Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn rhoi pŵer i’r heddlu ofyn i westai a sefydliadau tebyg i roi gwybodaeth iddynt am westeion os byddant yn credu bod rhywun wedi camfanteisio’n rhywiol ar blant.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi cynnwys canllawiau statudol ar ddeall, atal ac ymateb i faterion yn ymwneud â chamfanteisio’n rhywiol ar blant drwy’r Canllawiau diogelu plant rhag i rywun gamfanteisio’n rhywiol arnynt. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cynnwys canllawiau arferion da ar ddiogelu plant rhag i rywun gamfanteisio’n rhywiol arnynt.
Mae Deddf Troseddau Difrifol 2015 a Deddf Troseddau Rhyw 2003 yn ei gwneud yn anghyfreithlon yng Nghymru a Lloegr i:
- Annog neu gwneud i blentyn o dan 16 oed gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol
- Hwyluso trosedd rhyw ar blentyn
- Cwrdd â phlentyn ar ôl eu paratoi i bwrpas rhyw
- Cyfathrebu gyda phlentyn o dan 16 oed mewn modd rhywiol
- Cymryd, gwneud neu feddu ar ffotograffau a delweddau anweddus o blant o dan 18 oed
- Camfanteisio’n rhywiol ar blentyn o dan 18 oed.
Yng Nghymru a Lloegr mae’r drosedd o feithrin perthynas amhriodol yn berthnasol i unrhyw un dros 18 oed sy’n meithrin perthynas amhriodol gydag unrhyw un o dan 16 oed.
Mae’r Swyddfa Gartref yn rhoi canllawiau am Ddeddf Troseddau Rhyw 2003, yn cynnwys y gwahanol droseddau rhyw a’u cosbau mwyaf. Mae’r canllawiau hefyd yn ymwneud â Gorchmynion Atal Niwed Rhywiol a Gorchmynion Risg Rhywiol. Darperir canllawiau gan Wasanaeth Erlyn y Goron am ddwyn achos yn erbyn achosion o gam-drin plant yn rhywiol.
Mae Deddf Troseddwyr Rhyw 1997 yn amlinellu cyfres o ofynion monitro ac adrodd ar gyfer troseddwyr rhyw.
O dan gynllun datgelu troseddwyr rhyw â phlant, mae “Deddf Sarah” yn golygu y gall unrhyw un yng Nghymru a Lloegr ofyn i’r heddlu os oes gan unrhyw un â mynediad at blentyn gofnod o droseddau rhyw ar blant (Swyddfa Gartref). Bydd yr Heddlu yn datgelu manylion yn gyfrinachol i’r person sydd fwyaf abl i ddiogelu’r plentyn os ydynt yn credu y byddai hynny er lles y plentyn.
Mae Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 yn rhoi’r fframwaith ar gyfer fetio a gwahardd pobl sy’n ceisio gweithio gyda phlant.
Ceir canllawiau i gefnogi ymarferwyr sy’n cynnal archwiliadau meddygol ar blant a phobl ifanc sydd wedi, neu y credir eu bod wedi, cael eu cam-drin yn rhywiol a bod rhywun wedi camfanteisio arnynt yn rhywiol.