Neidio i'r prif gynnwys

Cam-drin Oedolyn mewn Perygl

Archwilio is-bynciau

Beth yw Cam-drin Oedolyn mewn Perygl?

Mae Cam-drin Oedolyn mewn Perygl yn un o’r dair elfen o dan ddiogelu. Fodd bynnag caiff Oedolyn mewn Perygl a Cham-drin Pobl Hŷn ei reoli ar y cyd o dan ddeddfwriaeth a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Caiff oedolyn mewn perygl ei ddiffinio gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel “oedolyn sy’n:

  • profi, neu mewn perygl o brofi, camdriniaeth neu esgeulustod
  • sydd ag anghenion o ran gofal a chymorth
  • sydd o ganlyniad i’r anghenion hynny yn methu amddiffyn ei hun yn erbyn y gamdriniaeth neu’r esgeulustod neu’r perygl o hynny.”

Yn ôl Gweithdrefnau Diogelu Cymru:

“mae’r defnydd o’r term ‘mewn perygl’ yn golygu nad oes angen i gamdriniaeth neu esgeulustod go iawn ddigwydd cyn i ymarferwyr ymyrryd, yn hytrach dylai ymyriadau cynnar i amddiffyn oedolyn mewn perygl gael eu hystyried i atal camdriniaeth ac esgeulustod go iawn….”

…”.

Fe all camdriniaeth fod yn gorfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol, ariannol neu’n esgeulustod. Gall y gamdriniaeth ddigwydd mewn unrhyw leoliad, boed mewn annedd breifat, sefydliad neu unrhyw le arall. Gall nifer o’r rhain gael eu cysylltu â phynciau eraill yr ymdrinnir â hwy ar y wefan hon, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio, a chamfanteisio’n droseddol.

Cyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 roedd oedolion mewn perygl yn cael eu hadnabod fel oedolion diamddiffyn, term y cyfeirir ato yn aml o hyd o fewn y system cyfiawnder troseddol. Gall oedolyn gael ei nodi fel un sydd mewn perygl o ganlyniad i alluedd meddyliol (gan gynnwys dementia), iechyd a lles corfforol neu emosiynol, bod yn ofalwr di-dâl neu nodweddion eraill a ddiogelir.

Mae’n rhaid i’r dioddefwr fod yn 18 oed neu’n hŷn. Os ydynt o dan 18 oed yna daw’r gamdriniaeth o dan gategori cam-drin plant.

  • Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi’r dyletswyddau a’r cefndir deddfwriaethol i ddarparu gofal a chymorth, yn ogystal ag i ymateb i bryderon diogelu a’r angen i roi gwybod am unrhyw arwyddion o gamdriniaeth i dimau diogelu.
  • Mae rhan 7 yn hynod o bwysig gan ei fod yn amlinellu’r canllawiau statudol y mae’n rhaid cydymffurfio â hwy.
  • Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn rhoi eglurder ac maent yn hygyrch ar gyfer cyflawni cyfrifoldebau diogelu ac ymateb i’r canllawiau.
  • Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys y 7 nod ar gyfer lles i sicrhau Cymru gydnerth, Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru Iachach a Chymru o Gymunedau Cydlynus. Mae’r rhain i gael eu cyflawni drwy’r 5 ffordd o weithio: cydweithio, atal, ymwneud, integreiddio a hirdymor.

 

Deddfwriaethau eraill:


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Fe all fod yn anodd estyn am gymorth os yw’r gamdriniaeth gan rywun sy’n ffrind agos neu’n berthynas, ond nid yw camdriniaeth ac esgeulustod fyth yn dderbyniol ac mae yna gymorth ar gael i helpu ei atal. Os yw’r gamdriniaeth yn cael ei gwneud gan rywun sy’n darparu gofal a chymorth, yna ni fydd rhoi gwybod am hynny yn eich atal rhag derbyn gwasanaethau. Fe fydd eich anghenion gofal a chymorth yn parhau i gael eu diwallu fel rhan o unrhyw ymateb diogelu.

 

Rhowch wybod am faterion diogelu o fewn eich awdurdod lleol (gweler y Cyfeiriadur). Rhowch wybod i’r heddlu drwy ffonio 101 neu rhowch wybod am hyn ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent  neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu tecstiwch 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.