Neidio i'r prif gynnwys

Rheoli Integredig Troseddwyr

Archwilio is-bynciau

Beth yw Rheoli Integredig Troseddwyr?

Mae Rheoli Integredig Troseddwyr (RhIT) yn ddull cydlynol i reoli troseddwyr o fewn y system cyfiawnder troseddol i oedolion. Yn draddodiadol y nod oedd mynd i’r afael â throseddwyr parhaus a oedd yn cyflawni nifer o droseddau ond bellach wedi ymestyn yng Nghymru i grwpiau blaenoriaeth eraill sydd wedi’u cydnabod ar y cyd gan asiantaethau partner. Mae’n cydnabod bod anghenion cymhleth yr unigolion hyn yn fwy tebygol o gael eu cwrdd gan asiantaethau sy’n cydweithio ac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau lleol. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael yma.

Yn 2020, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder Strategaeth Rheoli Integredig Troseddwyr – Troseddau yn y Gymdogaeth newydd – sef dull unedig o oruchwylio troseddwyr yn y gymuned.

“[Mae’r dull newydd hwn] yn gwneud atal troseddau yn y gymdogaeth yn ganolog i’r RhIT er mwyn sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu cymryd yn gynt, bod ymyraethau effeithiol ac yn y pendraw, cymunedau mwy diogel. Bydd yr Heddlu a’r Gwasanaeth Prawf yn cydweithio’n fwy agos i oruchwylio troseddwyr ac i sicrhau fod llai ohonyn nhw’n disgyn drwy’r rhwyd o fewn y system cyfiawnder; a chysylltiadau gwell i grwpiau cymunedol yn cael eu creu i fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol o’u troseddu drwy eu cyfeirio at wasanaethau sydd ei angen arnyn nhw i newid eu ffyrdd.”

Ymarfer Effeithiol RhIT: Arweinyddiaeth - YouTube

Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru a Chyd-destun Cymru

Gweledigaeth – Gweithio mewn partneriaeth i leihau’r nifer o ddioddefwyr drwy atal troseddu ac ail-droseddu.

Cenhadaeth – Lleihau trosedd ac ail-droseddu er mwyn diogelu cymunedau Cymru (Gweledigaeth a Datganiad Cenhadaeth RhIT Cymru).

Mae deddfwriaeth Cymru yn hysbysu cyfeiriad y dyfodol ar gyfer RhIT yng Nghymru drwy ein herio ni gyd i feddwl am lesiant cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n rhaid i hyn gynnwys rheoli troseddwyr gan fod trosedd a chyfiawnder yn cael effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol ar les unigolion sy’n byw yng Nghymru, p’un ai fel dioddefwr, cyflawnwr, aelod o’r teulu neu aelod o’r gymuned ehangach yn ogystal â chael effaith ar ystod eang o wasanaethau. Mae dull RhIT Cymru yn cyd-fynd â Egwyddorion Allweddol RhIT (2015) y Swyddfa Gartref ac yn tanategu ei wyth egwyddor:

  1. Yn lleol: gweithio’n lleol ac ar lefel rhanbarthol wedi’i gefnogi gan asiantaethau cenedlaethol pan fo hynny’n briodol i ail-integreiddio troseddwyr yn ôl i’w cymuned lleol.
  2. Integredig: cydweithio i leihau ail-droseddu yn defnyddio cynllunio strategol ar y cyd, dylunio a chyflenwi gwasanaeth, gan gynnwys cyd-gomisiynu pan yn bosib, i gynyddu atebolrwydd ar y cyd.
  3. Wedi’i dargedu: ar gyfer lle gallwn gael y mwyaf o ddylanwad ar droseddu ac ail-droseddu ac i wneud y defnydd gorau o arian y trethdalwr.
  4. Unigoledig: adnabod fod yr holl droseddwyr yn wahanol, ac y dylem gefnogi’r rheiny sy’n barod i newid ac i reoli’r rheiny sydd ddim.
  5. Yn seiliedig ar dystiolaeth: rhannu a defnyddio data ar drosedd, risg a’r angen, ynghyd ag ymchwil sy’n dod i’r gweill ar bam bod pobl yn ymatal rhag troseddu, i ddatblygu ymatebion priodol yn lleol.
  6. Holistaidd: gweithio gyda nid yn unig y rhai sy’n troseddu ond eu teuluoedd a’u cymunedau hefyd, agweddau hanfodol i’w cefnogi nhw i geisio stopio troseddu.
  7. Adferol: annog troseddwyr i adnabod effaith eu troseddu ac i wneud iawn i’r dioddefwr a’r gymuned ehangach.
  8. Canolbwyntio ar y canlyniad: gweithio i sicrhau fod buddsoddiad yn cael ei wneud mewn ymyraethau sydd wedi cael eu profi i gael effaith gadarnhaol.

Mae’r egwyddion hyn sy’n cael eu hyrwyddo trwy Strategaeth Rheoli Integredig Troseddwyr – Troseddau yn y Gymdogaeth a RhIT Cymru yn diweddaru eu prosesau a’u grwpiau pan fydd angen.

Mae deddfwriaeth berthnasol i’w gael o dan y System Cyfiawnder Oedolion.

Dylai’r holl rannu gwybodaeth o fewn RhIT gael ei wneud yn unol â deddfwriaeth diogelu data, yn cynnwys ond ddim yn gyfyngedig i, Ddeddf Diogelu Data 2018 a Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998.

Mae’r Academi Cyfiawnder Cymdeithasol yn rhwydwaith i rannu gwybodaeth, sgiliau ac ymarfer gorau i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol trwy wasanaethau cyhoeddus a chymdeithas sifil. Mae aelodaeth am ddim ac yn cynnwys seminarau ar-lein ac yn rhanbarthol, gweithdai, cyfresi dysgu a chynadleddau. Digwyddiadau Diweddaraf.

Dolenni defnyddiol

Canllawiau Ymarfer y Coleg Plismona – Rheoli troseddwyr.

Darllenwch y Canllawiau

Llywodraeth Cymru – Cefnogi’r rheiny mewn risg o ail-droseddu.

Ewch i’r Wefan

Llywodraeth y DU – Strategaeth Rheoli Integredig Troseddwyr.

Gweld y Strategaeth

Gwefan RhIT Cymru a Dolenni Defnyddiol RhIT Cymru.

Ewch i’r Wefan

Gweld y Dolenni Defnyddiol

Ymarfer Effeithiol RhIT: Partneriaeth ac Integreiddio – YouTube.

Gweld y Fideo

Fideos RhIT eraill ar Sianel YouTube HMIP.

Ymweld â’r Sianel 

Canllawiau Safonau Gwasanaeth Cyflawnwr VAWDASV.

Darllenwch y Canllawiau

Hefyd er gwybodaeth mae canllawiau ychwanegol ynglŷn â’r strategaeth RhIT diweddaraf ar fin cael eu cyhoeddi.


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae gan Nacro Linell Gymorth ar gyfer Adsefydlu a Mwy sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor i gyn-droseddwyr, caracharorion, eu teuluoedd a’u ffrindiau, ac i sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw. Ffoniwch 0300 123 1999.

Mae gwefan Llinell Gymorth Genedlaethol i Deuluoedd Carcharorion ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnig cymorth i deuluoedd sydd ag anwylwyd yn y system cyfiawnder troseddol. Ffoniwch 0808 808 2003 ddydd Llun i ddydd Gwener 9am – 8pm, dydd Sadwrn i ddydd Sul 10am – 3pm.

Mae Ymddiriedolaeth St Giles yn rhedeg amryw o wasanaethau wedi’u dylunio i helpu cyn-droseddwyr gyda chyflogaeth, cymorth, hyfforddiant yn y gymuned, a thai/llety argyfwng. Ffoniwch 020 7708 8000.

Mae Unlock yn elusen annibynnol ar gyfer pobl gydag euogfarnau sydd yn delio gyda’r effeithiau o gael cofnod troseddol. Maen nhw’n rhoi cyngor a chymorth ynglŷn ag agweddau fel sut i ddatgelu i gyflogwyr, gwiriadau cofnodion troseddol, cael yswiriant a theithio dramor trwy eu llinell gymorth gyfrinachol. Ffoniwch 01634 247350.

Mae Fy Nghofnod Cymorth gan Gymorth i Ddioddefwyr yn adnodd ar-lein am ddim sy’n cynnwys canllawiau rhyngweithiol (yn cynnwys y daith i gyfiawnder) i’ch helpu i symud ymlaen ar ôl trosedd. Hefyd gweler Dioddefwyr a Thystion.

Mae YMCA yn gweithio mewn partneriaeth gyda charchardai a gwasanaethau prawf i gefnogi troseddwyr gyda dinasyddiaeth a chyfleoedd hyfforddiant ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r carchar. Ffoniwch 0207 186 9500.

Mae gwasanaethau cymorth hefyd yn cael eu darparu yng Nghymru gan Ymddiriedolaeth Nelson; Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal i Garchardai (Pact); Cymru Ddiogelach; St Giles Cymru a Cyswllt Carchar (Pobl).