Neidio i'r prif gynnwys

Trais ar Sail Anrhydedd gan gynnwys Priodas Dan Orfod

Archwilio is-bynciau

Beth yw Trais ar Sail Anrhydedd gan gynnwys Priodas Dan Orfod?

Mae Trais ar Sail Anrhydedd yn gasgliad o arferion a ddefnyddir i reoli ymddygiad mewn teuluoedd neu grwpiau cymdeithasol eraill er mwyn diogelu credoau a/neu anrhydedd diwylliannol a chrefyddol canfyddedig. Gall trais o’r fath ddigwydd pan fydd cyflawnwyr o’r farn bod perthynas wedi codi cywilydd ar y teulu a / neu’r gymuned trwy dorri eu cod anrhydedd.

Mae’n ymyriad â hawliau dynol a gall fod yn fath o drais domestig a/neu rhywiol. Nid oes, ac ni all fod, anrhydedd neu gyfiawnhad dros gam-drin hawliau dynol pobl eraill. (Gwasanaeth Erlyn y Goron)

Gall trais ar sail anrhydedd, fel y’i gelwir, gynnwys:

  • llofruddiaeth
  • marwolaeth anesboniadwy (hunanladdiad)
  • carchariad domestig
  • herwgipio neu gipio plant
  • priodasau dan orfod
  • anffurfio organau cenhedlu benywod
  • ymosodiadau asid
  • trais

Dywedir bod tua 12 o lofruddiaethau Anrhydedd bob blwyddyn yn y DU. Yn 2014, cofnodwyd 11,000 o droseddau ar sail anrhydedd gan heddluoedd a chafodd 1,400 o achosion eu trin gan yr Uned Priodasau Dan Orfod yn 2016.

Mae Safe Lives wedi cynhyrchu adroddiad amlygu ar Drais ar sail Anrhydedd a Phriodasau dan Orfod. Mae’r adroddiad yn amlygu bod 76% o ddioddefwyr yn ferched, pan gaiff trais ar sail anrhydedd ei nodi mewn llys. Mae’r adroddiad yn nodi’r broblem ychwanegol, sef nad oedd bron i chwarter y dioddefwyr yn gymwys i gael y rhan fwyaf o fudd-daliadau, a oedd yn ychwanegu at rwystrau i ddianc.

Darllenwch yr Adroddiad yma

Cynhyrchodd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu strategaeth yn 2015 

Darllenwch y Strategaeth yma

Hawl i Ddewis: canlyniadau priodas dan orfod

Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 wedi gwneud Priodas Dan Orfod yn drosedd benodol dan a121.

Mae Gorchymyn Amddiffyn Rhag Priodas Dan Orfod yn ddatrysiad sifil a gyhoeddir dan Ddeddf Priodas Dan Orfod (Amddiffyn Sifil) 2007. Mae’n cynnig amddiffyniad i ddioddefwr rhag pob seremoni sifil neu grefyddol, trwy wahardd yr atebwr/atebwyr eu hunain, neu trwy annog neu gytuno ag unrhyw unigolyn, rhag llunio unrhyw gytundebau o ran dyweddïo neu briodi. Gallai Gorchymyn Amddiffyn gynnwys gwaharddiadau, cyfyngiadau neu ofynion ac unrhyw delerau eraill o’r fath y bydd y llys yn ystyried sy’n briodol at ddibenion y gorchymyn. Gall cais am Orchymyn Amddiffyn gael ei wneud gan ddioddefwr, unigolyn sy’n cael caniatâd y llys i wneud cais am orchymyn ar ran y dioddefwr, trydydd parti perthnasol neu gan y llys o’i wirfodd.” (Gwasanaeth Erlyn y Goron)

Mae torri Gorchymyn Amddiffyn Rhag Priodas Dan Orfod yn drosedd dan a120 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Mae Deddf Plismona a Throsedd 2017 (adran 173) yn sicrhau bod dioddefwyr Priodas Dan Orfod yn aros yn ddienw am oes.

Ar hyn o bryd, nid oes deddfwriaeth benodol o ran Trais ar Sail Anrhydedd. Caiff pob gweithred droseddol ei thrin dan y ddeddfwriaeth trais berthnasol. Fodd bynnag, caiff ei nodi fel un o’r mathau o drais ar sail rhywedd dan Ddeddf Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Educare Codi Ymwybyddiaeth o Gamdriniaeth ar sail Anrhydedd a Phriodas dan Orfod:

Ysgrifennwyd y cwrs mewn partneriaeth â Karma Nirvana, ac mae wedi’i gymeradwyo gan y Comander Ivan Balhatchet, Arweinydd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ar gyfer Trais ar Sail Anrhydedd, Priodas Dan Orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM). Mae’n gwrs wedi’i ardystio gan CPD.

Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (Eyst) Priodas dan Orfod a Thrais ar Sail Anrhydedd: Deall y Mater a Chefnogi Unigolion

Y Coleg Rhithiol Ymwybyddiaeth o Briodas dan Orfod. Cwrs ar-lein rhad ac am ddim sydd wedi’i ddatblygu gyda’r Uned Priodasau Dan Orfod. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth, herio canfyddiadau a rhoi gwybod am gamau cywir i’w cymryd pe baech yn amau bod rhywun mewn perygl.

Mae gan Hafan Cymru gwrs 2 awr ar Briodas Dan Orfod a chwrs 2 awr ar Drais ar Sail Anrhydedd

Dewch o hyd i’r cwrs yma

Roedd y Podlediad Diogelwch Cymunedol ar 19 Mawrth 2021 yn canolbwyntio ar Drais ar Sail Anrhydedd gyda Caroline Goode QPM

Gwrandewch ar y podlediad (85 munud).

Dolenni Defnyddiol

Karma Nirvana: Cefnogi dioddefwyr camdriniaeth ar sail anrhydedd a phriodas dan orfod.

Llinell gymorth y DU

0800 5999 247

Ewch i’r Wefan

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

0800 80 10 800

New e-bost info@livefearfreehelpline.wales

Yr Uned Priodasau Dan Orfod 

Mae IKWRO (Iranian and Kurdish Women’s Rights Organisation) yn diogelu merched a genethod o’r Dwyrain Canol ac Affganistan sydd mewn perygl o drais ar sail anrhydedd, priodas dan orfod, priodas plant, anffurfio organau cenhedlu benywod a cham-drin domestig a hyrwyddo eu hawliau.

Ewch i’r Wefan

Mae Prosiect SHARAN yn darparu cymorth, cyngor i ferched diamddiffyn, yn enwedig o dras De Asia, sydd wedi gadael eu cartref dan orfod neu o’u gwirfodd o ganlyniad i gael eu gwrthod; bygythiad o drais domestig neu drais ar sail anrhydedd; priodas dan orfod a mathau eraill o wrthdaro diwylliannol.

Ewch i’r Wefan

Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn darparu help emosiynol ac ymarferol i ddioddefwyr neu dystion unrhyw drosedd, p’un a rhoddwyd gwybod i’r heddlu amdano ai peidio. 

Ewch i’r Wefan

BAWSO- Deall priodas dan orfod: Dadansoddiad beirniadol – Mis Hydfref 2023

Darllenwch yr adroddiad yma


Diffiniadau 

Diffinnir camdriniaeth ar sail anrhydedd fel digwyddiad neu drosedd sy’n cynnwys trais, bygythiadau o drais, brawychiad, gorfodaeth neu gamdriniaeth (gan gynnwys camdriniaeth seicolegol, corfforol, rhywiol, ariannol neu emosiynol) sydd wedi ei gyflawni, neu a allai fod wedi’i gyflawni, er mwyn diogelu neu amddiffyn anrhydedd unigolyn, teulu a/neu gymuned ar gyfer achosion honedig neu ganfyddedig o dorri cod ymddygiad y teulu a/neu’r gymuned.

Mae cam-drin domestig yn fath o drais ar sail anrhydedd, ond y gwahaniaeth allweddol yw nifer y bobl sy’n rhan ohono a faint o gyfranogiad fu gan deulu a’r gymuned ehangach. Mae trais ar sail anrhydedd yn ymwneud â’r rheolaeth gyffredinol sydd gan deulu dros ymddygiad merch. Mewn achos o drais ar sail anrhydedd, efallai bydd nifer fawr o gyflawnwyr posibl, a nifer uwch hyd yn oed o bobl sy’n barod i gynllunio neu gymryd rhan mewn gweithredoedd treisgar.

Os ydych chi’n dioddef trais ar sail anrhydedd neu briodas dan orfod, neu’n ofni eich bod mewn perygl o’u dioddef, mae pobl y gallwch chi siarad â nhw a fydd yn gallu rhoi help a chymorth cyfrinachol i chi.


Arwyddion

Mae’n annhebygol y bydd unigolyn (yn enwedig plant a phobl ifanc) yn rhoi gwybod i ffrindiau, cydnabod neu weithwyr proffesiynol eu bod naill ai mewn priodas dan orfod, neu’n dioddef trais ar sail anrhydedd.

Felly mae’n bwysig gwybod beth yw rhai o’r arwyddion posibl.

Dyma rai arwyddion a allai ddangos mewn lleoliadau penodol:

  • tynnu myfyriwr o leoliad addysg neu eu hatal rhag parhau â’u hastudiaethau
  • gofyn am wyliau estynedig neu fethu â dychwelyd o wyliau dramor
  • cael eu gwylio gan aelodau eraill o’r teulu mewn cyfleuster addysg
  • dangos dirywiad o ran golwg corfforol neu ymarweddiad, neu o ran ymddygiad, ymgysylltiad a pherfformiad.

  • rhywun yn dod gyda’r claf i apwyntiadau’n gyson
  • iechyd meddwl – hunan-niweidio, anhwylderau bwyta, iselder, arwahaniad, ceisio cyflawni hunanladdiad
  • beichiogrwydd cynnar, dieisiau neu gyson
  • anafiadau heb esboniad

Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Priodas dan Orfod

Os oes rhywun yn cael eu gorfodi i briodi yn y DU, gellir cysylltu â Llinell Gymorth yr Uned Priodasau Dan Orfod ar

020 7008 0151 (9-5pm)

neu y tu allan i’r oriau hyn, ffoniwch

020 7008 1500

(gofynnwch am ‘Global Response Centre’).

Os bydd rhywun yn cael eu cymryd allan o’r DU a’u gorfodi i briodi, gellir cysylltu â’r Uned Priodasau Dan Orfod ar

020 7008 0151

ac egluro beth sy’n digwydd. Gall yr Uned Priodasau Dan Orfod gynorthwyo i gael Gorchymyn Amddiffyn Rhag Priodas Dan Orfod.

Os yw’r unigolyn eisoes yn y maes awyr neu’n teithio, gallant siarad ag aelod o staff diogelwch neu swyddogion heddlu mewn maes awyr. Os yw’r unigolyn dramor eisoes, cysylltwch â Llysgenhadaeth Prydain yn y wlad honno, gallant gael help i chi adael y wlad a chadw’n ddiogel.

Trais ar Sail Anrhydedd

Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yn llinell gymorth 24 awr a gall ddarparu cymorth pan fo angen.

0808 80 10 800.