- Deddf Difrod Troseddol 1971
- Deddf Ceirw 1991 (mewn perthynas â photsio)
- Deddf Diogelu Bwyd a’r Amgylchedd 1985(defnydd o blaladdwyr)
- Deddf Hela 2004, sy’n gwneud rhai ffurfiau o hela mamaliaid gwyllt gyda chŵn yn drosedd, ond mae’n ehangach na hynny gan ei fod yn cynnwys troseddau penodol mewn perthynas â hela ysgyfarnogod.
- Masnach Ryngwladol mewn Rhywogaeth mewn Perygl: CITES a COTES
- Deddf Plâu 1954 (mewn perthynas â’r defnydd o drapiau)
- Deddf Diogelu Moch Daear 1992
- Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017
- Deddf Dwyn 1968
- Deddf Dwyn 1978
- Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sy’n diogelu anifeiliaid gwyllt, planhigion a chynefinoedd. Mae’n gwahardd dulliau penodol i ladd neu ddal anifeiliaid gwyllt.
Mae taro anifail gwyllt yn fwriadol yn drosedd o dan y Ddeddf (Diogelu) Mamaliaid Gwyllt. Os ydych chi’n taro ac yn lladd anifail gwyllt, rhaid i chi ei adael yn ddiogel ar ochr y ffordd a hysbysu’r cyngor lleol fel y gallent symud y gweddillion. Mae rhai anifeiliaid gwyllt wedi eu diogelu, ac mae’n drosedd meddu ar un, yn farw neu’n fyw.