Neidio i'r prif gynnwys

Profiad Niweidiol yn Ystod Plentyndod ac Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Drawma

Archwilio is-bynciau

Beth yw Profiad Niweidiol yn Ystod Plentyndod ac Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Drawma?

“Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ddigwyddiadau trawmatig, yn arbennig y rhai hynny mewn plentyndod cynnar, sy’n effeithio iechyd a lles pobl yn sylweddol.

 

Mae’r profiadau yn amrywio o ddioddef camdriniaeth eiriol, feddyliol, rhywiol a chorfforol i fod wedi byw mewn aelwyd lle’r oedd trais domestig, cam-drin alcohol, rhieni wedi gwahanu neu gam-drin cyffuriau yn bresennol.”  Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yn 2016 fe gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru’r astudiaeth gyntaf ar Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod a oedd yn dangos pa mor eang oeddent a’u heffaith. Hefyd cynhyrchwyd ffeithluniau byr ganddynt i gefnogi’r adroddiadau llawn:

Hefyd roedd yna adroddiadau ar effaith lles meddyliol a digartrefedd.

Cafodd Canolbwynt Cymorth ACE ei sefydlu i gasglu’r holl wybodaeth a meithrin y sail dystiolaeth a’r arfer gorau yn ymwneud â Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod a’r ymateb iddynt.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn datgan fod: “Atal a lliniaru effaith Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod yn thema drawsbynciol ac mae’n hanfodol i iechyd a lles cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae Comisiynydd Plant Cymru, tra’n gefnogol i’r gwaith ar Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod, hefyd wedi nodi ffactorau risg eraill y bydd angen eu gosod ochr yn ochr â Phrofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod i sicrhau y caiff ymagwedd unigolyn cyfan ei mabwysiadu.

Nododd adolygiad Llywodraeth Cymru o Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod: “Dylai ein hymagwedd tuag at godi ymwybyddiaeth o drallod yn ystod plentyndod gefnogi rhieni a dylai osgoi canlyniadau anfwriadol, fel stigma neu gynyddu ymyriadau statudol ataliadwy. Hefyd dylid osgoi canolbwyntio cul ar ymddygiadau rhieni yn unig. Mae atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gofyn am roi sylw i’r cyd-destunau cymdeithasol ac economaidd ehangach o fywyd teuluol.”

Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Drawma, Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma neu Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol yw’r ymateb i Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod. Cynyddu gwytnwch unigolion a’r gymuned, atal Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod yn y dyfodol a lleihau effaith Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod.

Dywedodd Cymorth Cymru fod: “Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol yn ystyried gwneuthuriad seicolegol ei gyfranogwyr – y meddwl, emosiynau, personoliaethau a’r profiad o drawma yn y gorffennol – yn y ffordd y mae’n gweithredu.”

 

  • Canolbwynt Cymorth Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndodd

Pecyn e-ddysgu Cyflwyniad i Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod

Adnoddau Hyfforddi Addysg

Fideos Gallwch fod yn newid

YouTube – Hyfforddiant E-ddysgu Canolbwynt Cymorth Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod

  • Cymorth Cymru

Cyflwyno rhaglen hyfforddi PATH

YouTube Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod ac Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Drawma / Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma ac Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol i gyd yn adnabod trawma a thrawma hanesyddol. Mae’n bosibl y bydd angen cymorth arbenigol, neu gymorth yn dibynnu ar sut mae unigolyn wedi ymateb. Felly mae’n briodol i nodi’r cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael ar gyfer unrhyw ymddygiad o ganlyniad, gweler Dewis Cymru a chwiliwch am wasanaethau cymorth.

Mae Cymdeithasau Tai, Cyfiawnder Troseddol, Addysg ac ystod o wasanaethau eraill yn defnyddio’r ymchwil, yn ogystal â’r ymchwil orau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn gynyddol i ymateb. Os ydych chi’n ymwneud ag unrhyw rai o’r rhain yna siaradwch â hwy os gwelwch yn dda. Os yw Profiad Niweidiol yn Ystod Plentyndod o ganlyniad i weithred benodol, yna gweler y cymorth a’r gefnogaeth o dan bob un o’r meysydd pwnc.