- Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi’r dyletswyddau a’r cefndir deddfwriaethol i ddarparu gofal a chymorth, yn ogystal ag i ymateb i bryderon diogelu a’r angen i roi gwybod am unrhyw arwyddion o gamdriniaeth i dimau diogelu.
- Mae rhan 7 yn hynod o bwysig gan ei fod yn amlinellu’r canllawiau statudol y mae’n rhaid cydymffurfio â hwy.
- Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn rhoi eglurder ac maent yn hygyrch ar gyfer cyflawni cyfrifoldebau diogelu ac ymateb i’r canllawiau.
- Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys y 7 nod ar gyfer lles i sicrhau Cymru gydnerth, Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru Iachach a Chymru o Gymunedau Cydlynus. Mae’r rhain i gael eu cyflawni drwy’r 5 ffordd o weithio: cydweithio, atal, ymwneud, integreiddio a hirdymor.
Deddfwriaethau eraill:
- Deddf Hawliau Dynol 1998
- Deddf Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
- Deddf Troseddau Difrifol 2015
- Deddf Cam-drin Domestig 2021
- Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a (Deddf Diwygio) Galluedd Meddyliol 2019 (gan gynnwys cyflwyno’r Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DOLS)
- Deddf Diogelu Data 2018
- Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997
- Deddf Twyll 2006
- Deddf Cydraddoldeb 2010
- Deddf Mewnfudo 2016