diweddaru eich dyfeisiau
  • Creu copi wrth gefn o’ch data.

Mae’n bosibl yr hoffech ystyried diogelwch TG ar eich holl ddyfeisiau symudol, gan gynnwys ffonau symudol a llechi electronig. Am ragor o awgrymiadau gweler dolenni defnyddiol ac adnoddau isod.

Seiberdroseddu harddegau

  • Y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol

Sgiliau proffesiynol a hyfforddiant

  • Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol

Mae ymgyrch #CyberChoices  yn annog rhieni pobl ifanc gyda sgiliau seiber i drafod eu huchelgeision gyda nhw a’r cyfleoedd i ddefnyddio eu sgiliau’n gadarnhaol.

#CCLevelUp: Pecyn gwaith cymdeithasol ymgyrch Lefel Uwch yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol

Dolenni defnyddiol

Llywodraeth y DU – Y Strategaeth Diogelwch Seiber Genedlaethol 2016 i 2021.

Darllenwch yr Strategaeth

I gael amryw o adnoddau i’ch helpu i aros yn ddiogel ar-lein ewch i Cyber Aware, Get Safe Online neu’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Cyber Aware

Get Safe Online

Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

I gael rhagor o gyngor ar sut i aros yn ddiogel ar-lein ewch i Cyber AwareGet Safe Online neu’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Os ydych yn ddioddefwr seiberdrosedd, rhowch wybod i Action Fraud, canolfan adrodd am dwyll a seiberdrosedd y DU.