Neidio i'r prif gynnwys

Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig

Archwilio is-bynciau

Beth yw Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig?

Mae Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig yn ymwneud â dau faes cysylltiedig o droseddu difrifol – Trosedd Drefnedig Ddifrifol a Thrais Difrifol.

Mae Troseddau difrifol a threfnedig yn fygythiad sylweddol a sefydledig i ddiogelwch gwladol. Mae smyglo a dosbarthu cyffuriau a gynnau, cam-drin plant yn rhywiol, masnachu trawsffiniol a smyglo pobl, cam-fanteisio ar unigolion, twyll ar raddfa ddiwydiannol, ymosodiadau meddalwedd wystlo a gwyngalchu arian budr i mewn a thrwy’r DU yn achosi niwed i’n dinasyddion a chymunedau ar raddfa fawr.”  Asesiad Strategol Cenedlaethol o Droseddau Difrifol a Threfnedig, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol 2021

 

Mae troseddau difrifol a threfnedig yn effeithio mwy o ddinasyddion y DU, ac yn amlach, nac unrhyw fygythiad diogelwch gwladol arall ac mae’n arwain at fwy o farwolaethau yn y DU bob blwyddyn na’r holl fygythiadau eraill i ddiogelwch gwladol wedi’u cyfuno. Mae cyfran fawr o droseddau difrifol a threfnedig yn parhau yn guddiedig neu heb eu hadrodd, sy’n golygu fod y gwir raddfa yn debygol o fod yn fwy na’r hyn sy’n hysbys i ni.” Strategaeth Troseddau Difrifol a Threfnedig

 

“Mae cwmpas y strategaeth [Trais Difrifol] yn ymwneud â mathau penodol o drosedd fel lladdiad, troseddau yn ymwneud â chyllyll a gynnau a meysydd troseddol lle mae trais difrifol neu fygythiad o hynny yn gynhenid, fel mewn gangiau a delio cyffuriau drwy linellau sirol.” Strategaeth Trais Difrifol

Mae’r Cynllun Trechu Trosedd 2021 yn cynnwys ffocws i leihau lladdiadau a thrais difrifol, amlygu niwed cudd a rhoi diwedd ar hynny, a chreu galluogrwydd a chapasiti i fynd i’r afael â thwyll a throseddau ar-lein.

Mae sawl thema trawsbynciol yn gwau trwy Drais Difrifol, Troseddau Trefnedig. Mae’r pynciau hyn yn berthnasol i holl agweddau Trais Difrifol, Troseddau Trefnedig

Trosedd Trefnedig Difrifol yw’r pynciau hyn yn bennaf:

Mae’r pynciau hyn yn perthyn i Drais Difrifol yn bennaf:

 

Dyletswydd Trais Difrifol

Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref y Canllawiau Dyletswydd Trais Difrifol terfynol ym mis Rhagfyr 2022. Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn cynhyrchu cyfres o sesiynau briffio 7 munud yn ymdrin â gwahanol agweddau ar y Ddyletswydd, ar y cyd ag Uned Atal Trais Cymru. Mae’r papurau briffio ar gael i’w lawrlwytho isod.

Ionawr 2023

Fideo’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol

Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn arwain brwydr y DU i leihau troseddau difrifol a threfnedig.

Ers 2013, mae’r llywodraeth wedi cyflwyno deddfwriaeth gadarn newydd i fynd i’r afael â Throsedd Trefnedig Difrifol, mae’r Deddfau perthnasol yn cynnwys:

Mae deddfwriaeth ychwanegol sy’n berthnasol i Drais Difrifol yn cynnwys:

Gweler is bynciau Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig am ddeddfwriaeth benodol ychwanegol.

Deddfwriaeth i ddod:

Also – see individual pages for additional duties and powers, including Modern Slavery and Human Trafficking, such as the role of First Responders or the use of the National Referral Mechanism.

Gellir darllen trosolwg o bwerau i darfu ar droseddwyr difrifol a threfnedig o fewn y Strategaeth Trosedd Trefnedig Difrifol. Mae yna ystod eang o ddulliau eraill i helpu i ecsbloetio gwendidau mewn rhwydweithiau troseddol ac i wneud bywydau’r troseddwyr difrifol a threfnedig mor anodd â phosibl, o wahardd cerbydau ac adfer treth sifil i waharddebau gangiau a phwerau trwyddedu’r awdurdod lleol. Caiff y rhain eu hamlinellu yn y Dewis o Dactegau wedi eu cyhoeddi gan y Coleg Heddlu, sy’n cynnwys cannoedd o bwerau, arfau ac ymyriadau ar draws awdurdodau cenedlaethol ac asiantaethau lleol i atal a tharfu ar drosedd difrifol a threfnedig.

Sylwer: Mae yna ddyletswydd a phwerau i ddod, gan gynnwys y Ddyletswydd Trais Difrifol, Adolygiadau Lladdiadau a Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol, o fewn Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd – Biliau Seneddol – Senedd y DU ac yn codi yn dilyn y Cynllun Trechu Trosedd 2021.

Hefyd – gweler y tudalennau unigol am ddyletswyddau a phwerau ychwanegol, gan gynnwys Caethwasiaeth Fodern a Masnachu mewn Pobl, fel rôl yr Ymatebwyr Cyntaf neu’r defnydd o’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol.

  • Y Gymdeithas Llywodraeth Leol 2015

Ymdrin â throseddau difrifol a threfnedig, ymateb lleol tackling-serious-and-orga-44a.pdf (local.gov.uk)

  • Y Swyddfa Gartref

Troseddau difrifol a threfnedig: proffiliau lleol. Canllawiau ar y defnydd o broffiliau lleol troseddau difrifol a threfnedig.  Gov.UK

Pecyn gwaith troseddau difrifol a threfnedig – wedi’i ddatblygu gan y Swyddfa Gartref, mewn partneriaeth â’r heddlu a’r sector gwirfoddol, i ddarparu gwybodaeth ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc.  Pecyn gwaith troseddau difrifol a threfnedig – infed.org:

Pecyn Gwaith Ymarferydd y Swyddfa Gartref. Gov.UK

  • Cymdeithas PHSE

Atal Ymwneud â Throseddau Difrifol a Threfnedig gan y Swyddfa Gartref. Dau gynllun gwers am ddim gan y Swyddfa Gartref wedi eu cynllunio i atal pobl ifanc rhag ymwneud â throseddau difrifol a threfnedig. Atal Ymwneud â Throsedd Difrifol a Threfnedig gan y Swyddfa Gartref | www.pshe-association.org.uk

Dolenni defnyddiol

Mae’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA) yn arwain brwydr gorfodi’r gyfraith yn y DU yn erbyn troseddau difrifol a threfnedig. Ar gyfer ymholiadau cyffredinol i’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol neu i wirio swyddog yr asiantaeth, ar gael 24/7 drwy ffonio 0370 496 7622.

Ewch i’r Wefan

Europol yw asiantaeth gorfodi’r gyfraith yr Undeb Ewropeaidd. Ei nod yw i sicrhau Ewrop mwy diogel er budd holl ddinasyddion yr UE.

Ewch i’r Wefan

CEPOL – Asiantaeth yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Hyfforddiant Gorfodi’r Gyfraith.

Ewch i’r Wefae

Briff Ymchwil Tŷ’r Arglwyddi – Plismona yn y DU: Troseddau Difrifol a Threfnedig

Darllenwch yr Briff

Tarfu ar Droseddwyr Difrifol a Threfnedig – Dewis o Dactegau wedi eu cyhoeddi gan y Coleg Heddlu

Darllenwch yr Tactegau

Llywodraeth y DU – Bwletin partneriaethau lleol troseddau difrifol a threfnedig

Darllenwch yr Bwletin

Crimestoppers – Beth yw Troseddau Difrifol Trefnedig?

Ewch i’r Wefan

Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych chi wedi bod yn dyst neu wedi bod yn ddioddefwr trosedd, adroddwch hyn i’r Heddlu. Ffoniwch 101, neu gallwch adrodd ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth o fewn Cymru – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu anfonwch neges destun ar 999 os ydych wedi cofrestru gyda gwasanaeth argyfwng SMS.

Os oes gennych wybodaeth am drosedd ac yn dymuno aros yn ddienw, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan drosedd, gallwch gael mynediad at gymorth gan Gymorth i Ddioddefwyr, gan gynnwys eu llinell gymorth cenedlaethol 24/7 am ddim 08 08 16 89 111, neu gallwch dderbyn cymorth ar-lein.

Gallwch ystyried ymuno â Chynllun Gwarchod Cymdogaeth, neu fentrau eraill a gefnogir gan yr Heddlu megis OWL – Online Watch Link.

I gael rhagor o wybodaeth ar sut i gadw eich hun yn ddiogel rhag trosedd, ewch i’n tudalen Diogelwch Personol ac i gael cymorth a chymorth arbenigol, ewch i’r adran Testunau unigol ar ein gwefan.