Neidio i'r prif gynnwys

Wythnos Ymwybyddiaeth Stelcio 2023

Wythnos Ymwybyddiaeth Stelcio 2023

#SefyllYnErbynStelcio

Ar gyfer Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Stelcio (NSAW) eleni thema ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh yw ‘Sefyll yn Erbyn Stelcio: Cefnogi Pobl Ifanc’. Gyda ffocws ar stelcian ymhlith pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed.

Mae’r ymddiriedolaeth yn canfod bod nifer cynyddol o bobl ifanc 16 i 24 oed yn cysylltu â’u Llinell Gymorth i geisio cymorth ar sut i ddelio ag ymddygiadau digroeso, oherwydd yn aml, gall hwn fod yn gyfnod hynod o anodd a phryderus iddynt, gan arwain at canlyniadau iechyd meddwl andwyol, ac effeithio ar eu haddysg a’u bywyd cymdeithasol. Eleni byddwn yn archwilio profiadau pobl ifanc o stelcio ac ymwybyddiaeth o ymddygiadau stelcian posibl.

Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol: 0808 802 0300

Gallwch gael cymorth 24/7 ar y ffôn 0808 80 10 800, drwy neges destun neu drwy sgwrs we fyw o Byw Heb Ofn

Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser. Am gymorth tawel ffoniwch 999 ac yna pwyswch 55.