Neidio i'r prif gynnwys

System Cyfiawnder Ieuenctid

Archwilio is-bynciau

Beth yw’r System Cyfiawnder Ieuenctid?

Mae plant rhwng 10 a 17 oed yn gallu cael eu harestio ac yn gorfod mynd i’r llys os ydyn nhw’n cyflawni trosedd. Fodd bynnag, mae ganddyn nhw hawliau penodol, ac yn cael eu trin yn wahanol i oedolion:

  • mae llysoedd ieuenctid yn delio gyda’r rhain.
  • maen nhw’n rhoi dedfrydau gwahanol.
  • maen nhw’n cael eu hanfon i ganolfannau diogel i bobl ifanc, ac nid carchardai i oedolion.

Yr oedran ar gyfer cyfrifoldeb troseddol (lle ni all plentyn gael ei arestio a’i gyhuddo o drosedd waeth pa mor ddifrifol ydyw) yw deg mlwydd oed.

Os byddwch yn cael eich arestio a’ch bod yn iau na 18 oed mae’n rhaid i’r heddlu gysylltu â’r person sy’n gyfrifol am edrych ar eich hol – fel arfer eich rhiant, gofalwr neu warcheidwaid. Mae’r heddlu hefyd angen gwneud yn siŵr fod yna ‘oedolyn priodol’ yng ngorsaf yr heddlu gyda chi.

Hyd yn oed os bydd yr heddlu yn meddwl eich bod wedi cyflawni trosedd, efallai na fyddwch chi’n cael eich ‘cyhuddo’ bob tro. Mae yna ddewisiadau eraill yn y Cynllun Gwrthdyniadol ar gael i’r heddlu, yn cynnwys rhoi Rhybuddiad Ieuenctid, Rhybuddiad Ieuenctid Amodol, a Brysbennu neu Fiwro, cyfle i gyflawni rhaglen gymunedol na fydd yn ymddangos ar eich cofnod troseddol. Am fwy o wybodaeth ar hawliau plant o ran yr heddlu, gwelwch Stopio, Arestio, Cyfweld, Cyhuddo – Canllaw i bobl dan 18 oed, Canolfan Gyfreithiol y Plant.

Os bydd y person yn cael ei gyhuddo o drosedd (diffynnydd) o dan 18 oed, mae’r achos fel arfer yn cael ei glywed mewn llys ieuenctid. Dydi gwrandawiadau mewn llys ieuenctid ddim yn agored i’r cyhoedd ac maen nhw’n llai ffurfiol na llysoedd oedolion. Fodd bynnag mae’r troseddau mwyaf difrifol fel llofruddiaeth neu ddynladdiad yn cael eu trin gan Lys y Goron.

Mae gwasanaethau neu dimau troseddwyr ieuenctid yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n mynd i drafferth gyda’r gyfraith. Maen nhw’n edrych ar gefndir y person ifanc ac yn ceisio eu helpu nhw i gadw i ffwrdd o drosedd. Maen nhw hefyd yn:

  • rhedeg rhaglenni atal trosedd lleol.
  • helpu pobl ifanc sydd wedi cael eu harestio yng ngorsaf yr heddlu.
  • helpu pobl ifanc a’u teuluoedd yn y llys.
  • goruchwylio pobl ifanc a ddedfrydwyd i ddedfryd gymunedol.
  • cadw mewn cysylltiad â’r person ifanc os ydyn nhw’n cael eu dedfrydu i’r ddalfa.

Darganfyddwch eich tîm troseddwyr ieuenctid lleol. Mae’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru yn gyfrifol am oruchwylio’r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru.

Mae pobl ifanc sy’n 18 oed yn cael eu trin fel oedolyn gan y gyfraith. Os ydyn nhw’n cael eu dedfrydu i garchar mi fyddan nhw’n cael eu hanfon i sefydliad ar gyfer pobl ifanc 18 i 25 oed ac nid carchar i oedolion.

  • Mae Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 yn cynnwys y gofynion statudol ar gyfer timau troseddau ieuenctid. Mae’r Ddeddf hefyd wedi sefydlu Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid i gefnogi gwaith y Timau Troseddau Ieuenctid.

Mae deddfwriaethau a chonfensiynau perthnasol eraill yn cynnwys:

Mae Hwb Adnoddau Cyfiawnder Ieuenctid yn rhannu arferion a thystiolaeth a’r ymchwil sydd ar gael. Yng Nghymru gall ymarferwyr gael mynediad i Hwb Doeth, sy’n dod a gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau ynghyd i annog datblygu arfer cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru.

Mae cyrsiau am ddim ar OpenLearn gan y Brifysgol Agored:

Dyma gynhyrchiad fideo Fforwm Ieuenctid sy’n rhannu profiadau Pobl Ifanc o Gysylltiad gan yr Heddlu: Cynhyrchiad Fideo Fforwm Ieuenctid CHT.

Dolenni defnyddiol

Mae Canolfan Gyfreithiol y Plant yng Nghymru yn wasanaeth dwyieithog ledled Cymru gyfan sy’n darparu gwybodaeth a mynediad i gyngor cyfreithiol i blant a phobl ifanc. Mae wedi datblygu canllaw o’r enw, ‘Stopio, Arestio, Cyfweld, Cyhuddo’ sydd â’r nod i helpu plant os ydyn nhw’n dod i gysylltiad â’r heddlu fel eu bod yn gwybod ac yn gallu dibynnu ar eu hawliau.

Ewch i’r Wefan

Darllenwch yr Canllaw

Sefydliad Rheolwyr TTI (Cymru).

Ewch i’r Wefan

Ffilmiau yn egluro gwahanol agweddau o’r system cyfiawnder ieuenctid – Academi Cyfryngau Cymru.

Ewch i’r Wefan

Ymddiriedolaeth y Tywysog – Dechrau Rhywbeth.

Ewch i’r Wefan

Adnoddau – Comisiynydd Plant Cymru.

Ewch i’r Wefan

SchoolBeat Cymru.

Ewch i’r Wefan

Hawliau Pobl Ifanc – Cyngor ar Bopeth.

Ewch i’r Wefan

Gweler Cam-drin Plant.

Ewch i’r Tudalen


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os bydd plant a phobl ifanc yn poeni am drosedd mae’n well siarad gydag oedolyn y gellir ymddiried ynddo fel rhiant, aelod o’r teulu, athro, gweithiwr ieuenctid neu swyddog yr heddlu dros ysgolion. I riportio trosedd ffoniwch 101 neu ei riportio ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth o Gymru – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn achos o argyfwng ffoniwch 999.

Mae pobl ifanc yn gallu rhoi gwybodaeth am drosedd yn anhysbys drwy safle ieuenctid Young Crimestoppers sef Fearless.Org.

Mae cyngor a chefnogaeth i blant a phobl ifanc ar gael gan Childline a Meic.

Os ydych wedi dioddef o drosedd rhywiol ar-lein neu’n poeni fod hynny’n digwydd i rywun yr ydych yn ei nabod, rhowch wybod i CEOP sy’n ddiogel ac yn saff.