Mae unigolion, timau, prosiectau a phartneriaethau o bob cwr o Gymru wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2026, gan ddathlu gwaith rhagorol i atal niwed, diogelu pobl a chreu cymunedau mwy diogel a chadarn.
Cynhaliodd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru ei bedwaredd seremoni Wobrau Cymunedau Mwy Diogel flynyddol ym Marchnad Casnewydd, gan ddod â phartneriaid o bob cwr o Gymru ynghyd i ddathlu arloesedd, atal a gweithio mewn partneriaeth ym maes diogelwch cymunedol.
Cyflwynwyd cyfanswm o 45 o wobrau, gan gydnabod cyflawniadau rhagorol ym meysydd ymddygiad gwrthgymdeithasol ac atal troseddu, ymyrraeth gynnar, diogelu, trais difrifol, cydlyniant cymunedol, caethwasiaeth fodern, troseddau cyfundrefnol, diogelwch y cyhoedd ac atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn Enillydd Cyffredinol 2026
Aeth prif anrhydedd y prynhawn i ymateb Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i Danau Gwyllt, a enwyd yn Enillydd Cyffredinol yn dilyn cyfnod eithriadol o danau gwyllt yn ystod haf 2026.
Cydnabu’r beirniaid yr ymateb amlasiantaethol eithriadol, a ddaeth â’r gwasanaethau brys a phartneriaid ynghyd i ddiogelu pobl, cymunedau, seilwaith a’r amgylchedd. Derbyniodd yr Ymateb i Danau Gwyllt hefyd un o ddwy Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig.
Aeth yr ail Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig i Brosiect Sefydliad Cruyff Ysgol Dyffryn Aman, gan gydnabod ymateb cymuned yr ysgol i ddigwyddiad treisgar difrifol a’i gwaith i greu rhywbeth cadarnhaol a pharhaol, gan ganolbwyntio ar adferiad, cynhwysiant ac atal.
Dathlu diogelwch cymunedol ledled Cymru
Cyflwynwyd gwobrau ar draws ystod eang o weithgarwch diogelwch cymunedol, gan gydnabod dulliau arloesol o atal, ymyrraeth gynnar, diogelu, mynd i’r afael â chamfanteisio a thrais difrifol, cydlyniant cymunedol, diogelwch y cyhoedd a chefnogi dioddefwyr a chymunedau.
Roedd gwobrau i unigolion, timau a phartneriaethau hefyd yn dathlu’r bobl a’r sefydliadau y mae eu hymrwymiad a’u gwaith cydweithredol yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru.
Ewch i’n tudalennau Gwobrau 2026 i ddarganfod holl enillwyr a derbynwyr Canmoliaeth Uchel eleni, darllen mwy am eu gwaith a gweld ffotograffau o’r seremoni.
Mae’n Cymryd Pob Un Ohonom
Gan gael ei chynnal y diwrnod ar ôl Diwrnod y Rhuban Gwyn, roedd y seremoni’n adlewyrchu neges eleni,“Mae’n Cymryd Pob Un Ohonom”, gan gydnabod bod cymunedau mwy diogel yn cael eu creu pan fydd sefydliadau, gweithwyr proffesiynol a chymunedau’n gweithio gyda’i gilydd i adnabod risg, herio ymddygiad niweidiol, cefnogi’r rhai sydd mewn perygl ac atal niwed cyn iddo ddigwydd.
Cafodd y seremoni ei chyflwyno unwaith eto gan John-Paul Davies, gyda’r gwobrau’n cael eu cyflwyno gan gynrychiolwyr o’r heddlu, llywodraeth leol, y gwasanaethau tân ac achub, Llywodraeth Cymru a Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.
Clywodd y gwesteion hefyd gan yr Uwcharolygydd Esyr Jones o Heddlu Gwent, a rannodd yr hyn a ddysgwyd o Ymgyrch Krypton a’r dull partneriaeth sy’n cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â throseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol a phryderon diogelwch cymunedol yng Nghasnewydd.
Hoffai Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru longyfarch pawb a gafodd eu cydnabod drwy Wobrau 2026 a diolch i bawb a gyflwynodd enwebiadau neu a gefnogodd seremoni eleni, gan gynnwys Crimestoppers, a noddodd dystysgrifau’r Gwobrau, a Marchnad Casnewydd am gynnal y digwyddiad.
Roedd safon enwebiadau eleni yn dangos ehangder rhyfeddol y gwaith diogelwch cymunedol sy’n digwydd ledled Cymru ac, yn anad dim, ymrwymiad y bobl sydd wrth wraidd y gwaith hwnnw.
Diolch yn fawr iawn, a llongyfarchiadau i bawb a gafodd eu cydnabod yng Ngwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2026.
Gweld holl gynnwys a ffotograffau Gwobrau 2026