Neidio i'r prif gynnwys

Trais a Thrais Rhywiol

Archwilio is-bynciau

Beth yw Trais a Thrais Rhywiol?

Ymosodiad rhyw yw unrhyw weithred rhyw nad oedd unigolyn wedi cydsynio iddi, neu y cânt eu gorfodi i gymryd rhan ynddi yn erbyn eu hewyllys. Mae’n fath o drais rhywiol ac mae’n cynnwys treisio (ymosodiad sy’n cynnwys treiddio’r fagina, anws neu geg), neu droseddau rhyw eraill, fel gafael yn amhriodol, cusanu dan orfod, trais rhywiol yn erbyn plant neu arteithio unigolyn mewn modd rhywiol.

Dangosodd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar gyfer y flwyddyn sy’n dod i ben Mawrth 2018 fod yr heddlu wedi cofnodi 150,732 o droseddau rhyw, gan gynnwys trais (53,977 o achosion) ac ymosodiadau rhyw, a hefyd gweithgarwch rhywiol gyda phlant.

Mae’r mwyafrif o ymosodiadau rhyw yn cael eu cyflawni gan rhywun mae’r dioddefwr yn eu hadnabod. Gallai hyn fod yn bartner, cyn bartner, perthynas, ffrind neu gydweithiwr, yn ogystal â dieithriaid a chydnabod. Gall trais rhywiol ddigwydd waeth beth yw rhyw, oedran, cyfrifoldeb gofalwr, dosbarth, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd, statws mewnfudo, ethnigrwydd, daearyddiaeth neu grefydd unigolyn. Gall yr ymosodiad ddigwydd mewn nifer o leoedd, ond fel arfer yng nghartref y dioddefwr, neu gartref y cyflawnwr honedig (y sawl sy’n cyflawni’r ymosodiad).

“Yn ôl y gyfraith, cydsyniad rhywiol yw pan fydd rhywun yn cytuno drwy ddewis i’r gweithgaredd rhywiol hwnnw a bod gan yr unigolyn y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis hwnnw. Efallai na fydd gan yr unigolyn y rhyddid a’r gallu i gydsynio os ydyn nhw’n ofni am eu bywyd neu ddiogelwch neu fywyd neu ddiogelwch rhywun sy’n bwysig iddyn nhw, neu os ydyn nhw’n cysgu neu’n anymwybodol oherwydd alcohol neu gyffuriau.” Cymorth i Ferched Cymru

Podlediad Cymunedau Mwy Diogel

Mae Deddf Troseddau Rhyw 2003 yn nodi ei bod yn drosedd os bydd unigolyn (A):
(a)yn treiddio fagina, anws neu geg unigolyn arall (B) yn fwriadol gyda’i bidyn,
(b)nid yw B yn cydsynio i’r treiddiad, a
(c)nid yw A yn credu’n rhesymol bod B yn cydsynio.

Mae p’un a yw cred yn rhesymol i gael ei benderfynu gan ystyried yr holl amgylchiadau, gan gynnwys unrhyw gamau mae A wedi’u cymryd i ganfod a yw B yn cydsynio.

Mae’r ddeddfwriaeth yn glir, Mae unigolyn sy’n euog o drosedd dan yr adran hon yn agored, ar gollfarn trwy dditiad, i gael ei garcharu am oes.

Mae’r ddeddfwriaeth lawn ar gael yn.  

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Mae’r Ddeddf hon yn wahanol i’r dull a gymerir wrth ddiffinio “unigolion cysylltiedig” yn adran 58(2)(h) Deddf Tai (Cymru) 2014 ac adran 62(3)(a) Deddf Cyfraith Teulu 1996 (fel a osodwyd gan adran 4 Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004). Yn y Deddfau hynny, mae’n rhaid i’r berthynas bersonol agos fod o “hyd sylweddol”. Nid yw hynny’n wir dan y Ddeddf hon. Mae Adran 24(2)(h) yn nodi perthnasoedd personol agos o unrhyw hyd, er mwyn adlewyrchu’r ffaith y gall camdriniaeth fod yn bresennol ar gamau cynnar iawn perthynas bersonol agos. Gall perthynas bersonol agos fodoli p’un a yw’r unigolion o’r un rhyw, neu o’r naill ryw a’r llall.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: mae’n darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella lles pobl sydd angen gofal a chymorth. Bydd hyn yn cynnwys rhai sy’n profi VAWDASV. Mae hefyd yn cynnwys deddfwriaeth ddiogelu.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn amlinellu rôl gyfun y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Gellir cyflawni dyletswyddau statudol trwy Gynllun Lles, a all gynnwys VAWDASV. Gall Strategaeth VAWDASV gyflawni’r Ddyletswydd Statudol a chyfrannu at ddatblygiad y Cynllun Lles lleol.

Llwybrau Newydd: Hyfforddiant Deall Trais Rhywiol

Dewch o hyd i’r hyfforddiant yma

Mae Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol ar VAWDASV sy’n cynnwys chwe grŵp o weithwyr proffesiynol yn y Gwasanaeth Cyhoeddus.

  • Grŵp 1 – Ymwybyddiaeth cyffredinol (E-ddysgu)
  • Grŵp 2 – Gofyn a Gweithredu
  • Grŵp 3 – Cefnogwyr Gofyn a Gweithredu
  • Grŵp 4 – Sector arbenigol
  • Grŵp 5 – Rheolwyr y sector arbenigol
  • Grŵp 6 – Arweinwyr gwasanaeth cyhoeddus

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth yma

Mae gan y BBC gyfres o Bodlediadau lle mae Catriona Morton yn siarad â goroeswyr eraill sydd wedi dioddef ymosodiad a chamdriniaeth rhywiol am beth ddigwyddodd iddyn nhw a sut maen nhw’n ymdopi. 

Darllen yr act

Dolenni Defnyddiol

Llinell gymorth Byw Heb Ofn

Galop: Gwasanaeth Cymorth Trais Rhywiol ar gyfer pobl LHDT+ sydd wedi dioddef ymosodiad, trais neu gamdriniaeth rhywiol.

Ewch i’r Wefan

Survivors UK: Cymorth i ddynion sydd wedi dioddef trais a chamdriniaeth rhywiol.

Ewch i’r Wefan

Rape Crisis: Dod o hyd i Ganolfan Argyfwng Trais, cael cefnogaeth emosiynol ar-lein  neu gael gwybodaeth ac adnoddau i helpu eich hunain. 

Ewch i’r Wefan

Llwybrau Newydd: Gwasanaeth argyfwng trais a chymorth cam-drin rhywiol gan gynnwys gwasanaethau cwnsela ac eiriolaeth arbenigol, ffoniwch 01685 379 310.

Ewch i’r Wefan

Cymorth i Ddioddefwyr: Help a chymorth i oroeswyr trais a chamdriniaeth rhywiol.

Ewch i’r Wefan

08 08 16 89 111.

Gellir rhoi cydsyniad i weithgarwch rhyw ar gyfer un math o weithgaredd rhyw, ond nid ar gyfer un arall. Gellir tynnu cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg yn ystod gweithgarwch rhyw, a bob tro y bydd y gweithgarwch yn digwydd.

Gall unrhyw un ddioddef trais rhywiol. Mae’r bai am drais rhywiol ar y cyflawnwr bob amser. Nid oes ots beth mae’r dioddefwr yn ei wisgo, lle maen nhw, faint o alcohol maen nhw wedi’i yfed neu faint o gyffuriau maen nhw wedi’u cymryd. Os nad yw rhywun wedi cytuno i’r hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw, mae trosedd wedi’i gyflawni.

Yn ystod y flwyddyn sy’n dod i ben Mawrth 2017, gwnaeth Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr amcangyfrif bod 20% o ferched a 4% o ddynion wedi profi rhyw fath o ymosodiad rhyw ers iddyn nhw fod yn 16 oed. Roedd 3.1% o ferched a 0.8% o ddynion rhwng 16 a 59 oed wedi profi ymosodiad rhyw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

Ewch i’r Wefan

Mae’r data mwyaf diweddar ar gael gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Darllenwch y data mwyaf diweddar


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) yn cynnig cymorth meddygol, ymarferol ac emosiynol. Mae ganddynt feddygon, nyrsys a gweithwyr cefnogi wedi’u hyfforddi’n arbennig a all ofalu amdanoch chi.

Os ydych chi wedi dioddef ymosodiad rhyw, p’un ai oedd hynny fel oedolyn neu berson ifanc, mae’n bwysig cofio nad eich bai chi oedd hyn. Mae trais rhywiol yn drosedd, waeth pwy sy’n ei gyflawni neu lle mae’n digwydd. Peidiwch â bod ofn gofyn am help. (Gwefan y GIG)

Os nad ydych chi’n barod i siarad â’r heddlu, ac os nad ydych chi’n siŵr beth ydych chi am ei wneud, gallwch fynd i SARC. Yn y SARC, gallwch gael cyngor, gwneud datganiad, rhoi samplau fforensig, cael cymorth meddygol (gan gynnwys profion am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a beichiogrwydd), heb orfod rhoi gwybod i’r heddlu am y mater. Caiff y dystiolaeth fforensig ei storio yn y SARC, rhag ofn y byddwch chi am roi gwybod i’r heddlu am y trais yn y dyfodol. Os ydych chi am fynd i SARC, dylech geisio mynd cyn gynted ag sy’n bosibl, fel bod modd i dystiolaeth bwysig gael ei diogelu.

Gallwch hefyd gael help gan Gynghorydd Annibynnol ar Ymosodiadau Rhywiol (ISVA) a all ddarparu cyngor a chymorth arbenigol.
Mae Llinell Gymorth Byw Heb Ofn yn gallu helpu a chefnogi’r rhai sy’n dioddef trais rhywiol, neu sy’n adnabod rhywun sy’n dioddef trais rhywiol. Ffoniwch 0808 80 10 800 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos), neu anfonwch neges destun at 07860077333 neu anfonwch e-bost at info@livefearfreehelpline.wales

Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol (ISVA): Mae Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Rhywiol yn gweithio gyda phobl sydd wedi dioddef trais rhywiol er mwyn eu helpu i gael mynediad i’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Maen nhw’n darparu cyngor diduedd am yr holl opsiynau sydd ar gael fel rhoi gwybod i’r heddlu, y broses cyfiawnder troseddol, cael mynediad i ganolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol, cael cymorth gan sefydliadau arbenigol trais rhywiol a gwasanaethau eraill fel tai neu fudd-daliadau.


Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi creu rhestr o weithredoedd rhyw treisgar a all ddigwydd mewn gwahanol amgylchiadau a lleoliadau. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft:

  • trais mewn priodas neu berthnasoedd;
  • trais gan ddieithriaid;
  • trais systematig yn ystod gwrthdaro arfog;
  • sylw rhywiol dieisiau neu aflonyddu rhywiol, gan gynnwys mynnu rhyw yn gyfnewid am ffafr;
  • cam-drin pobl sy’n feddyliol neu gorfforol anabl yn rhywiol;
  • cam-drin plant yn rhywiol (gweler cam-fanteisio’n rhywiol ar blant);
  • priodas dan orfod neu gyd-fyw dan orfod, gan gynnwys plant yn priodi;
  • gwrthod hawl i ddefnyddio dulliau atal cenhedlu neu ddefnyddio dulliau eraill o amddiffyn yn erbyn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol;
  • erthyliad dan orfodaeth;
  • trais yn erbyn integriti rhywiol merched, gan gynnwys anffurfio organau cenhedlu benywod ac archwiliadau gorfodol am wyryfdod;
  • puteindra dan orfod a masnachu mewn pobl at ddibenion cam-fanteisio rhywiol (gweler caethwasiaeth fodern a cham-fanteisio).

Mae Cymorth i Ferched Cymru yn nodi y gall trais rhywiol ddigwydd mewn sawl ffurf, gall gynnwys, ymhlith pethau eraill:

  • gorfodi neu gymell rhywun i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol yn erbyn eu hewyllys
    defnyddio gwrthrychau mewn modd treisgar neu heb gydsyniad yn ystod rhyw
  • gorfodi neu gymell rhywun i gael rhyw gyda rhywun arall pan nad ydynt yn dymuno gwneud hynny
    rhannu straeon neu ddelweddau rhyw am rhywun heb eu caniatâd
  • gorfodi neu gymell rhywun i gyflawni gweithredoedd rhyw o flaen pobl eraill pan nad ydynt am wneud hynny
  • gorfodi neu gymell rhywun i ddynwared pornograffi
  • gorfodi neu gymell rhywun i gael tynnu eu llun neu gael eu ffilmio yn ystod rhyw/tra bydd cam-drin rhywiol yn digwydd
  • gorfodi neu gymell rhywun i wylio neu edrych ar bornograffi
  • galw enwau rhywiol neu ddifrïol ar rhywun