- Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (2015) yn rhoi’r sylfaen i’r holl wasanaethau cyhoeddus i gydweithio tuag at ymagwedd gydol oes integredig tuag at les.
- Mae Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol (Llywodraeth Cymru, 2017) yn amlinellu ymrwymiadau cenedlaethol ar gyfer sefydlu sylfeini ar gyfer lles gydol oes ac atal Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod drwy greu gwasanaethau cyhoeddus sy’n ymwybodol o’r profiadau hyn.
- Mae Cymru Iachach: ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (2018) yn cydnabod y pwysigrwydd gydol oes o fynd i’r afael â thrallod a brofir yn ystod plentyndod ac mae’n canolbwyntio ar atal.
- Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gofyn am ffocws ar yr unigolyn cyfan a’u teulu ac mae’n canolbwyntio ar atal.