Neidio i'r prif gynnwys

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)

Archwilio is-bynciau

Beth yw y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)?

Mae’n bwysig fel cyflogwyr a mudiadau gwirfoddol bod diogelwch plant ac oedolion mewn perygl (oedolion diamddiffyn) yn cael eu hamddiffyn rhag y sawl sydd eisoes wedi eu nodi fel rhywun sy’n risg posibl.   Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn rhan o’r adnoddau i gynorthwyo ynghyd ag arferion recriwtio a dethol eraill.

Daeth y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o uno’r Swyddfa Cofnodion Troseddol a’r Awdurdod Diogelu Annibynnol drwy’r Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 a daeth i fodolaeth yn Rhagfyr 2012.

Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn helpu cyflogwyr i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel yng Nghymru, Lloegr, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw ac mae’n cynnal y rhestrau gwahardd Plant ac Oedolion gan gynnwys os dylai unigolyn gael ei gynnwys ar un neu’r ddwy restr yn eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgaredd a reoleiddir. Mae’r GDG yn berthnasol ar gyfer unigolion sy’n 16 oed neu hŷn.

Mae yna bedair lefel ar gyfer gwiriad GDG:

  • Gwiriad DBS sylfaenol: yn cynnwys manylion euogfarnau a rhybuddion amodol na dreuliwyd o dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Gall y gwiriad hwn fod at unrhyw ddiben a gall unigolion ymgeisio.
  • Gwiriad GDG safonol: sy’n dangos collfarnau heb ddarfod ac wedi darfod, rhybuddion, ceryddon a rhybuddion. Mae’r gwiriad hwn ar gyfer rolau fel swyddogion diogelwch a gellir ond ei ddefnyddio gan sefydliad recriwtio.
  • Gwiriad GDG Manylach: yn cynnwys euogfarnau wedi darfod a heb ddarfod, rhybuddion, ceryddon a rhybuddion a gall hefyd gynnwys gwybodaeth arall a gyflenwir gan heddlu perthnasol. Mae’r gwiriad hwn ar gyfer rolau (cyflogedig a gwirfoddol) sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion mewn perygl (oedolion diamddiffyn) ac Ymddiriedolwyr elusennau sy’n gweithio gyda naill ai neu’r ddau grŵp hynny.
  • Gwiriad GDG Manylach gyda Rhestrau Gwaharddedig: yn cynnwys yr un fath â gwiriad GDG manylach ynghyd â gwirio un neu’r ddwy o’r rhestrau gwaharddedig.

Mae cymhwysedd ar gyfer mathau 2, 3 a 4 wedi eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth.   Os nad ydych yn siŵr, mae yna adnodd cymhwysedd GDG yn ogystal â chanllawiau cymhwysedd.

Nid oes yna ddyddiad terfyn ar gyfer GDG ac er y gall sefydliad neu gorff ddewis derbyn gwiriad GDG presennol, y lefel a dyddiad caffael a’i fod yn bodloni gofynion ar gyfer ei ddefnyddio, er enghraifft ei fod yn cynnwys oedolion neu blant yn dibynnu ar y rôl.   I sicrhau nad oes unrhyw beth ar goll yna mae’n bosibl y bydd angen gwiriad GDG newydd.

Mae yna wasanaeth diweddariad GDG ac er nad oes yna ddyddiad terfyn, mae llawer yn parhau i ddefnyddio’r nod tair blynedd ar gyfer adolygu a oedd ar waith o dan drefniadau blaenorol. Mae’n bosibl y bydd y gwasanaeth diweddaru yn lleihau’r angen am sawl tystysgrif GDG gan y gall gwybodaeth gael ei gwirio ble mae gwiriadau presennol yn bodoli, mae hwn ar y gwasanaeth ar-lein.

Nid yw datgeliad yn angenrheidiol yn golygu na all unigolyn gymryd rhan mewn gweithgaredd (oni bai eu bod ar y rhestr gwahardd) ond bod angen ystyried natur y datgeliad yn erbyn y gweithgaredd a gynhelir a’r risgiau a ystyrir neu fesurau lliniaru a roddwyd ar waith.   Gall rhai contractau bennu y gellir ond gwneud rhai swyddi gan y sawl â gwiriadau GDG glân.

Rhestrau gwahardd

Mae yna dair ffordd y gall unigolion gael eu hychwanegu at y rhestr atal:

-Trosedd atal awtomatig: Mae hyn pan fydd rhywun newydd eu cael yn euog neu newydd dderbyn rhybudd am drosedd ddifrifol ac yn cael eu hystyried ar gyfer gwaharddiad ar unwaith.

– Datgeliad: Ble mae gwiriad GDG manylach yn datgelu gwybodaeth berthnasol sy’n arwain at yr unigolyn yn cael ei ystyried i’w gynnwys ar un neu’r ddwy o’r rhestrau gwahardd.

-Atgyfeiriad: Pan fydd gan gyflogwr, gwirfoddolwr, rheolwr neu sefydliad arall bryderon bod rhywun naill ai wedi achosi niwed neu â’r potensial i achosi niwed i grwpiau diamddiffyn ac yn cyflwyno atgyfeiriad gwahardd i’r GDG.   Ble mae sefydliad neu gorff yn ymwneud â gweithgaredd a reoleiddir, mae yna ddyletswydd gyfreithiol i gyfeirio.

Bydd unigolion a gyflwynir ar gyfer y rhestrau gwahardd yn cael y cyfle i gyflwyno eu hachos dros beidio cael eu hychwanegu heblaw am rai troseddau gwahardd awtomatig (gweler gwybodaeth GDG am fanylion pellach).

Gweithdai misol am ddim i sefydliadau ddysgu mwy am brosesau a deddfwriaeth GDG.   Gallwch wybod mwy neu gofrestru drwy’r Gweithdy Datgelu a Chymhwysedd GDGGweithdy Gwahardd a Dyletswydd Gyfreithiol i Gyfeirio


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Fe all fod yn anodd estyn am gymorth os yw’r gamdriniaeth gan rywun sy’n ffrind agos neu’n berthynas, ond nid yw camdriniaeth ac esgeulustod fyth yn dderbyniol ac mae yna gymorth ar gael i helpu ei atal. Os yw’r gamdriniaeth yn cael ei gwneud gan rywun sy’n darparu gofal a chymorth, yna ni fydd rhoi gwybod am hynny yn eich atal rhag derbyn gwasanaethau. Fe fydd eich anghenion gofal a chymorth yn parhau i gael eu diwallu fel rhan o unrhyw ymateb diogelu.

Rhowch wybod am faterion diogelu o fewn eich awdurdod lleol (gweler y Cyfeiriadur). Rhowch wybod i’r heddlu drwy ffonio 101 neu rhowch wybod am hyn ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth – Heddlu De CymruHeddlu Dyfed PowysHeddlu Gwent  neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu tecstiwch 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.