Neidio i'r prif gynnwys

Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM)

Archwilio is-bynciau

Beth yw FGM?

Mae Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) yn golygu tynnu organau cenhedlu allanol merched, naill ai’n rhannol neu’n gyfan gwbl, am resymau diwylliannol yn hytrach na rhesymau meddygol.

Mae’n arfer creulon, peryglus a phoenus, a gall ei effaith bara oes.

Mae FGM wedi bod yn anghyfreithlon yn y DU ers 1985. Mae Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 wedi’i gwneud yn anghyfreithlon i rhywun fynd â gwladolyn Prydeinig neu breswyliwr parhaol allan o’r wlad er mwyn cyflawni FGM yn rhywle arall, neu i gynorthwyo rhywun arall i wneud hyn.

Os cewch eich dyfarnu’n euog o FGM – neu helpu i gyflawni FGM – gellir eich anfon i’r carchar am hyd at 14 mlynedd.

Er bod FGM yn anghyfreithlon mewn sawl gwlad, mae’r arfer yn dal i fod yn gyffredin ar draws y byd.

Y goblygiadau o ran iechyd: Caiff FGM ei roi mewn pedwar categori, yn dibynnu ar pa mor ddifrifol yw’r lawdriniaeth. Caiff mwyafrif y genethod eu torri cyn iddynt gyrraedd 15 oed.

Mae’r effaith uniongyrchol yn cynnwys poen a gwaedu difrifol, anhawster wrth basio dŵr, heintiau, anaf, sioc, a marwolaeth weithiau, hyd yn oed. Mae’r effaith hirdymor yn cynnwys poen cronig, heintiau pelfig a heintiau eraill, systiau, creithiau eithafol, cymhlethdodau mewn beichiogrwydd ac wrth eni plentyn, cyfathrach rywiol poenus, a llai o bleser rhywiol. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn rhestru’r goblygiadau o ran iechyd sydd ynghlwm ag FGM mewn rhagor o fanylder.

Mae Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003 yn gwahardd FGM.

Gwnaeth Deddf Troseddu Difrifol 2015 ddiwygio Deddf 2003 er mwyn cynnwys darpariaethau newydd i ymestyn awdurdodaeth alltiriogaethol ar gyfer FGM, darparu anhysbysrwydd i ddioddefwyr FGM, creu trosedd newydd sef methu â diogelu geneth rhag FGM, cyflwyno Gorchmynion Amddiffyn rhag FGM, cyflwyno dyletswydd adrodd gorfodol sy’n ei gwneud yn ofynnol i weithwyr proffesiynol rheoledig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol roi gwybod i’r heddlu am achosion hysbys o FGM ymhlith genethod dan 18 oed.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn darparu deddfwriaeth ddiogelu i oedolion a phlant.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn amlinellu rôl gyfun y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Gellir cyflawni dyletswyddau statudol trwy Gynllun Lles, a all gynnwys VAWDASV. Gall Strategaeth VAWDASV gyflawni’r Ddyletswydd Statudol a chyfrannu at ddatblygiad y Cynllun Lles lleol.

Yn ogystal â’r canlynol:

  • Deddf Plant 2004 (Cymru a Lloegr)
  • Deddf Hawliau Dynol 1998
  • Y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (mae’r DU wedi cadarnhau)
  • Adran 47 Deddf Plant 1989
  • Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar ddileu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Merched

 

Mae BAWSO yn darparu gwasanaethau cymorth arbenigol yng Nghymru i bobl o gefndiroedd BAME y mae cam-drin domestig a mathau eraill o gamdriniaeth yn effeithio arnynt, gan gynnwys FGM, priodas dan orfod, masnachu mewn pobl a phuteindra. Yn 2010, sefydlodd BAWSO brosiect anffurfio organau cenhedlu benywod, ac mae llyfryn addysgol i weithwyr iechyd proffesiynol ar gael ar gais.

Ewch i’r Wefan

Cynhyrchodd y Swyddfa Gartref ffilm 8 munud i godi ymwybyddiaeth.

Gwyliwch y Ffilm

Yn y ffilm fer Swyddfa Gartref hon, mae merch sydd wedi goroesi FGM yn disgrifio ei phrofiadau. Sylwch y gallai rhywfaint o gynnwys y ffilm hon beri gofid i wylwyr.

Gwyliwch y Ffilm

Mae’r GIG wedi cynhyrchu’r ffilm 5 munud hon, ‘FGM is child abuse’, sy’n sôn am beth yw FGM a lle i gael help os ydych chi, neu rhywun rydych chi’n eu hadnabod, mewn perygl ohono.

Ewch i wefan y GIG


Diogelu genethod a merched ifanc rhag FGM

Cyflwynodd Deddf Troseddu Difrifol 2015 ddyletswydd gyfreithiol ar athrawon a gweithwyr proffesiynol rheoledig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i roi gwybod i’r heddlu:

  • os bydd geneth dan 18 oed yn dweud wrthynt bod FGM wedi’i gyflawni arni, neu
  • os byddant yn gweld arwyddion corfforol bod FGM wedi’i gyflawni ar eneth dan 18 oed o bosibl.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr proffesiynol roi gwybod i’r cyngor lleol os oes ganddynt achos rhesymol dros amau bod plentyn mewn perygl o brofi camdriniaeth, esgeulustod neu fathau eraill o niwed. Mae hyn yn cynnwys amau bod FGM wedi’i gyflawni ar blentyn, neu bod perygl i hyn ddigwydd. 

Mae hyn yn golygu bod rhaid i weithwyr proffesiynol roi gwybod i’r heddlu a’r cyngor lleol am eu pryderon.

Gwneud Cais am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM

Ers mis Gorffennaf 2015, gallwch wneud cais i’r llys am Orchymyn Amddiffyn rhag FGM os ydych chi’n poeni am blentyn neu ferch ifanc. Mae’n drosedd torri’r gorchymyn hwn (gyda dedfryd o uchafswm o bum mlynedd yn y carchar). I gael rhagor o wybodaeth ac i weld dogfennau perthnasol, cliciwch yma.

Mynegi pryderon (fel lleygwr)

Os ydych chi’n pryderu bod FGM wedi’i gyflawni – neu ar fin cael ei gyflawni – ar blentyn neu berson ifanc, cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor, yn gyfrinachol, neu’r heddlu ar 101. Os yw’n argyfwng, ffoniwch 999.

Gallwch hefyd gysylltu â llinell gymorth FGM ar 0800 028 3550.

Os oes rhywun eisoes wedi mynd dramor : Os yw’n rhy hwyr i atal plentyn neu eneth ifanc rhag mynd dramor, cysylltwch â’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn syth ar 020 7008 1500.


Canllawiau’r Llywodraeth

Anffurfio organau cenhedlu benywod: canllawiau i weithwyr proffesiynol

Darllenwch y Canllawiau

Mae canllawiau amlasiantaeth Llywodraeth y DU yn darparu cyngor a chymorth i weithwyr proffesiynol y rheng flaen sydd â chyfrifoldebau i ddiogelu plant a chefnogi oedolion rhag y camdriniaeth sy’n gysylltiedig ag FGM

Darllenwch y Canllawiau


Dolenni Defnyddiol

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Llinell Gymorth FGM NSPCC. Llinell gymorth gyfrinachol rhad ac am ddim os ydych chi’n poeni bod plentyn mewn perygl o FGM, neu ei bod wedi dioddef FGM.

0800 028 3550

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

0800 80 10 800

neu e-bost info@livefearfreehelpline.wales

I gael cyngor a chymorth os oes rhywun mewn perygl o FGM. 

BAWSO 

Ewch i’r Wefan

Canllawiau BAWSO ar gyfer Swyddogion Heddlu

Gweithdrefnau Diogelu Cymru: Diogelu plant rhag arferion niweidiol sy’n ymwneud â thraddodiad, diwylliant, crefydd neu ofergolau

Ewch i’r Wefan

Y Swyddfa Gartref, FGM: Pecyn adnoddau

Darllenwch yr Adnoddau

Mae Daughters of Eve yn cynnig cyngor a chymorth i ferched ifanc

Ewch i’r Wefan