Neidio i'r prif gynnwys

Teledu Cylch Caeëdig a Digidol

Archwilio is-bynciau

Beth yw Teledu Cylch Caeëdig?

Mae’r defnydd o gamerâu gwyliadwriaeth Teledu Cylch Caeëdig wedi bod yn un o’r mentrau atal troseddu mwyaf ers y 1990au, lle roedd awdurdodau lleol yn gweithio gyda’r heddlu a chynlluniau partneriaeth busnes i osod systemau yng nghanol dinasoedd a threfi a mannau cyhoeddus eraill. 

 “Defnyddir camerâu gwyliadwriaeth teledu cylch caeedig fel mesur atal troseddu sefyllfaol mewn mannau cyhoeddus a phreifat. Mae’n dechneg gwyliadwriaeth ffurfiol lle gosodir camerâu a’u monitro er mwyn cynorthwyo i atal troseddu, canfod troseddwyr a rheoli tyrfaoedd.” Coleg Plismona

Darganfu ymchwil yn 2009 bod teledu cylch caeedig wedi achosi lleihad o 16% mewn trosedd o’i gymharu ag ardaloedd rheoli. Y cynlluniau teledu cylch caeedig mwyaf effeithiol oedd mewn meysydd parcio, a brofodd lleihad o 51% mewn trosedd. Roedd cynlluniau mewn mannau cyhoeddus eraill, megis canol dinasoedd a threfi ac o amgylch tai cyhoeddus, wedi profi llai o fuddion, gyda lleihad o 7% (Welsh & Farrington 2009). Fodd bynnag, daeth y Coleg Plismona i’r canlyniad bod “bod tystiolaeth fod teledu cylch caeedig yn lleihau trosedd yn weddol ar y cyfan”. 

Yn fwy diweddar, ffefrir camerâu teledu cylch caeëdig symudol yn sgil eu hyblygrwydd a’u heffeithlonrwydd o ran cost. Defnyddir y rhain i helpu i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ogystal â chefnogi atal a chanfod troseddau. Er enghraifft, darllenwch Ymgyrch Elstree yn Ne Cymru.

  • Mae diffiniad statudol ar gyfer system camerâu gwyliadwriaeth wedi ei nodi yn Adran 29(6) o’r Deddf Diogelu Rhyddid 2012  ac yn cynnwys: (a) teledu cylch caeedig (CCTV) neu systemau adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig (ANPR); (b) unrhyw systemau eraill ar gyfer gwylio delweddau gweledol ar gyfer dibenion gwyliadwriaeth; (c) unrhyw systemau ar gyfer storio, derbyn, trosglwyddo, prosesu neu wirio delweddau neu wybodaeth a geir drwy (a) neu (b); (d) unrhyw systemau eraill sy’n gysylltiedig â, neu fel arall yn gysylltiedig â (a), (b) neu (c). 
  • Deddf Diogelu Data 2018
  • Deddf Traffig Ffordd 1991 (cyflwyno camerâu cyflymder)
  • Rheoliadau Cerbydau Ffordd (Adeiladu a Defnydd)(Diwygiad)(rhif 5) 2005 (defnyddio dyfeisiau cyfyngu cyflymder)

Yn ôl yr Heddlu Metropolitan, mae’r cyfreithiau a deddfwriaethau hyn yn caniatáu’r defnydd o ddyfeisiau adnabod wynebau:

Mae unrhyw un sy’n gweithredu drôn ar gyfer defnydd hamdden angen dilyn y canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Hedfan Sifil.

Dolenni Defnyddiol

Gwefan Comisiynydd Camerâu Gwyliadwraeth

Ewch i’r Wefan

Swyddfa’r Comisiynydd Camerâu Gwyliadwraeth – blog Pa mor effeithiol yw Systemau Fideo Gwyliadwraeth (VSS)?

Darllenwch yr Blog

Llywodraeth y DU – Dronau: sut i’w hedfan yn ddiogel ac yn gyfreithlon 

Ewch i’r Wefan

Llywodraeth y DU – Canllawiau i gynorthwyo’r rhai sydd â chyfrifoldeb a ddiogelwch mewn mannau torfol a mentrau bychain a chanolig mewn perthynas â Systemau gwyliadwraeth fideo a theledu cylch caeëdig

Darllenwch yr Canllawiau

Police Professional – First ‘bespoke’ drone launched by Gwent Police

Darllenwch yr Blog

Canllawiau Cymdeithas Llywodraeth Leol – Datblygu dull ar gyfer teledu cylch caeëdig gorfodol mewn tacsis a cherbydau hurio preifat

Darllenwch yr Canllawiau

GanBwyll – Partneriaeth Lleihau Damweiniau Ffyrdd Cymru

Ewch i’r Wefan

Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO)

Ewch i’r Wefan


Mae dulliau eraill o ddyfeisiau canfod ac atal troseddau digidol

yn cynnwys camerâu a wisgir ar y corff, camerâu ANPR, camerâu cyflymder, camerâu hofrennydd ac yn fwy diweddar, systemau adnabod wyneb a dronau.

  • Mae camerâu a wisgir ar y corff yn ddyfeisiau bychain a gweladwy sy’n cael eu rhoi ar wisg swyddogion heddlu i recordio clipiau fideo a sain o ryngweithiadau rhwng yr heddlu ac aelodau’r cyhoedd. Darllenwch fwy ar Coleg Plismona.
  • Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig yw camera sy’n darllen a chadw rhifau cerbydau sy’n pasio. Darllenwch fwy ar Menu of Tactics, tudalenau 83 ac 84
  • Cafodd camerâu diogelwch i leihau cyflymder ac anafusion ar y ffyrdd eu cyflwyno yn y 1990au cynnar. Darganfyddwch lle mae camerâu wedi’u gosod yng Nghymru a pham ar GanBwyll a darllenwch ein hadran diogelwch ar y ffyrdd i gael rhagor o wybodaeth.
  • Mae’r Gwasanaeth Awyrlu Cenedlaethol yn darparu heddlu yng Nghymru a Lloegr gyda chymorth awyr. Mar criwiau’r Gwasanaeth Awyrlu Cenedlaethol yn defnyddio camerâu arbenigol i gyfathrebu’n uniongyrchol gyda’r unedau ar y tir a’r ystafelloedd rheoli, wrth iddynt gydweithio i helpu i gadw cymunedau’n ddiogel.
  • Mae Dyfeisiau Adnabod Wynebau Byw yn dechnoleg a all helpu i leoli person o ddelwedd digidol. Darllenwch fwy ar Heddlu’r Met.
  •  Mae ‘dronau’, a elwir hefyd yn Gerbydau Erial Di-Griw), yn awyrennau a weithredir yn symudol, ac mae eu defnydd bellach yn gyffredin ymysg unigolion preifat a gweithredwyr masnachol, yn ogystal â diogelwch cymunedol. Er enghraifft, darllenwch sut mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn defnyddio dronau i ddod o hyd i bobl sydd ar goll. Mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn defnyddio dronau i gynorthwyo gydag ymchwiliadau i ddamweiniau traffig ffyrdd a digwyddiadau trosedd mawr, ond nid ar gyfer patrôl/ gwyliadwriaeth cyffredinol. Mae Heddlu Gwent hefyd wedi defnyddio dronau i fynd i’r afael â beics oddi ar y ffordd.

Defnyddir technoleg camera gwyliadwriaeth yn gyffredinol gan fusnesau a perchnogion tai, gyda clychau drws â chamera yn dod yn fwy poblogaidd (gweler dolenni defnyddiol isod ar gyfer canllawiau ar sut i ddefnyddio teledu cylch caeedig domestig). Fodd bynnag, fe’i defnyddir hefyd gan bobl gyda’r bwriad i gynorthwyo eu hymddygiad troseddol. Er enghraifft, mae adroddiadau o ddronau yn cael eu defnyddio i hedfan cyffuriau i mewn i garchardai (BBC Future) a thros ffermydd i gynorthwyo i ddwyn (Irish Times) Mae ymchwil yn dangos bod ymddygiadau cyffredin mewn achosion o reolaeth drwy orfodaeth o fewn cam-drin domestig yn cynnwys y defnydd o dechnoleg.