Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005) yn berthnasol i unrhyw un dros 16 oed ac mewn rhai achosion gall ymwneud â chamfanteisio’n rhywiol:
- Nam neu amhariad sy’n effeithio ar y ffordd mae’r meddwl neu’r ymennydd yn gweithio
- Mae gallu person yn benodol i’r penderfyniad a’r amser dan sylw
- Dylai gallu person gael ei asesu gan y “person sydd yn y sefyllfa orau” o ran penderfyniadau penodol
- Os oes gan berson ddiffyg gallu, yna dylid dod i benderfyniad er lles y person
- Mae angen i asiantaethau weithio gyda’i gilydd i asesu gallu.
Pan fydd hyn yn digwydd, daw camfanteisio’n rhywiol o dan y ddeddfwriaeth ar gyfer Diogelu drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae Deddf Troseddau Rhyw 2003 yn diogelu oedolion sydd mewn perygl lle bydd gweithgarwch rhywiol yn seiliedig ar gamfanteisio a cham-drin. Mae hyn yn cynnwys pobl â galluedd meddyliol cyfyngedig sy’n amharu ar eu gallu i ddewis, sy’n cynnwys y rhai sydd â chymaint o nam ar eu gallu meddyliol ar adeg y gweithgaredd rhywiol fel nad ydynt yn gallu gwrthod; y rhai sydd â’r gallu i gydsynio ond sydd ag anhwylder meddyliol sy’n eu gwneud yn agored i ysgogiad, bygythiad neu ddichell; a throseddau a gyflawnir gan weithwyr gofal ar y rhai nad oes ganddynt y gallu i gydsynio.
Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, adran 2 yn rhoi’r ddeddfwriaeth ynghylch trefnu neu hwyluso i berson arall deithio gyda’r bwriad i gamfanteisio arnynt. Mae Adran 3 y Ddeddf yn diffinio ystyr camfanteisio.
Mae Rheoliadau Masnachu mewn Pobl at ddibenion Camfanteisio 2013 yn amddiffyn pobl sydd wedi cael eu masnachu rhag camfanteisio troseddol ac maent yn gosod mesurau i amddiffyn dioddefwyr.
Ymdrinnir â chamfanteisio’n rhywiol yn Neddf Amddiffyn Plant 1978 a Deddf Troseddau Rhyw 2003.
Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar sut i adnabod a chefnogi dioddefwyr caethwasiaeth fodern.