Neidio i'r prif gynnwys

Masnachu a Delio Cyffuriau

Archwilio is-bynciau

Beth yw Masnachu a Delio Cyffuriau?

Mae masnachu a gwerthu cyffuriau yn ffynhonnell fawr o incwm i grwpiau trosedd trefnedig, sy’n aml hefyd yn ymwneud â throseddau difrifol eraill fel arfau tanio, caethwasiaeth fodern a throseddau mewnfudo.

Fel arfer mae masnachu cyffuriau o fewn y DU yn digwydd drwy ddosbarthu cyffuriau Dosbarth A, yn arbennig heroin a chrac cocên, drwy rwydweithiau cyffuriau Llinellau Sirol yn gweithredu ar draws y wlad. Darllenwch fwy am Linellau Sirol, y cysylltiad gyda Chamfanteisio’n Droseddol ar Blant ac enghreifftiau eraill lle mae unigolion yn agored i niwed (fel Meddiannu Cartrefi Pobl Ddiamddiffyn i Werthu Cyffuriau).

Mae Cymru wedi gweld cynnydd mewn ffermydd canabis yn ystod y blynyddoedd diweddar (Wales Online). Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o gyffuriau anghyfreithlon yn tarddu o dramor ac maent yn cael eu masnachu i mewn i’r DU drwy ddulliau amrywiol, gan gynnwys cychod bach ac awyrennau ysgafn, cynwysyddion llongau, cerbydau o Ewrop, teithwyr ar awyrennau a pharseli. Yn 2019, fe feddiannwyd dros 250 cilogram o gocên ac arestiwyd chwech o bobl wedi i ymchwiliad arwain at ddal cwch hwylio oddi ar arfordir Cymru. 

(Saesneg yn unig)

Mae dulliau masnachu yn aml yn dibynnu ar recriwtio pobl ddiamddiffyn fel cludwyr, sy’n arwain at risg uchel i iechyd os yw’r cyffuriau’n cael eu cludo o fewn y corff. Nid yw rhai pobl yn gwybod eu bod yn cael eu defnyddio fel cludwyr, a dyma pam mae’n bwysig eich bod yn pacio eich bagiau eich hun. Mae masnachwyr hefyd yn dibynnu ar gael cymorth gweithwyr yn y porthladdoedd ac ar ffiniau. Mae’r llygredigaeth hwn yn gwanhau uniondeb diogelwch ar y ffiniau ac yn cynyddu’r risg o ffurfiau eraill o fasnachu, gan gynnwys arfau tanio a throseddau mewnfudo trefnedig. Darllenwch fwy drwy’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac yn yr Asesiad Strategol Cenedlaethol o Drosedd Difrifol a Threfnedig 2021.

Mae delio cyffuriau ar lefel y stryd yn ymwneud â chymysgedd o aelodau iau grwpiau trosedd trefnedig, gangiau stryd trefol a delwyr sy’n ddefnyddwyr. Mae lluoedd yr heddlu yn bennaf yn mynd i’r afael â delio cyffuriau ar lefel y stryd, tra bod yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn arwain ar Grwpiau Trosedd Trefnedig sy’n uwch i fyny’r gadwyn gyflenwi. Mae adolygiad annibynnol y Fonesig Carol Black o gyffuriau yn disgrifio’r farchnad gyffuriau mewn mwy o fanylder.

Y cyffur sy’n cael ei ddefnyddio a’i werthu amlaf yw canabis, ac wedyn cocên ac ecstasi (darllenwch fwy ar wefan Drugwise). Fe allwch gael dirwy neu ddedfryd o garchar os ydych yn cymryd, cludo neu’n cynhyrchu cyffuriau, hefyd os ydych yn gwerthu, delio neu’n rhannu cyffuriau (a elwir hefyd yn ‘gyflenwi’ cyffuriau). Mae’r cosbau yn dibynnu ar y math o gyffur neu sylwedd, y cyfanswm sydd gennych a ph’run ai a ydych hefyd yn delio neu’n cynhyrchu’r cyffur. Mae’r cosbau mwyaf yn dibynnu ar ba fath neu ba ‘ddosbarth’ yw’r cyffur. Gallwch ddarllen mwy yma.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi ei diffiniad wedi’i ddiweddaru ar sbeicio yn ddiweddar. Mae’n anghyfreithlon achosi i berson arall yfed, bwyta neu chwistrellu alcohol neu sylweddau yn groes i’w ewyllys. Gall unrhyw un y canfyddir ei fod wedi sbeicio un arall wynebu dedfrydau llym o garchar.

Dolenni defnyddiol

Yng Nghymru mae’r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol ar Gamddefnyddio Sylweddau yn cynghori ar leihau problemau a achosir gan gyffuriau ac alcohol. Gweler y fersiwn diweddaraf o’r cynllun hwn.

Darllenwch yr Cynllun

Mae’r Byrddau Cynllunio Ardal camddefnyddio sylweddau yn cefnogi cynllunio rhanbarthol, comisiynu a darparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.

Darllenwch yr Dogfen

Am ystod eang o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru – Camddefnyddio cyffuriau a dibyniaeth | Is-bwnc | GOV.WALES

Ewch i’r .Gov Wefan

DAN 24/7 – Y Gyfraith a Dosbarthiadau Cyffuriau yn y DU

Ewch i’r Wefan

Ymgyrchoedd Crimestoppers Cymru

Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol – Asesu Cudd-wybodaeth: Llinellau Sirol, Gangiau, a Diogelu

Ewch i’r Wefan

Llywodraeth y DU – Adolygiad o gyffuriau: adroddiad cam un, Adolygiad o Gyffuriau – tystiolaeth yn ymwneud â defnyddio cyffuriau, cyflenwi a’r effeithiau, gan gynnwys tueddiadau presennol a risgiau yn y dyfodol, Y Fonesig Carol Black, Chwefror 2020 ac Adolygiad o gyffuriau: adroddiad cam dau (yn weithredol yn Lloegr ond â pherthnasedd i Gymru)

Darllenwch yr Adroddiad

DrugWise – Gwybodaeth seiliedig ar dystiolaeth

Ewch i’r Wefan

Stats Wales – Yr ystadegau diweddaraf ar atgyfeiriadau i asiantaethau sy’n trin cyffuriau ac alcohol yng Nghymru

Ewch i’r Wefan


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os oes gennych amheuon ynglŷn â masnachu neu ddelio cyffuriau yna rhowch wybod am hynny i’ch heddlu lleol ar 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111. Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser.

Dan 24/7 – Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Dwyieithog Cyfrinachol a Rhad ac am Ddim DAN 247 – Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru . Ffoniwch DAN 24/7 ar 0808 808 2234 unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos am gymorth a chyngor neu tecstiwch DAN gan ddefnyddio’r rhif hwn: 81066.

Gallwch gael manylion am wasanaethau Cymorth Cyffuriau ac Alcohol drwy Brosiect Kaleidoscope neu edrychwch ar ein Cyfeiriadur i weld pa wasanaethau sy’n agos atoch chi.

Mae Talk to FRANK yn darparu gwybodaeth ar brynu meddyginiaeth ar-lein.