Neidio i'r prif gynnwys

Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn annog aelwydydd i ddilyn cyngor achub bywyd i leihau tanau trydanol.

Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru yn annog aelwydydd i ddilyn cyngor achub bywyd i leihau tanau trydanol.

Mae’r tri gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru yn annog aelwydydd i barhau i fod yn wyliadwrus a dilyn cyngor diogelwch achub bywyd wedi pryder cynyddol am ddiogelwch tân trydanol gartref. Yn y tair blynedd hyd at 31 Hydref 2022, fe wnaeth Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru fynychu bron i fil o danau trydanol damweiniol yn y cartref.

Cliciwch ar unrhyw un o’r dolenni isod i ddarllen y datganiad llawn i’r wasg.

Gyda phryderon ynghylch costau byw ar flaen ein meddyliau i gyd, gan ystyried dulliau amgen o wresogi’r cartref, fel gwresogyddion trydan neu losgwyr log. Fodd bynnag, mae costau cynyddol yn golygu bod atal tân gartref bellach yn bwysicach nag erioed. Mae’n hanfodol bod yr offer hyn yn cael eu defnyddio’n gywir ac nid ar draul diogelwch.

Gall preswylwyr ddilyn yr awgrymiadau diogelwch tân trydanol hyn, i leihau’r risg y bydd tân damweiniol yn cychwyn yn eu cartref:

  • Gweithredwch offer yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.
  • Cadwch offer trydanol yn lân, mewn cyflwr gweithredol da a gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu gwasanaethu’n rheolaidd yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.
  • Peidiwch â phrynu nwyddau trydanol ffug neu lwgr, mae’n bosib na fydd y rhain wedi cael eu profi ac a heb fodloni’r safonau diogelwch gofynnol.
  • Peidiwch â gadael offer trydanol yn y modd segur, oni bai eu bod wedi’u dylunio i gael eu gadael ymlaen (oergelloedd a rhewgelloedd er enghraifft). Dylai pob teclyn arall gael ei ddiffodd wrth y plwg, gan dynnu’r plwg yn ddelfrydol, cyn mynd allan neu cyn mynd i’r gwely.
  • Ceisiwch osgoi defnyddio peiriannau golchi dillad, peiriannau sychu dillad a pheiriannau golchi llestri dros nos neu os ydych chi oddi cartref. Peidiwch â gwefru ffonau na theclynnau dros nos a pheidiwch â’u gosod ar ddodrefn meddal megis yn eich gwely neu ar eich gwely.
  • Os ydych chi’n defnyddio peiriant sychu dillad, gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i awyru’n dda, gwnewch yn siŵr nad yw’r bibell awyru wedi cael ei phlygu na’i rhwystro na’i malu mewn unrhyw ffordd. Glanhewch yr hidlydd bob amser ar ôl defnyddio eich peiriant sychu dillad.
  • Gwiriwch eich socedi’n rheolaidd – os gwelwch olion llosgi neu os ydynt yn teimlo’n boeth, peidiwch â’u defnyddio a gofynnwch i drydanwr cofrestredig wirio a oes angen eu trwsio neu eu newid.
  • Sicrhewch fod unrhyw wresogyddion trydan cludadwy yn cael eu defnyddio’n ddiogel. Ni ddylent gael eu defnyddio i sychu na chynhesu dillad, ac ni ddylid eu gadael ymlaen heb fod neb yn gofalu amdanynt.
  • Os ydych chi’n defnyddio blanced drydan, gwiriwch ei bod hi mewn cyflwr da a bod cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr yn cael eu dilyn. Os yw’r blanced yn fwy na phum mlwydd oed, ystyriwch brynu un newydd gan adwerthwr cymeradwy a sicrhau ei bod yn cael ei storio’n gywir i osgoi difrod i’r gwifrau mewnol.
  • Defnyddiwch geblau estyniad lluosol lle gellir rheoli pob plwg yn annibynnol, yn hytrach nag addasydd ‘bloc’. Er mwyn osgoi gorlwytho, peidiwch â gadael i gyfanswm ampiau’r holl blygiau yn yr addasydd fynd dros 13 amp (neu 3000 wat o bŵer). Peidiwch â phlygio addaswyr i mewn i addaswyr eraill.

Mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub hefyd yn hyrwyddo ymgyrch AMDEA Register My Appliance.  Drwy gofrestru cyfarpar hen neu ail law os oes galw cynnyrch yn ôl neu fater diogelwch byddwch yn cael gwybod, a gall hyn atal tân neu gyflwr peryglus posibl.

Gallwch gofrestru offer hen a newydd yma: https://www.registermyappliance.org.uk/

I ofyn am Wiriad Diogel ac Iach/Gwiriad Diogelwch yn y Cartref:

Galwch 0800 169 1234 neu ewch i