Neidio i'r prif gynnwys

Troseddau â Chyllyll

Archwilio is-bynciau

Beth yw Troseddau â Chyllyll?

Mae trosedd â chyllyll yn golygu unrhyw drosedd sy’n ymwneud â chyllell. Mae rhai pobl yn gwneud y camgymeriad o gredu y bydd cario cyllell yn rhoi amddiffyniad iddynt. Ond mae ystadegau’n dangos os ydych chi’n cario cyllell neu arf yna rydych chi’n fwy tebygol o gael niwed.  Mae’r deddfau sylfaenol ar gyllyll yn nodi ei bod yn anghyfreithlon i wneud yr isod:

  • gwerthu cyllell i unrhyw un o dan 18, oni bai fod ganddi lafn sy’n plygu sy’n 3 modfedd o hyd (7.62 cm) neu lai
  • cario cyllell yn gyhoeddus heb reswm da, oni ba fod ganddi lafn sy’n plygu gydag ymyl miniog 3 modfedd o hyd neu lai
  • cario, prynu neu werthu unrhyw fath o gyllell sydd wedi ei gwahardd
  • defnyddio unrhyw gyllell mewn modd bygythiol (hyd yn oed cyllell gyfreithlon)

Mae unrhyw declyn miniog a gaiff ei ddefnyddio mewn modd bygythiol (e.e. sgriwdreifer) hefyd yn arf ymosodol. Gallwch ddysgu mwy yma.

Mae newidiadau diweddar i’r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd gan Ddeddf Arfau Ymosodol 2019 yn golygu ei bod, ers 14 Gorffennaf 2021, bellach yn drosedd i feddu eitemau penodol fel dyrnau haearn, shuriken a elwir hefyd yn ‘throwing stars’ a chyllyll sombi, hyd yn oed yn breifat. Mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys diffiniad wedi ei ddiweddaru o gyllyll clec i adlewyrchu’r newidiadau yn nyluniadau’r arfau a gwahardd meddu ar gyllyll clec a chyllyll disgyrchiant yn breifat.

Deddf Arfau Ymosodol 2019

Dolenni defnyddiol

Nod Uned Atal Trais Cymru yw atal pob math o drais, gan gynnwys trosedd â chyllyll. I gael gwybodaeth am eu gwaith ewch i: Uned Atal Trais

Ewch i’r Wefan

Ystadegau ar drosedd â chyllyll – Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin

Ewch i’r Wefan

Crimestoppers – Trosedd â chyllyll mewn manylder

Ewch i’r Wefan

Ymddiriedolaeth Ben Kinsella | #StopKnifeCrime

Ewch i’r Wefan

Gynnau a throsedd â chyllyll | Childline

Ewch i’r Wefan

GOV.UK links

Fideo BBC Three – Sut i Beidio â Marw o Ganlyniad i Drywanu

Gwylio y Fideo

Ymgyrch Sceptre: Sut i gael gwared ar hen gyllell? | Heddlu Dyfed Powys

Darllenwch yr Erthygl

Atal Trais â Chyllyll yn Yr Alban – rhaglen ‘No Knives Better Lives’

Ewch i’r Wefan

Trosedd â chyllyll – Newyddion y BBC

Ewch i’r Wefan

Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych chi wedi bod yn dyst neu wedi bod yn ddioddefwr trosedd, adroddwch hyn i’r Heddlu. Ffoniwch 101, neu gallwch adrodd ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth o fewn Cymru – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu anfonwch neges destun ar 999 os ydych wedi cofrestru gyda gwasanaeth argyfwng SMS.

Os oes gennych wybodaeth am drosedd ac yn dymuno aros yn ddienw, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan drosedd, gallwch gael mynediad at gymorth gan Gymorth i Ddioddefwyr, gan gynnwys eu llinell gymorth cenedlaethol 24/7 am ddim 08 08 16 89 111, neu gallwch dderbyn cymorth ar-lein.

Gallwch ystyried ymuno â Chynllun Gwarchod Cymdogaeth, neu fentrau eraill a gefnogir gan yr Heddlu megis OWL – Online Watch Link.

I gael rhagor o wybodaeth ar sut i gadw eich hun yn ddiogel rhag trosedd, ewch i’n tudalen Diogelwch Personol ac i gael cymorth a chymorth arbenigol, ewch i’r adran Testunau unigol ar ein gwefan.