Neidio i'r prif gynnwys

Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio

Archwilio is-bynciau

Beth yw Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio?

Mae’r Swyddfa Gartref wedi disgrifio caethwasiaeth fodern fel “trosedd ddifrifol a chreulon lle bydd pobl yn cael eu trin fel nwyddau a chamfanteisir arnynt er mwyn elwa’n droseddol”. Nid oes unrhyw un yn gwybod gwir raddfa caethwasiaeth fodern yn y DU, ac yn wir yn fyd-eang.

Mae Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio yn cynnwys:

Caethwasiaeth fodern yw camfanteisio ar bobl yn anghyfreithlon er budd personol neu fasnachol. Mae’n ymdrin ag ystod eang o gamdriniaeth a chamfanteisio gan gynnwys camfanteisio’n rhywiol, caethwasanaeth domestig, llafur dan orfod, camfanteisio troseddol a chynaeafu organau.

Gall dioddefwyr caethwasiaeth fodern fod o unrhyw oedran, rhyw, cenedligrwydd neu ethnigrwydd. Maent yn cael eu twyllo neu eu bygwth i weithio ac efallai nad ydynt yn teimlo y gallant adael y gwaith nac adrodd am y drosedd oherwydd ofn neu fygythiad. Efallai nad ydynt yn sylweddoli eu bod yn ddioddefwyr eu hunain.

Ymwybyddiaeth Llinellau Sirol

Dyma’r hyfforddiant cyffredinol a’r ffyrdd i godi ymwybyddiaeth am Gaethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio, gellir gweld hyfforddiant penodol o fewn pob is-destun.

Mae Llywodraeth Cymru Dysgu Ar-lein Gwrthgaethwasiaeth Cymru wedi’i ddylunio i wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern a ffyrdd effeithiol o fynd i’r afael â’r mater.

Llywodraeth Cymru: Canllawiau am gaethwasiaeth fodern i weithwyr proffesiynol 

Gofal Cymdeithasol Cymru: Hyfforddiant ar Ymwybyddiaeth o Ddiogelu 

Cwrs Cyflwyniad i Ymwybyddiaeth Atal Caethwasiaeth; Cwrs Ymatebwr Cyntaf Atal Caethwasiaeth; ac i’r rhai sy’n gweithio i’r Heddlu neu i Wasanaeth Erlyn y Goron Caethwasiaeth Fodern a Throseddau Cyfundrefnol 

Swyddfa Gartref: Tudalen adnoddau hyfforddi am Gaethwasiaeth Fodern  

Swyddfa Gartref (YouTube): Mae Caethwasiaeth Fodern yn agosach atom na’r disgwyl

Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae gan bob is-destun wybodaeth benodol am gymorth a chefnogaeth. Mae’r materion canlynol yn berthnasol i bob math o Gaethwasiaeth Fodern.

Os byddwch chi’n gweld unrhyw un o’r arwyddion ac yn amau bod rhywun yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern, dywedwch wrth rywun. I roi gwybod am unrhyw amheuaeth neu i ofyn am gyngor, cysylltwch â Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern 24/7 ar 08000 121 700. Gellir hefyd rhoi gwybod amdano ar-lein neu drwy ffonio 101 ar unrhyw adeg, neu i bobl fyddar neu rai sy’n drwm eu clyw, defnyddiwch y gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101. I aros yn ddienw cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555 111. Os oes trosedd wrthi’n cael ei chyflawni neu os oes bywyd mewn perygl, ffoniwch 999.

Cynigir cefnogaeth hefyd drwy’r trefniadau Diogelu Oedolion sydd ym mhob Awdurdod Lleol ar draws Cymru, rhoddir eu manylion yn ein Cyfeirlyfr.

Slavery Free UK Canolbwynt Caethwasiaeth Fodern. Mae’r Canolbwynt i Godi Ymwybyddiaeth am Gaethwasiaeth Fodern yn y DU yn rhoi llawer o wybodaeth a dolenni i elusennau sy’n cynnig cefnogaeth.