- Deddf Plant 1989 dyletswydd awdurdodau lleol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phryd i gychwyn achosion gofal.
- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gofynion ar gyfer byrddau diogelu rhanbarthol yng Nghymru. Disodli rhan o Ddeddf Plant 1989 a 2004. Wedi ei newid i ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar ac roedd yn rhoi llais cryfach i unigolion yn ogystal â mwy o ddewis a rheolaeth. Cryfhau’r pwerau ar gyfer diogelu plant ac oedolion mewn perygl, yn ogystal â gwneud newidiadau i wella gwasanaethau ac atebolrwydd.
- Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gofyn am sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
- Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys y 7 nod ar gyfer lles i sicrhau Cymru gydnerth, Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru Iachach a Chymru o Gymunedau Cydlynus. Mae’r rhain i gael eu cyflawni drwy’r 5 ffordd o weithio: cydweithio, atal, ymwneud, integreiddio a hirdymor.
- Deddf Plant 2004 atebolrwydd partneriaid tuag at ddiogelu.
Ar gyfer deddfwriaeth unigol cysylltiedig â gweithgarwch penodol o gam-drin plant gweler yr adrannau ar ddeddfwriaeth o dan y pynciau gwahanol.