- Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, adran 2 yn rhoi’r ddeddfwriaeth ynghylch trefnu neu hwyluso i berson arall deithio gyda’r bwriad i gamfanteisio arnynt. Mae Adran 3 y Ddeddf yn diffinio ystyr camfanteisio.
- Mae Deddf Lloches a Mewnfudo (Triniaeth Hawlwyr ayb) 2004 yn rhoi’r ddeddfwriaeth ar gyfer pob math o gamfanteisio nad yw’n rhywiol cyn 2015.
- Mae Deddf Ffiniau, Dinasyddiaeth a Mewnfudo 2009 yn amlinellu’r ddyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a ddaw i’r DU.
- Mae Rheoliadau Masnachu mewn Pobl at ddibenion Camfanteisio 2013 yn amddiffyn pobl sy’n cael eu masnachu rhag camfanteisio troseddol ac maent yn gosod mesurau i amddiffyn dioddefwyr.
- Mae Deddf Diogelu Rhyddid 2012 yn ei gwneud yn bosibl i ddwyn achos yn erbyn gwladolyn y DU am gyflawni’r drosedd o fasnachu pobl mewn unrhyw wlad yn y byd, ac mae’n ei gwneud yn drosedd i fasnachu pobl o fewn y DU at ddibenion camfanteisio nad yw’n rhywiol.
- Ymdrinnir â chamfanteisio’n rhywiol yn Neddf Amddiffyn Plant 1978 a Deddf Troseddau Rhyw 2003.Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar sut i adnabod a chefnogi dioddefwyr caethwasiaeth fodern.
- Mae Arfer Cymru Gyfan: Diogelu plant a allai gael eu masnachu yn ganllawiau statudol ar gyfer ymarferwyr mewn asiantaethau sy’n diogelu plant yn effeithiol.
- Gellir cyflwyno Gorchymyn Atal Caethwasiaeth a Masnachu mewn Pobl dim ond os bydd y diffynnydd wedi ei ganfod yn euog o drosedd masnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth a bod y llys yn credu bod perygl y bydd yn cyflawni troseddau pellach a bod angen diogelu pobl eraill rhag niwed, gellir cael cosb o hyd at bum mlynedd yn y carchar os torrir y gorchymyn.
- Gellir gwneud Gorchmynion Risg Caethwasiaeth a Masnachu mewn Pobl heb gollfarn os credir bod y person mewn perygl o achosi niwed a bod angen diogelu pobl eraill. Gellir cael cosb o hyd at bum mlynedd yn y carchar os torrir y gorchymyn hwn hefyd.
- Cyfeiriadur
- Pwnc
- Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac Anrhefn
- Trosedd ac Atal Troseddu
- Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant
- Pob Pwnc
- Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio
- Troseddau a Chyfiawnder
- Diogelwch y Cyhoedd
- Diogelu ac Ymyrraeth Gynnar
- Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig
- Terfysgaeth ac Eithafiaeth
- Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig & Thrais Rhywiol
- Diweddariadau
- Hyfforddiant
- Gwobrau ac Ymgyrchoedd
- Adnoddau
- Amdanom ni