Neidio i'r prif gynnwys

ADUS: Bwletin Misol

Daeth yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS) i rym yng Nghymru o 1 Hydref 2024. Proses adolygu sengl yw’r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS) sy’n ymgorffori’r holl adolygiadau yng Nghymru. Mae hyn yn sicrhau y gall teuluoedd yr effeithiwyd arnynt ddisgwyl proses adolygu gyflym a thrylwyr. Mae’r ADUS yn dileu’r angen i deuluoedd gymryd rhan … Parhad

Cyfres Seminar Gwanwyn/ Haf 2024- Nawr Agored!

Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn falch o gyhoeddi bod cofrestru ar gyfer Cyfres Seminarau Gwanwyn/Haf 2024 nawr ar agor! I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer pob un o’r seminarau, gweler y diweddariadau ar ein gwefan, neu dilynwch y dolenni isod:

Cyfres Seminar Gwanwyn/ Haf: Trais Difrifol – Adolygiad Asesiad Strategol

Yn dilyn cyflwyno’r Ddyletswydd Trais Difrifol, ar draws Cymru bydd partneriaid yn gyfarwydd â’r gofynion a osodwyd ar y partneriaethau i gynnal Asesiadau Anghenion Strategol a gyflwynwyd y llynedd. Mae’r sesiwn hon yn achub ar y cyfle i adolygu’r Asesiadau Strategol hynny ac yn ceisio rhoi trosolwg o ble rydym ni, unrhyw wersi a ddysgwyd … Parhad

Cyfres Seminar Gwanwyn/ Haf 2024: Siapio Lle Lleol

Wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol diogelwch cymunedol ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall sut, trwy ddefnyddio gwybodaeth leol a gweithio mewn partneriaeth, mae ein llywodraeth leol a barn y cyhoedd yn cael eu defnyddio mewn ffordd i wneud cymunedau yn lleoedd mwy deniadol, hygyrch a mwy diogel i fyw a gweithio ynddynt. Bydd … Parhad

Cyfres Seminar Gwanwyn/ Haf 2024: Atal Hunanladdiad

Bydd y sesiwn hon yn rhoi dealltwriaeth o waith y Rhaglen Genedlaethol Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed, a reolir o fewn Gweithrediaeth GIG Cymru. Bydd hyn yn cwmpasu data a gwybodaeth ar gyfer Cymru; ffactorau a all gyfrannu at hunanladdiad a hunan-niwed; meysydd blaenoriaeth; a’r ffrydiau gwaith a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu a’u datblygu i … Parhad

Cyfres Seminar Gwanwyn/ Haf 2024: Trosolwg Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Wedi’i anelu at weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr sy’n gweithio ym maes diogelwch cymunedol a chydlyniant cymunedol, bydd y seminar hon yn rhoi trosolwg o’r DBS mewn cyd-destun Cymreig gyda Carol Eland, Cynghorydd Allgymorth Rhanbarthol Cymru. Bydd y cyflwyniad yn cynnwys: Mae’r seminar hon yn rhan o Gyfres Seminar Gwanwyn/ Haf 2024 Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel … Parhad

Gwanwyn/ Haf 2024: Cyllid ar gyfer lle mae lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol

Dewch i ymuno â ni ar ddydd Mawrth 21 Mai 14:00 – 15:30. Byddwch yn clywed trosolwg o cyllid ar gyfer lle mae lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan geisio darparu dealltwriaeth glir o ffrwd ariannu’r Swyddfa Gartref sydd ar gael. Byddwn yn edrych ar y goblygiadau ar gronfeydd Trais Difrifol blaenorol ac yn ystyried … Parhad

Neges Diogelwch: e-feic ac e-sgwter

Os ydych chi’n berchen ar e-feic neu e-sgwter neu’n ystyried prynu un i chi’ch hun neu rywun arall, nodwch y Neges Diogelwch Pwysig hon gan reoleiddiwr cynnyrch cenedlaethol y DU, y Swyddfa Safonau a Diogelwch Cynnyrch (OPSS). Mae e-feiciau ac e-sgwteri yn defnyddio batris lithiwm-ion mawr a all achosi risg difrifol o dân neu ffrwydrad … Parhad

Rydym yn recriwtio: Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Mae cyfle cyffrous wedi codi wrth i ni recriwtio ar gyfer rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu newydd. Beth am ddod i ymuno â’n tîm gwych! Am wybodaeth lawn ewch i wefan CLlLC yma. Dyddiad cau dydd Sul 31 Mawrth (cyfweliad dydd Llun 15 Ebrill)

Dydd Gwyl Dewi Hapus

Hoffai Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru ddymuno Dydd Gŵyl Dewi Hapus iawn i chi. Mae Dewi Sant, nawddsant Cymru, yn adnabyddus am y dyfyniad enwog ‘Gwnewch y pethau bychain”. Mewn cyfnod lle mae costau cynyddol yn effeithio ar yr holl ddarparwyr gwasanaeth efallai bod rhywbeth bach y gallech chi ei wneud i wneud eich cymuned … Parhad