Neidio i'r prif gynnwys

Trais Gangiau

Archwilio is-bynciau

Beth yw Trais Gangiau?

Fel arfer disgrifir trais gangiau fel rhan o broblem ehangach o drais pobl ifanc a chaiff ei ddiffinio gan Uned Atal Trais Cymru fel a ganlyn:

Mae gangiau fel arfer yn ymwneud â gweithgarwch troseddol ac yn defnyddio trais neu’n bygwth i gynyddu neu gadw eu pŵer, enw da, neu adnoddau economaidd. Gall natur y trais amrywio’n sylweddol a gall gynnwys lladdiad a throseddau cysylltiedig â chyllyll a gynnau, ymosodiad a throseddau lle mae camfanteisio’n digwydd. Fe all pobl ifanc sy’n ymwneud â gangiau fod yn ddioddefwyr trais neu gallant ddod o dan bwysau i wneud pethau (e.e. dwyn neu gario cyffuriau neu arfau). Fe allant gael eu cam-drin, mae’n bosibl y cam-fanteisir arnynt a gallant gael eu rhoi mewn sefyllfaoedd peryglus.”

Mae newidiadau i’r farchnad gyffuriau, gan gynnwys model y Llinellau Sirol o gamfanteisio, yn rhannol gyfrifol am hybu cynnydd mewn trais gangiau, gan fod gangiau yn brwydro am reolaeth o diriogaeth ac yn dial. Mae gwaith partneriaeth i Roi Diwedd ar Drais Gangiau a Chamfanteisio wedi bod yn digwydd ers sawl blwyddyn ac yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan Lywodraeth y DU o fewn y Strategaeth Trais Difrifol a’r Cynllun Trechu Trosedd. Yng Nghymru mae’r Uned Atal Trais yn cymryd ymagwedd iechyd cyhoeddus i ddeall trais pobl ifanc ac yn gweithio gyda phartneriaid a darparwyr gwasanaeth i gyflawni rhaglenni a phrosiectau sy’n sicrhau fod gweithgarwch atal trais yng Nghymru yn effeithiol ac yn gynaliadwy. Am ragor o wybodaeth am ymwneud â gangiau yn gyffredinol gweler Camfanteisio yn Droseddol ar Blant.

Beth yw Trais Ieuenctid?

Dolenni defnyddiol

Mae adnoddau amrywiol i’w cael drwy’r safleoedd a’r dolenni canlynol:

Gangiau – St Giles

Ewch i’r Wefan

Gangiau (llinellau sirol) – Gweithwyr Proffesiynol Fearless

Ewch i’r Wefan

Trais Pobl Ifanc | Yr Uned Atal Trais

Ewch i’r Wefan

Deall seicoleg trais gangiau: yr oblygiadau ar gyfer cynllunio ymyriadau trais effeithiol

Darllenwch yr Erthygl

Camfanteisio troseddol a gangiau | NSPCC

Ewch i’r Wefan

Sut mae’r mynegai trais gangiau yn gweithio | Yr Heddlu Metropolitanaidd

Ewch i’r Wefan

Rhoi diwedd ar drais gangiau a chamfanteisio – GOV.UK

Ewch i’r Wefan

Atal trais pobl ifanc ac ymwneud â gangiau – Cyngor ymarferol i ysgolion a cholegau

Darllenwch yr Erthygl

Beth yw Menter ar y Cyd? – Bywyd neu’r Gyllell – Chi sydd â’r dewis

Ewch i’r Wefan

Cyfraith menter ar y cyd: beth yw hyn a pham ei fod mor ddadleuol?

Ewch i’r Wefan

Menter ar y Cyd – Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin

Ewch i’r Wefan


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae Missing People yn cynnig gwasanaeth cefnogi arbenigol i bobl ifanc a rhieni/gofalwyr a gaiff eu heffeithio gan gangiau’n camfanteisio a llinellau sirol.

Mae Missing People’s SafeCall yn wasanaeth cefnogi cyfrinachol, anfeirniadol, arbenigol i bobl ifanc a’u teuluoedd sy’n byw yng Nghymru a Lloegr, sy’n poeni am neu’n cael eu heffeithio gan linellau sirol. Gallwch gysylltu â thîm SafeCall ar 020 8392 5710 Dydd Llun – Dydd Gwener 9am-5pm neu drwy gwblhau’r ffurflen.

Os ydych yn ffonio y tu allan i’r oriau hyn, fe gewch gynnig y cyfle i siarad â rhywun ar Linell Gymorth Rhedeg i Ffwrdd Missing People yn lle hynny, mae’n rhad ac am ddim i’w ffonio, neu gallwch anfon neges destun i’r rhif hwn 116 000.

Fe all pobl ifanc hefyd roi gwybodaeth yn ddienw ynglŷn â gangiau yma Fearless.org