Gweler Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac Anrhefn am restr lawn o’r deddfwriaethau perthnasol. Yn benodol:
Mae’r Ddeddf hon yn amlinellu’r chwe ffordd sydd ar gael ar hyn o bryd i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sef: gwaharddebau sifil, gorchmynion ymddygiad troseddol; hysbysiadau amddiffyn cymunedol; gorchmynion gwarchod mannau agored cyhoeddus; gorchmynion cau; pwerau gwasgaru. Cyflwynwyd hefyd y sbardun cymunedol a dulliau unioni cymunedol.
- Gwaharddebau sifil
Mae llysoedd yn dyfarnu gwaharddebau i rwystro pobl rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gellir eu dyfarnu heb rybudd ond maent ar gael dim ond os oes trais wedi cael ei fygwth neu wedi cael ei ddefnyddio.
- Gorchmynion ymddygiad troseddol
Fe’u rhoddir gan lys troseddol yn erbyn person sydd wedi ei gael yn euog o drosedd ac sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Pwerau gwasgaru
Mae’r rhain yn galluogi’r heddlu i roi gorchymyn i berson sy’n achosi aflonyddwch, braw neu drallod i adael ardal benodol am hyd at 48 awr.
Yn ogystal, efallai y ceir deddfwriaeth berthnasol ynghylch Trosedd Casineb.