Neidio i'r prif gynnwys

Rheolaeth drwy Orfodaeth

Archwilio is-bynciau

Beth yw Rheolaeth drwy Orfodaeth?

Mae Rheolaeth drwy orfodaeth yn weithred neu batrwm o weithredoedd o ymosodiadau, bygythiadau, cywilydd a brawychu neu gamdriniaeth arall a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu ddychryn eu dioddefwr. Mae’r ymddygiad hwn sy’n rheoli, wedi’i ddylunio i sicrhau bod unigolyn yn dibynnu ar eu cyflawnwr, trwy eu hynysu oddi wrth gefnogaeth, camfanteisio arnynt, eu hamddifadu o’u hannibyniaeth a rheoleiddio eu hymddygiad bob dydd. (Cymorth i Ferched)

Mae wedi’i ddylunio i gam-fanteisio, rheoli, creu dibyniaeth a dominyddu. Gall ddechrau gyda dangos gormodedd o sylw cariadus (lovebombing) a swyno er mwyn denu’r dioddefwr i’r berthynas. Caiff twyllo rhywun i amau ei bwyll ei hun (gaslighting), ynysu, rheolaeth economaidd a cham-drin ariannol a rheolau a rheoliadau eu cyflwyno’n raddol dros gyfnod, pan fydd y dioddefwr wedi buddsoddi’n emosiynol, yn ogystal â chanlyniadau os caiff y rheolau hyn eu torri. Dim ond i’r dioddefwr mae’r rheolau’n berthnasol. Dros gyfnod, bydd yr ymddygiad sy’n dangos rheolaeth drwy orfodaeth yn dileu synnwyr hunaniaeth y dioddefwr, ei hyder, hunan-barch, ei allu i weithredu’n annibynnol a’i ymreolaeth.

Mae dangos gormodedd o sylw cariadus (lovebombing) yn gyfres ddwys a chyson o gyswllt cariadus, negeseuon testun, negeseuon e-bost, nodiadau ac anrhegion, er mwyn llethu rhywun a’u cyfareddu. Mae wedi’i gynllunio i wneud i chi syrthio mewn cariad. Nid yw’n debygol o deimlo fel bombardio. Mae’n swyno, ac mae i fod i deimlo fel y rhamant a welir mewn ffilmiau.

Ymddygiad sy’n rheoli yw amrywiaeth o weithredoedd wedi’u dylunio i wneud unigolyn yn israddol a/neu ddibynnol trwy eu hynysu oddi wrth ffynonellau cefnogaeth, camfanteisio ar eu hadnoddau a’u galluoedd er budd personol, eu hamddifadu o’r dulliau sydd eu hangen ar gyfer annibyniaeth, gwrthwynebiad a dianc, a rheoleiddio eu hymddygiad bob dydd. Mae ymddygiad sy’n dangos rheolaeth drwy orfodaeth yn weithred neu batrwm o weithredoedd o ymosodiadau, bygythiadau, cywilydd a brawychu neu gamdriniaeth arall a ddefnyddir i niweidio, cosbi neu ddychryn eu dioddefwr.” Y Swyddfa Gartref

  • Deddf Troseddu Difrifol 2015, Caiff ymddygiad sy’n rheoli neu sy’n dangos rheolaeth drwy orfodaeth mewn perthynas agos neu berthynas deuluol ei diffinio yn Adran 76 y Ddeddf (i rai dros 16 oed).
  • Cynhyrchodd y Swyddfa Gartref Fframwaith Canllawiau Statudol yn 2015.
  • Mae Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 yn darparu amddiffyniad i rai dan 16 oed sy’n destun rheolaeth drwy orfodaeth.
  • Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn diwygio’r drosedd ymddygiad rheoli neu gymhellol i ddileu’r gofyniad “byw gyda’n gilydd”, sy’n golygu y gall fod yn berthnasol i bartneriaid, cynbartneriaid, neu aelodau o’r teulu p’un a yw’r dioddefwr a’r cyflawnwr yn byw gyda’i gilydd ai peidio. Bydd hyn yn dechrau yng Ngwanwyn 2022.

Mae’r drosedd o reolaeth neu reolaeth drwy orfodaeth wedi’i ddatganoli yng Nghymru

Hyfforddiant Cymorth i Ferched Cymru: Understanding the impact of Coercive and Controlling Behaviour in Violence Against Women. Mae’n gwrs wedi’i ardystio gan CPD.

Hafan Cymru: Coercive and Controlling Behaviour training. Nod y cwrs hwn yw darparu gwybodaeth am reolaeth drwy orfodaeth gyda throsolwg o’r drosedd fel rhan o Ddeddf Troseddu Difrifol Rhagfyr 2015.

Llywodraeth Cymru, This is not Love. This is Control – fersiwn estynedig, mae ffilm ymgyrch fyrrach hefyd. Roedd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar arwyddion perthynas afiach sy’n rheoli er mwyn annog dioddefwyr, pobl sy’n gwylio o bell a chyflawnwyr i gydnabod bod ymddygiad o’r fath yn gyfystyr â cham-drin. 

Victims First: Don’t Disappear – a story of relationship abuse. Stori perthynas Jamie ac Emma, o’r cyfnod cynnar oedd i’w weld mor gariadus, i ddatblygiad ymddygiad sy’n rheoli ac sy’n dangos rheolaeth drwy orfodaeth (gydag isdeitlau).

Dolenni Defnyddiol

Llywodraeth Cymru

Ewch i’r Wefan

Cymorth i Ddioddefwyr 

Ewch i’r Wefan

Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn drosedd. Mae llinell gymorth Byw Heb Ofn ar gael 24 awr y dydd er mwyn darparu cyngor a chymorth rhad ac am ddim ar 0808 8010 800.

Fel arfer caiff cefnogaeth sy’n ymwneud â rheolaeth drwy orfodaeth ei darparu trwy’r un systemau â cham-drin domestig.

 

Mae nifer o arwyddion o reolaeth drwy orfodaeth, dyma rai ohonynt:

  • Ynysu’r dioddefwr oddi wrth eu system gefnogaeth: torri eu cyswllt â’u teulu a’u ffrindiau neu ganiatáu cyswllt cyfyngedig.
  • Monitro gweithgarwch y dioddefwr trwy gydol y dydd: Defnyddio ffôn symudol a thechnoleg diogelwch.
  • Gwrthod rhyddid ac ymreolaeth i’r dioddefwr: stelcian pob symudiad pan fyddan nhw allan, cyfyngu ar fynediad at gludiant.
  • Twyllo rhywun i amau ei bwyll ei hun (gaslighting): Gwneud i’r dioddefwr gwestiynu eu cof eu hunain, ymddiheuro a cheisio gwneud iawn.
  • Galw enwau a bychanu’r dioddefwr: mae bychanu maleisus a beirniadu’n rheolaidd i gyd yn fathau o ymddygiad sy’n bwlio, wedi’u dylunio i wneud i’r dioddefwr deimlo’n ddibwys a diffygiol.
  • Cyfyngu ar fynediad y dioddefwr i arian: rheoli arian er mwyn cyfyngu ar ryddid y dioddefwr a monitro beth gaiff ei wario.
  • Atgyfnerthu rolau rhywedd traddodiadol: cymell merch i ofalu am lanhau, coginio a gofal plant.
  • Troi plant y dioddefwr yn eu herbyn: defnyddio’r plant fel arfau trwy ddweud rhiant mor ddrwg yw’r dioddefwr, neu eu bychanu o flaen y plant.
  • Rheoli agweddau ar iechyd a chorff y dioddefwr: faint maen nhw’n ei fwyta, cysgu, ymarfer corff, meddyginiaeth ac ati. Mynnu mynychu pob apwyntiad meddygol.
  • Plismona ffordd o fyw y dioddefwr: dweud wrthynt beth i’w wisgo a lle i fynd.
  • Gwneud cyhuddiadau cenfigennus: fel ffordd o leihau cyswllt â phobl eraill.
  • Rhwystro mynediad at help: fel cyfyngu ar fynediad at gymorth meddygol.
  • Rheoleiddio’r berthynas rywiol.
  • Bygwth plant neu anifeiliaid anwes dioddefwr: mewn ymgais i’w rheoli.
  • Blacmelio dioddefwr: aros a gwneud fel mae’r cyflawnwr yn ei ofyn, neu byddant yn rhannu cyfrinach neu rannu ffeithiau a gwybodaeth breifat.
  • Mae nifer o arwyddion o reolaeth drwy orfodaeth, dyma rai ohonynt: