Neidio i'r prif gynnwys

Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant

Archwilio is-bynciau

Beth yw Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant

Roedd y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio naw o nodweddion a ddiogelir: oed, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol a statws priodasol a phartneriaeth sifil.

Mae gan sefydliadau’r sector cyhoeddus ddyletswydd i:

  • Gael gwared ar wahaniaethu
  • Gynnig cyfleoedd cyfartal
  • Fabwysiadu perthnasoedd da rhwng pobl (cydlyniant cymunedol)

Mwy o gydlyniant cymunedol, cynhwysiant a gwella cyfartaledd a helpu i osod y sylfeini ble mae ardaloedd lleol yn gallu ffynnu.

Mae CLlL yn nodi bod cymunedau cydlynus yn lleoedd ble mae yna:

  • “Weledigaeth gyffredin a theimlad o berthyn i bawb;
  • Gwerthfawrogi amrywiaeth yn gadarnhaol;
  • Darparu cyfle cyfartal i bobl o wahanol gefndiroedd; a
  • Darparu amgylchedd ble gall perthnasoedd cryf a chadarnhaol gael eu datblygu rhwng pobl o wahanol gefndiroedd yn y gweithle, mewn ysgolion ac o fewn cymdogaethau.”

Mae Llywodraeth Cymru “yn parhau wedi ymrwymo i gefnogi Cymru ble mae cymunedau cydlynus yn gadarn, yn deg ac yn gyfartal. Mae hyn yn golygu gwrando ar farn ein cymunedau i hybu cynhwysiant cadarnhaol a pharhau i nodi rhwystrau a sut y gellir eu goresgyn.” Llywodraeth Cymru

 

Gweler yr is-destunau am fwy o wybodaeth: Trosedd casineb; cynlluniau gweithredu cydraddoldeb Cymru; tensiwn Cymunedol a chydlyniant cymunedol a Chyn Filwyr a Chyfamod y Lluoedd Arfog.

Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych wedi bod yn dyst neu’n ddioddefwr trosedd dylech roi gwybod i’r Heddlu. Ffoniwch 101 neu ei riportio ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth o Gymru – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys , Heddlu Gwent  neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn achos o argyfwng ffoniwch 999.

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu anfonwch neges testun at 999 os ydych wedi cofrestru o flaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS mewn argyfwng.

Os oes gennych wybodaeth am drosedd ac yn dymuno bod yn anhysbys, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.

Os ydych wedi cael eich effeithio gan drosedd, gallwch gael mynediad i gefnogaeth gan Gymorth i Ddioddefwyr, yn cynnwys trwy eu llinell gymorth 24/7 cenedlaethol am ddim ar 08 08 16 89 111, neu gael cymorth ar-lein.

Mae Dewis Cymru yn darparu ystod o wasanaethau a chymorth sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol.