Neidio i'r prif gynnwys
Archwilio is-bynciau

Ar y dudalen hon

  1. Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl
  2. Storfa Ddiogelu Cymru
  3. Deddfwriaeth
  4. Hyfforddiant a Chodi Ymwybyddiaeth
  5. Dolenni defnyddiol
  6. Cymorth a chefno

 

Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl (ADUS)

Mae’r Adolygiau Diogelu Unedig Sengl (ADUS) yn broses adolygu sengl sy’n ymgorffori’r holl adolygiadau yng Nghymru:

  • Adolygiad Ymarfer Oedolion a elwir hefyd yn Adolygiadau Diogelu Oedolion
  • Adolygiad Ymarfer Plant a elwir hefyd yn Adolygiadau Diogelu Plant
  • Adolygiad lladdiad Domestig
  • Adolygiad lladdiad Iechyd Meddwl
  • Adolygiad lladdiad Arfau Sarhaus

Trwy ymgorffori pob adolygiad mewn un broses mae’r ADUS yn sicrhau y gall teuluoedd sy’n cael eu effeithio yn ddisgwyl proses adolygu gyflym a thrylwyr. Mae’r ADUS yn dileu’r angen i deuluoedd gymryd rhan mewn sawl adolygiad. Bydd hyn yn lleihau’r trawma ac yn caniatáu i ddysgu gael ei nodi a gweithredu arno’n gynt.

Mae’r ADUS yn dod ag asiantaethau ac unigolion sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad i amgylchedd dysgu diogel i:

  • feithrin gwell dealltwriaeth o’r hyn a ddigwyddodd yn ystod digwyddiad a pham
  • gwella dealltwriaeth o effaith gweithredoedd sefydliadau
  • ymchwilio i weld a allai gwahanol gamau gweithredu wedi arwain at ganlyniadau gwahanol i’r plentyn neu’r oedolyn sy’n wynebu risg
  • nodi unrhyw gyfleoedd dysgu ar gyfer y dyfodol
  • darparu cynllun gweithredu clir ar sut i wella darpariaeth gwasanaeth

Mae’r canllawiau statudol yn amlinellu newidiadau i’r ffordd y cynhelir adolygiadau. Mae rhagor o wybodaeth am ADUSs ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Adolygiadau o laddiadau Domestig

Dylid dilyn proses ADUS ar gyfer Adolygiad o laddiad Domestig yng Nghymru, ond mae’n ofynnol i bob Adolygiad lladdiad Domestig gael ei gyflwyno i’r Swyddfa Gartref er mwyn sicrhau ansawdd (gweler Lladdiad).

Nid yw Adolygiadau Lladdiadau Domestig yn ymholiadau i sut mae person wedi marw na phwy sy’n cymrud y fai. Mae’r Crwneriaid a’r Llysoedd Troseddol yn ymdri’n â’r materion yna.

 

Storfa Ddiogelu Cymru

System unigryw yw Storfa Ddiogelu Cymru sy’n defnyddio methodolegau gwyddor gymdeithasol a chyfrifiadureg. Ei nod yw i wella arferion diogelu gweithwyr proffesiynol yn y dyfodol. Mae’r holl adroddiadau ADUS wedi’u cwblhau yn cael eu storio yno, yn ogystal ag adolygiadau y gorffennol:

  • Adolygiadau Ymarfer Oedolion
  • Adolygiadau Ymarfer Plant
  • Adolygiadau Lladdiad Iechyd Meddwl

Mae’r storfa yn galluogi ymchwilwyr ac ymarferwyr i gael gafael ar ddysgu newydd am drais, camdriniaeth, pobl agored i niwed a diogelu gyda’r bwriad o wella arferion o gwmpas Cymru gyfan, gan leihau’r risg o’r un peth yn digwydd eto a diogelu cenedlaethau’r dyfodol.

 

Deddfwriaeth

Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl

Adolygiadau Diogelu

Adolygiadau Lladdiadau Domestig

  • Sefydlodd Deddf Trais Domestig, Troseddau a Dioddefwyr 2004 sail statudol ar gyfer Adolygiadau Lladdiadau Domestig a weithredwyd gyda chanllawiau priodol yn 2011 ac fe’i hadolygwyd yn 2016. Mae’n nodi “yr amgylchiadau lle mae marwolaeth unigolyn 16 oed neu hŷn yn, neu’n ymddangos ei fod yn, ganlyniad i drais, camdriniaeth neu esgeulustod gan:
    • unigolyn yr oedd yn perthyn iddo neu yr oedd ef/hi mewn, neu wedi bod mewn, perthynas bersonol agos gyda hwy neu
    • aelod o’r un aelwyd â hwy eu hunain, wedi ei gynnal gyda’r bwriad o nodi’r gwersi i’w dysgu o’r farwolaeth.”

Lle y bodlonir y diffiniad, a hynny’n cael ei gadarnhau gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, yna mae’n rhaid cynnal Adolygiad Lladdiad Domestig.

Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl argymhellion o Adolygiadau Lladdiadau Domestig i gael eu cyflwyno i’r Comisiynydd Cam-drin Domestig.

 

Hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth

Bydd hyfforddiant ar gyfer y rhai sy’n cynnal ADUSs yn cael ei gydlynu gan y canolbwynt cydgysylltu SUSR. Mae hyn yn sicrhau cysondeb, fel bod ymarferwyr yn gwybod beth i’w ddisgwyl bob tro. Mae’r canolbwynt yn hwyluso mynediad i hyfforddiant proffesiynol i gynnal cysondeb.

Mae hefyd yn gyfrifol am raglen ddysgu a datblygu ADUS. Ei nodau yw creu gweithlu sy’n darparu un broses adolygu gadarn a lledaenu dysgu a hyfforddiant sy’n seiliedig ar adolygiadau.

  • Gofal Cymdeithasol Cymru:

Canolbwynt Gwybodaeth ac Addysgu Deddfwriaeth Gofal Cymdeithasol yng Nghymru

  • Gweithwyr Proffesiynol Amddiffyn Plant

Podlediad Y Panel Adolygu Ymarfer Diogelu Plant

 

Dolenni defnyddiol

Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych chi neu aelod o’ch teulu yn destun adolygiad, yna fe ddylech gael cynnig cymorth eiriolaeth gan yr awdurdod lleol, bwrdd diogelu rhanbarthol neu Gadeirydd yr adolygiad. Mae’r eiriolaeth yno i’ch cefnogi drwy’r broses a chynrychioli pan fo’n briodol. Mae yna eiriolwyr arbenigol ar gyfer plant ac yn ddibynnol ar amgylchiadau’r adolygiad a gaiff ei gynnal.

 

Adolygwyd y cynnwys ddiwethaf – Hydref 2024