Neidio i'r prif gynnwys

Cyn-filwyr

“Mae cyn-filwyr yn cael eu diffinio fel unrhyw un sydd wedi gwasanaethu am o leiaf un diwrnod yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi (Rheolaidd neu Wrth Gefn) neu Lynges Fasnachol sydd wedi gweld dyletswydd ar weithrediadau milwrol a ddiffinnir yn gyfreithiol.

 

“Mae ‘Rhywun sy’n Gadael Gwasanaeth’ yn derm am rywun sydd yn symud neu wedi rhoi’r gorau i fod yn aelod o Luoedd Arfog EM. Mae’r term ‘Gadael Gwasanaeth’ yn nodweddiadol yn cael ei ddefnyddio mewn dogfennau cyfreithiol, gan fod dealltwriaeth a defnydd o’r term ‘cyn-filwr’ yn amrywio hyd yn oed ymhlith y sawl sydd wedi gwasanaethu. Nid yw llawer o gyn bersonél y Lluoedd Arfog yn y DU yn diffinio eu hunain fel ‘cyn-filwyr’.”

 

Swyddfa Materion Cyn-filwyr, Llywodraeth y DU

Amcangyfrifodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod 1.8 miliwn o gyn-filwyr mewn aelwydydd ledled y DU yn 2021, sef tua 7% o’r holl aelwydydd. Roedd bron i draean (31.8%) yn 80 oed a throsodd, tra bod 37.3% rhwng 50 a 69 oed.

Yng Nghymru, Conwy oedd yr awdurdod lleol â’r gyfran uchaf o gyn-filwyr (5.9%) a’r gyfran uchaf o gartrefi ag o leiaf un cyn-filwr (10.2%). Sir Benfro oedd â’r ail gyfran uchaf o gyn-filwyr (5.7%), ac Ynys Môn oedd â’r ail gyfran uchaf o gartrefi ag o leiaf un cyn-filwr (9.9%). Mae’r holl awdurdodau lleol hyn yn cynnwys sefydliadau milwrol, neu wedi’u lleoli wrth eu hymyl, gan awgrymu bod cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig yn tueddu i aros yn yr un ardaloedd ar ôl iddynt adael y lluoedd arfog.

 

Cyfamod y Lluoedd Arfog

“Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl bod y rhai sy’n gwasanaethu, neu wedi gwasanaethu, a’u teuluoedd, yn cael eu trin yn deg.”

 

Llywodraeth y DU

Mae yna bwyslais penodol ar gyflogaeth, iechyd, y system gyfiawnder a thai. Cyfuniad o wasanaethau datganoledig a heb eu datganoli ond sy’n berthnasol i holl sefydliadau sector cyhoeddus, y trydydd sector a rhai preifat, fel sefydliadau ariannol. Mae pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymuno â chyfamod y Lluoedd Arfog. Mae yna 7 o Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog ar gyfer ardal pob Awdurdod Lleol yng Nghymru a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ym mhob ardal Awdurdod Lleol.

Deddfwriaeth

  • Deddf y Lluoedd Arfog 2011: Roedd Cyfamod y Lluoedd Arfog wedi’i gadw mewn cyfraith, i sicrhau nad yw aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais o ganlyniad i wasanaeth wrth gael mynediad i wasanaethau masnachol a’r Llywodraeth. Ystyriaeth arbennig ble bo’n briodol i’r sawl sydd wedi eu hanafu neu’n galaru.
  • Cyflwynodd Deddf y Lluoedd Arfog 2021 ofyniad newydd i rai cyrff cyhoeddus, gan gynnwys y GIG ac awdurdodau lleol, roi ‘sylw dyledus’ i egwyddorion y Cyfamod wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus penodol ym meysydd tai, gofal iechyd ac addysg.

Mae gwefan Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cynnwys manylion am ddyletswyddau cyfreithiol y Cyfamod. Mae canllawiau statudol wedi’u cyhoeddi gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

 

Hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth

 

Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae’r canllaw hwn gan Lywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth a chysylltiadau ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog sy’n byw yng Nghymru.

Mae Veterans UK  yn darparu cymorth, cefnogaeth a chyngor i gyn-filwyr fel rhan o’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Gellir ffonio Y Lleng Brydeinig Frenhinol ar 0808 802 8080.  Maent yn darparu cymorth i aelodau’r Llynges Frenhinol, y Llu Awyr Brenhinol, cyn-filwyr a’u teuluoedd.

Dylai cefnogaeth i gyn-filwyr fod ar gael drwy’r Awdurdod Lleol (gweler Cyfeiriadur) fel rhan o Gyfamod y Lluoedd Arfog.

 

Adolygwyd y cynnwys ddiwethaf – Ebrill 2026