Neidio i'r prif gynnwys

Lansio Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru

Archwilio is-bynciau

Lansio Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru “Adfywio Diogelwch Cymunedol yng Nghymru Gyda’n Gilydd”

Ar Ddydd Mercher 2 Mawrth 2022, 10.00 – 12.00, cynhaliodd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru lansiad rhithwir o’r Rhwydwaith, “Adfywio Diogelwch Cymunedol yng Nghymru Gyda’n
Gilydd”, er mwyn dod â phartneriaid ynghyd ac amlygu nod y Rhwydwaith i weithio gyda’n gilydd dros gymunedau mwy diogel ledled Cymru. Roedd y siaradwyr yn cynnwys Jane Hutt AS, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol; Gwir Anrh Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, ac Arweinydd Diogelwch Cymunedol ar gyfer Plismona yng Nghymru; Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr presennol Gofal Cymdeithasol a Thai, a Dirprwy Brif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC); a Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd. Cafodd y sesiwn ei chadeirio gan Emma Thomas, Pennaeth Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.

Isod fe welwch y pecyn lansio, cyflwyniadau a’r recordiad.