Neidio i'r prif gynnwys

Gwybodaeth Menywod mewn Plismona

Gwybodaeth Menywod mewn Plismona

Bydd Heddlu Gwent yn cynnal sesiwn gwybodaeth menywod mewn plismona ddydd Sadwrn 13 Ionawr 2024 ym Mhencadlys Heddlu Gwent.

Mae’r digwyddiad ar gyfer unrhyw fenyw sydd wedi meddwl am ddod yn heddwas neu’n dditectif ac wedi meddwl tybed sut brofiad fyddai, a allent ei wneud a pha gymorth sydd ar gael iddynt.

Bydd panel o swyddogion benywaidd o wahanol rolau a rhengoedd yn siarad am eu rolau a’u profiadau personol o blismona. Byddwch yn cael cyfle i siarad â’r swyddogion hyn mewn lleoliad anffurfiol a gofyn unrhyw gwestiynau iddynt yn ogystal â chael gwybod am y daith recriwtio, hyfforddiant a mwy.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru eich presenoldeb cliciwch yma.