- Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn ei gwneud yn drosedd i gadw person arall dan amodau caethwasiaeth neu gaethwasanaeth neu i berfformio gwaith dan orfod neu waith gorfodol, yn ogystal â diffinio caethwasiaeth, caethwasanaeth a llafur dan orfod neu lafur gorfodol.
Cyflwyno Gorchmynion Atal a Gorchmynion Risg Caethwasiaeth a Masnachu mewn Pobl
- Gellir cyflwyno Gorchymyn Atal Caethwasiaeth a Masnachu mewn Pobl dim ond os bydd y diffynnydd wedi ei ganfod yn euog o drosedd masnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth a bod y llys yn credu bod perygl y bydd yn cyflawni troseddau pellach a bod angen diogelu pobl eraill rhag niwed, os torrir y gorchymyn gellir cael cosb o hyd at bum mlynedd yn y carchar.
- Gellir gwneud Gorchmynion Risg Caethwasiaeth a Masnachu mewn Pobl heb gollfarn ond os credir ei fod mewn perygl o achosi niwed a bod angen diogelu pobl eraill. Os torrir y gorchymyn hwn hefyd, gellir cael cosb o hyd at bum mlynedd yn y carchar.