- Mae disgwyl i Fesur yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (pan ddaw yn ddeddfwriaeth) gyflwyno deddfwriaeth a dyletswyddau yn ymwneud ag atal trais.
- Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gofyn am ganolbwyntio ar atal.
- Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys y 7 nod ar gyfer lles i sicrhau Cymru gydnerth, Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru Iachach a Chymru o Gymunedau Cydlynus. Mae’r rhain i gael eu cyflawni drwy’r 5 ffordd o weithio: cydweithio, atal, ymwneud, integreiddio a hirdymor.
Fe ymdrinnir â’r gwahanol weithgareddau treisgar a allai gael eu cyflawni o dan y cyfreithiau a’r deddfwriaethau gwahanol a gaiff eu rhestru o dan y gwahanol bynciau. Gweler bynciau Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig, Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio a Throsedd ac Atal Trosedd i gael y manylion hynny.