Neidio i'r prif gynnwys

Troseddau Mewnfudo Trefnedig

Archwilio is-bynciau

Beth yw Troseddau Mewnfudo Trefnedig?

Mae troseddau mewnfudo trefnedig yn ymwneud â symud unigolyn ar draws ffiniau heb ganiatâd neu ddogfennaeth gyfreithiol gyda chymorth grŵp o droseddwyr trefnedig. Cyfeirir at hyn yn aml fel ‘smyglo pobl’. Gall hefyd ymwneud ag unigolion sy’n aros yn anghyfreithlon mewn gwlad.

Gall arwyddion i gadw golwg amdanynt gynnwys:

  • Gweithgarwch mewn lleoliadau arfordirol anghysbell, neu ar amseroedd anarferol o’r dydd, gan gynnwys ymdrechion i dywys cychod o’r lan i ardaloedd anarferol neu’r criw yn dangos arwyddion o nerfusrwydd.
  • Patrymau rhyfedd o daliadau yn cael eu gwneud, fel derbyn taliadau ariannol rheolaidd o sawl ffynhonnell drwy gyfrifon banc.
  • Dogfennau adnabod ffug.

(Addaswyd o’r Asesiad Strategol Cenedlaethol o Drosedd Difrifol a Threfnedig 2021  yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol).

Dulliau cyfrinachol cyffredin i fewnfudwyr ddod i mewn i’r DU yw drwy gael eu cludo ar y rheilffordd neu fferi, mewn cynwysyddion llongau masnachol neu mewn cychod bach.  Beth bynnag fo’u dull o ddod i mewn i’r DU fodd bynnag, heb ganiatâd i weithio’n gyfreithlon, gall mewnfudwyr ddioddef camfanteisio a gallant gael eu gorfodi i gaethwasiaeth fodern neu droi at drosedd i gefnogi eu hunain. Gallwch ddarllen mwy yma.

Gweler hefyd ein hadrannau ar Gaethwasiaeth Fodern a Masnachu mewn Pobl.

  • Crimestoppers

Dywedwch Na i Smyglo Pobl – Tudalen yr Ymgyrch a Phecyn Gwybodaeth Partner

  • NCVO

Trosolwg Beth yw troseddau mewnfudo trefnedig

  • Fe all cydweithwyr yng ngorfodi’r gyfraith y DU hefyd ymuno â’r Grŵp Plismona Caethwasiaeth a Masnachu mewn Pobl ar y Knowledge Hub.

Dolenni defnyddiol

Gwybodaeth gan Uned Caethwasiaeth Fodern a Throseddau Mewnfudo Trefnedig yr  NPCC (MSOIC)  Plismona Caethwasiaeth

Ewch i’r Wefan

Llywodraeth Prydain – Rhoi gwybod am ymddygiad amheus yn y môr: Prosiect Kraken a Rhoi gwybod am ymddygiad amheus mewn meysydd awyr bach yn y DU: Prosiect Pegasus

Ewch i’r Wefan

Europol – Hyrwyddo Mewnfudo Anghyfreithlon | Ardaloedd trosedd

Ewch i’r Wefan


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych yn byw ger yr arfordir, dyfrffyrdd neu faes awyr gwledig ac os ydych yn gweld unrhyw beth amheus, rhowch wybod i’ch heddlu lleol neu Crimestoppers gan ddweud ‘Kraken’ (os yn ymyl dyfrffordd) neu ‘Pegasus’ (os wrth faes awyr).

Ewch i’n hadran ar Fasnachu mewn Pobl i gael rhagor o wybodaeth am gymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr.