- Roedd Deddf Mannau Agored 1906 yn caniatáu i awdurdodau lleol fod yn berchen ar neu rentu mannau cyhoeddus gan gynnwys ar gyfer datblygu palmentydd neu ar gyfer gweithgareddau hamdden pobl.
- Yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 cafodd mannau gwyrdd cyhoeddus eu hymestyn i gynnwys gerddi a pharciau trefol, parciau gwledig, camlesi a glannau afonydd.
- I weld y ddeddfwriaeth ynghylch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ym mhob ffurf, gan gynnwys pori anghyfreithlon, aflonyddwch, tanau, trais rhywiol, troseddau yn ymwneud â chyllyll ac arfau ymosodol eraill, ewch i’r adrannau perthnasol ar y wefan.
- Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014
Mae’r Ddeddf hon yn amlinellu’r chwe ffordd sydd ar gael ar hyn o bryd i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sef: gwaharddebau sifil, gorchmynion ymddygiad troseddol; hysbysiadau amddiffyn cymunedol; gorchmynion gwarchod mannau agored cyhoeddus; gorchmynion cau; pwerau gwasgaru. Cyflwynwyd hefyd y sbardun cymunedol a dulliau unioni cymunedol.
- Gwaharddebau sifil
Mae llysoedd yn dyfarnu gwaharddebau i rwystro pobl rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gellir eu dyfarnu heb rybudd ond maent ar gael dim ond os oes trais wedi cael ei fygwth neu wedi cael ei ddefnyddio.
- Gorchmynion ymddygiad troseddol
Fe’u rhoddir gan lys troseddol yn erbyn person sydd wedi ei gael yn euog o drosedd ac sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Pwerau gwasgaru
Mae’r rhain yn galluogi’r heddlu i roi gorchymyn i berson sy’n achosi aflonyddwch, braw neu drallod i adael ardal benodol am hyd at 48 awr.
- Hysbysiadau amddiffyn cymunedol
Gall awdurdodau lleol, yr heddlu a rhai cymdeithasau tai eu cyflwyno er mwyn mynd i’r afael ag amrywiaeth eang o broblemau, megis taflu sbwriel a niwsans sŵn.
- Gorchmynion diogelu mannau agored cyhoeddus
Gall awdurdodau lleol eu defnyddio i atal ymddygiad parhaus, afresymol a/neu niweidiol.