Neidio i'r prif gynnwys
Archwilio is-bynciau

Cynaeafu Organau

Beth yw Cynaeafu Organau?

Cynaeafu organau dan orfodaeth yw’r arfer anghyfreithlon o dynnu organau dioddefwr o’i gorff yn erbyn ei ewyllys. Maent yn cael eu tynnu dan orfodaeth. Dyma rai enghreifftiau:

  • Bydd dioddefwyr yn cael eu herwgipio ac organ yn cael ei thynnu o’u corff dan orfodaeth 
  • Bydd dioddefwyr yn cael eu twyllo i gredu bod angen llawdriniaeth arnynt a thra byddant dan anesthetig bydd organ yn cael ei thynnu o’u corff, heb iddynt wybod na rhoi caniatâd
  • Mae masnachwyr mewn pobl yn adnabyddus am gynnig taith ddiogel yn gyfnewid am organ
  • Mae nifer o ddioddefwyr cynaeafu organau dan orfodaeth eisoes wedi cael rhywun yn camfanteisio arnynt drwy ddulliau masnachu mewn pobl a ffurfiau eraill ar gaethwasiaeth
  • Caiff dioddefwyr eraill eu llofruddio ar orchymyn a chaiff eu horganau eu tynnu o’u corff i fodloni gorchymyn.

Mae niferoedd yr achosion o gynaeafu organau yn cynyddu dros y byd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn rhagfynegi bod mwy nag un trosglwyddiad organ anghyfreithlon yn cael ei wneud dros y byd bob awr.

Mae tynnu organau’n llawfeddygol yn golygu bod angen llawdriniaeth fawr, sy’n golygu risgiau sylweddol. Mae tynnu rhai organau (e.e. arennau) gan roddwyr byw yn arwain at berygl sylweddol i’w bywyd ac ansawdd eu bywyd yn y dyfodol. Yn ogystal â pheryglon llawdriniaeth fawr, mae statws cynaeafu organau yn golygu y gall y protocol a’r safonau hylendid fod yn amheus, sy’n cynyddu’r perygl o gael haint a pheryglu bywyd y dioddefwyr.

Mae trawsblaniad organau’n dod yn fwyfwy cyffredin. Maent yn cael eu gwneud gan y GIG yng Nghymru. Mae’r trawsblaniadau hyn yn cael eu diogelu i leihau’r risg o gynaeafu organau. Mae Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 yn cynnig system optio allan ar gyfer rhoi organau a chydsyniad tybiedig. Mae’n caniatáu i ysbytai dybio bod pobl 18 oed a hŷn, sydd wedi byw yng Nghymru am 12 mis neu ragor, eisiau rhoi eu horganau ar adeg eu marwolaeth onibai eu bod wedi gwrthwynebu hynny’n benodol. I gael rhagor o wybodaeth am y mesurau diogelu a’r meini prawf llym sy’n cael eu defnyddio i ategu unrhyw benderfyniadau a wneir ynghylch trawsblaniadau, ewch i Rhoi Organau.