Mae’r Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel yn ôl i ddathlu’r bobl, y partneriaethau a’r prosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddiogelwch cymunedol ledled Cymru. Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2026 bellach ar agor.
Cynhelir pedwaredd seremoni flynyddol Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel blynyddol ddydd Iau 26 Tachwedd 2026 ym Marchnad Casnewydd, gan ddod â chydweithwyr o bob cwr o Gymru at ei gilydd i gydnabod cyfraniadau eithriadol at atal troseddu, lleihau niwed a chreu cymunedau mwy diogel.
Mae’r Gwobrau yn tynnu sylw at yr unigolion, y timau a’r partneriaethau y mae eu hymroddiad yn aml yn mynd heb ei weld, ond y mae eu gwaith yn cael effaith barhaol ar fywydau unigolion, teuluoedd a chymunedau. Maent yn rhoi cyfle i ddathlu arloesedd, cydweithredu a rhagoriaeth mewn diogelwch cymunedol.
Roedd Gwobrau’r llynedd yn dathlu gwaith rhagorol o bob cwr o Gymru, gyda’r cyd-enillwyr cyffredinol Action for Children ac Academi Cyfryngau Cymru (Positive Masculinity) ill dau yn cael eu cydnabod am eu cyfraniad sylweddol at atal, ymyrraeth gynnar a lles cymunedol. Mae eu llwyddiant yn dangos yr ystod eang o fentrau sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl a chymunedau ledled Cymru.
Mae’r Gwobrau yn dathlu’r ystod amrywiol o waith sy’n cael ei wneud ledled Cymru i atal a lleihau niwed, cefnogi pobl agored i niwed a chryfhau cymunedau. Gyda thair ar ddeg o gategoriau ar gael ar gael, mae cyfleoedd i gydnabod unigolion, partneriaethau a phrosiectau o bob rhan o’r dirwedd diogelwch cymunedol.
Gellir cyflwyno enwebiadau ar gyfer unrhyw unigolyn, sefydliad neu brosiect sy’n gweithio yng Nghymru, boed o’r sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, a gellir eu hunan-enwebu neu eu cyflwyno gan drydydd parti. Gellir cyflwyno enwebiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae’r broses enwebu yn syml, ac mae angen ffurflen gais fer sy’n amlinellu’r effaith a wnaed ar gymunedau neu unigolion ac yn dangos sut mae’r gwaith wedi cyflawni atal, arloesi a chanlyniadau cadarnhaol.
Mae’r enwebiadau ar agor o ddydd Llun 27 Gorffennaf ac yn cau am 17:00 ar ddydd Gwener 25 Medi 2026.
Bydd y seremoni wobrwyo unwaith eto yn cael ei chynnal gan y darlledwr John-Paul Davies, sy’n dychwelyd i helpu i ddathlu cyflawniadau gweithwyr proffesiynol diogelwch cymunedol o bob cwr o Gymru.
Dywedodd Mark Brace, Pennaeth Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru:
“Mae’r Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel yn gyfle i gydnabod a dathlu’r bobl, y partneriaethau a’r prosiectau ymroddedig sy’n gwneud cymunedau’n fwy diogel ledled Cymru. Rydym yn annog cydweithwyr o bob sector i gyflwyno enwebiadau a helpu i dynnu sylw at y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud bob dydd.”
I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau, y categorïau a sut i gyflwyno enwebiad, ewch i dudalen Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2026.