Neidio i'r prif gynnwys

Twyll

Archwilio is-bynciau

Beth yw Twyll?

“Twyll yw’r drosedd a brofir fwyaf cyffredin yn y DU. Mae twyll yn costio biliynau o bunnoedd bob blwyddyn i’r DU. Fe all effaith twyll a throseddau cysylltiedig, fel cam-drin y farchnad a ffugio, fod yn ddinistriol, gan amrywio o ddioddefwyr diamddiffyn yn dioddef colledion personol na allant eu fforddio i effeithio ar allu sefydliadau i aros mewn busnes.” Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.

Yn ôl Action Fraud, twyll yw pan ddefnyddir dichell i gael mantais anonest, sy’n aml yn ariannol, dros unigolyn arall. Fe all twyll gael ei gyflawni yn erbyn unigolion neu fusnesau ac yn gynyddol fe gaiff ei gyflawni ar-lein.  Mae mathau o dwyll yn cynnwys – pensiynau, busnes, buddsoddiad ariannol, twyll yswiriant, telathrebu, bancio a chredyd, twyll elusennol, twyll cwsmer, twyll seiber, ffi ymlaen llaw. Ewch i restr A-Z o’r mathau o dwyll gan Action Fraud i gael gwybodaeth fwy manwl.

Y Diafol yn Eich Manylion | Twyll Ar-lein

Dolenni defnyddiol

Am gyngor ar sut i atal twyll ewch i Take Five, Cyber Aware ac Action Fraud.

Take Five Wefan

Cyber Aware Wefan

Action Fraud Wefan

Mae gan Action Fraud restr gynhwysfawr o sefydliadau defnyddiol.

Gweld y Gyfres

Archwilio Cymru – ‘Codi Ein Gêm’ Mynd i’r Afael â Thwyll yng Nghymru

Darllenwch yr Dogfen

Y Swyddfa Twyll Difrifol  –  Gwybodaeth i ddioddefwyr, tystion ac unigolion sy’n rhannu pryderon.

Ewch i’r Wefan

Y Ganolfan Ddiogelwch neu holwch am gyngor a chefnogaeth gan eich banc neu gymdeithas adeiladu.

Ganolfan Ddiogelwch Wefan


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych wedi dioddef twyll, gan gynnwys negeseuon e-bost twyllodrus, peidiwch ag agor unrhyw atodiadau na chlicio ar unrhyw ddolenni. Rhowch wybod i Action Fraud, y ganolfan genedlaethol er mwyn rhoi gwybod am dwyll a seibrdrosedd yn y DU, drwy eu gwefan neu gysylltu â 0300 123 2040. Mewn argyfwng ffoniwch 999.

Bydd eich darparwr ariannol hefyd yn cynnig cymorth, felly cysylltwch â’ch banc, cymdeithas adeiladu neu gwmni cerdyn credyd.

Gall dioddefwyr dderbyn cefnogaeth gan Cymorth i Ddioddefwyr.