Neidio i'r prif gynnwys

Cyfiawnder Adferol

Archwilio is-bynciau

Beth yw Cyfiawnder Adferol?

“Mae cyfiawnder adferol yn rhoi’r cyfle i ddioddefwr i gwrdd neu gyfathrebu gyda’u troseddwr i egluro effaith go iawn y drosedd – mae’n grymuso dioddefwyr drwy roi llais iddyn nhw. Mae hefyd yn gwneud troseddwyr yn atebol am yr hyn y maen nhw wedi’i wneud ac yn eu helpu i gymryd cyfrifoldeb ac i wneud iawn am hynny. Mae cyfiawnder adferol fel arfer yn cynnwys cynhadledd lle mae’r dioddefwr yn cwrdd â’r troseddwr wyneb yn wyneb. Weithiau nid cyfarfod wyneb yn wyneb yw’r ffordd orau ymlaen ac yn hytrach bydd y dioddefwr a’r troseddwr yn cyfathrebu drwy lythyrau, cyfweliadau wedi’u recordio neu ar fideo.” Cyngor Cyfiawnder Adferol

Mae Cyfiawnder Adferol yn broses gwrthdyniadol sydd ar gael i’r holl ddioddefwyr o dan y Cod Ymarfer i Ddioddefwyr Trosedd (Cod Dioddefwyr) a gall fod yn rhan o’r Rhybuddio Amodol. Mae ymchwil wedi dangos ei fod yn cael effaith gadarnhaol ar leihau aildroseddu.

Mae mathau o Gyfiawnder Adferol yng Nghymru a Lloegr yn cynnwys:

  • Prosesau cyfiawnder adferol uniongyrchol neu anuniongyrchol (y dioddefwr a’r troseddwr, dan arweiniad hwylusydd yn cyfathrebu gyda’i gilydd).
  • Cynadledda cymunedol (i ddatrys ymddygiad gwrthgymdeithasol).
  • Paneli Gorchymyn Atgyfeirio (pobl ifanc yn mynychu panel gyda staff Tîm Troseddu Ieuenctid a gwirfoddolwyr cymunedol i drafod eu troseddu).
  • Cyfryngu (cefnogi pobl mewn anghydfod i ddod i gytundeb).

Sefydlwyd Y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Gyfiawnder Adferol yn Ebrill 2021 i yrru trafodaethau trawsbleidiol ymlaen ar gyfiawnder adferol ac i godi ymwybyddiaeth am ei egwyddorion.

Wythnos Cyfiawnder Adferol 2020 - YouTube

Mae gan y Cyngor Cyfiawnder Adferol wybodaeth ar ddatblygu arferion a hyfforddiant: Hyfforddiant a gyrfaoedd.

Dolenni defnyddiol

Cyngor Cyfiawnder Adferol – Hyrwyddo arfer adferol o safon i bawb.

Ewch i’r Wefan

Cod Dioddefwyr – Cymorth i Ddioddefwyr.

Ewch i’r Wefan

Partneriaeth Dulliau Adferol Cymru (WRAP).

Ewch i’r Wefan

“After I was arrested and sectioned, restorative justice offered me a lifeline”, Bryony Friars, The Guardian.

Darllenwch yr Erthygl

Adroddiad Tystiolaeth y Papur Gwyrdd – Torri’r Arfer: Cosb Effeithiol, Adsefydlu a Dedfrydu Troseddwyr.

Darllenwch yr Adroddiad


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae gwybodaeth i Ddioddefwyr ar Gyfiawnder Adferol ar gael o Gymorth i Ddioddefwyr a Chyngor Cyfiawnder Adferol.

Cael mynediad i wybodaeth am Gyfiawnder Adferol yn eich ardal heddlu perthnasol: