Neidio i'r prif gynnwys

Camfanteisio’n rhywiol ar blant

Archwilio is-bynciau

I adrodd am gamfanteisio’n rhywiol ar blant ffoniwch 999 os yw’r plentyn mewn perygl ar unwaith, neu ffoniwch 101 os ydych chi’n credu bod trosedd wedi ei chyflawni, neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu adroddwch ar-lein. Os ydych chi’n poeni am eich meddyliau a’ch ymddygiad eich hun o ran Cam-Drin Rhywiol ar Blant cysylltwch â Stop It Now!.

Beth yw Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant?

Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn un math o gam-drin rhywiol. Pan gamfanteisir ar blentyn neu berson ifanc, rhoddir pethau iddynt, fel anrhegion, cyffuriau, arian, statws a hoffter, yn gyfnewid am berfformio gweithgareddau rhywiol. Mae plant a phobl ifanc yn aml iawn yn cael eu twyllo i gredu eu bod mewn perthynas gariadus a chydsyniol. Meithrin perthynas amhriodol yw’r enw am hyn. Efallai y byddant yn ymddiried yn y person sy’n eu cam-drin ac ni fyddant yn deall eu bod yn cael eu cam-drin. Weithiau bydd pobl sy’n cam-drin yn defnyddio trais a bygythion i ddychryn neu orfodi plentyn, fel eu bod yn teimlo nad oes ganddynt ddewis, gan gynnwys ynghylch materion ariannol.

Gall plant neu bobl ifanc gael eu masnachu i mewn i’r DU neu o amgylch y wlad i bobl gamfanteisio’n rhywiol arnynt. Maent yn cael eu symud o amgylch y wlad ac yn cael eu cam-drin drwy eu gorfodi i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, yn aml gyda mwy nag un person. Gwelir hefyd enghreifftiau o gamfanteisio’n rhywiol ar bobl ifanc mewn gangiau.

Mae Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant yn cynnwys trais rhywiol, puteindra, ffotograffiaeth rywiol, gorfod gwylio neu bod yn destun pornograffi neu bod yn dyst i weithredoedd rhywiol, ac ymosodiad neu weithredoedd rhywiol yn ymwneud â phlentyn.

Gall Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant ddigwydd wyneb yn wyneb neu ar-lein. 

Gall camfanteisio ar-lein gynnwys:

  • Anfon neu bostio delweddau rhywiol o’u hunain
  • Ffilmio neu ffrydio gweithgareddau rhywiol
  • Cael sgyrsiau rhywiol.

Gall y sawl sy’n cam-drin ddefnyddio pob un o’r rhain i fygwth neu flacmelio’r person ifanc neu blentyn i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol eraill. Efallai y byddant hefyd yn eu rhannu â phobl eraill neu’n eu dosbarthu ar-lein.

Mae gangiau’n defnyddio dulliau camfanteisio’n rhywiol ar blant:

  • I ddangos pŵer neu reolaeth
  • Fel defod derbyn
  • I ddefnyddio trais rhywiol fel arf.

Efallai y bydd plant neu bobl ifanc yn cael eu gwahodd i bartïon neu ddigwyddiadau cymdeithasol sy’n cynnwys cyffuriau ac alcohol. Efallai y bydd un person neu nifer o gyflawnwyr yn ymosod arnynt neu’n eu cam-drin yn rhywiol. Gall yr ymosodiadau rhywiol neu’r cam-drin fod yn dreisgar, yn llawn cywilydd ac yn ddiraddiol. 

Gall fod yn anodd gweld arwyddion o gamfanteisio’n rhywiol ar blant. Mae NSPCC wedi paratoi rhestr o arwyddion:

  • Ymddygiad rhywiol afiach neu anaddas
  • Bod yn ofnus o rai pobl, llefydd neu sefyllfaoedd 
  • Bod yn gyfrinachol
  • Newidiadau sydyn mewn hwyliau neu gymeriad
  • Bod ag arian nad oes modd iddynt ei esbonio, neu maent yn gwrthod ei esbonio
  • Arwyddion corfforol o gam-drin, fel cleisiau neu waedu yn ardal yr organau cenhedlu neu ardal yr anws
  • Camddefnyddio alcohol neu gyffuriau
  • Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol 
  • Beichiogrwydd.

Ynghyd â’r pethau canlynol:

  • Bod â chariad hŷn
  • Aros allan yn hwyr neu dros nos 
  • Bod â grŵp newydd o ffrindiau 
  • Ar goll o’r cartref/man gofal neu’n rhoi’r gorau i fynd i’r ysgol neu’r coleg 
  • Cymdeithasu gyda phobl hŷn, pobl fregus eraill neu mewn grwpiau gwrthgymdeithasol
  • Ymwneud â gang
  • Ymwneud â gweithgareddau troseddol fel gwerthu cyffuriau neu ddwyn o siopau.

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan NSPCC https://www.nspcc.org.uk/what-is-child-abuse/types-of-abuse/child-sexual-exploitation/ .

Ar brydiau gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng yr arwyddion hyn ac ymddygiad arferol plant yn eu harddegau wrth i blant fynd yn hŷn.

Bydd effeithiau camfanteisio’n rhywiol ar blant i’w gweld mewn dioddefwyr wyneb yn wyneb a dioddefwyr ar-lein ac maent yn debygol o gael effeithiau hirdymor. Maent yn cynnwys:

  • ei chael yn anodd ymddiried mewn pobl a bod ag ofn ffurfio perthnasoedd newydd
  • mynd yn ynysig oddi wrth deulu a ffrindiau 
  • methu arholiadau neu adael y byd addysg
  • beichiogi’n ifanc
  • bod yn ddi-waith
  • bod â phroblemau iechyd meddwl
  • ymdrechion i gyflawni hunanladdiad
  • camddefnyddio alcohol a chyffuriau
  • cymryd rhan mewn ymddygiad troseddol
  • bod yn ddigartref.

Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn rhoi pŵer i’r heddlu ofyn i westai a sefydliadau tebyg i roi gwybodaeth iddynt am westeion os byddant yn credu bod rhywun wedi camfanteisio’n rhywiol ar blant.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi cynnwys canllawiau statudol ar ddeall, atal ac ymateb i faterion yn ymwneud â chamfanteisio’n rhywiol ar blant drwy’r Canllawiau diogelu plant rhag i rywun gamfanteisio’n rhywiol arnynt. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cynnwys canllawiau arferion da ar ddiogelu plant rhag i rywun gamfanteisio’n rhywiol arnynt.

Mae Deddf Troseddau Difrifol 2015 a Deddf Troseddau Rhyw 2003 yn ei gwneud yn anghyfreithlon yng Nghymru a Lloegr i:

  • Annog neu gwneud i blentyn o dan 16 oed gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol
  • Hwyluso trosedd rhyw ar blentyn
  • Cwrdd â phlentyn ar ôl eu paratoi i bwrpas rhyw
  • Cyfathrebu gyda phlentyn o dan 16 oed mewn modd rhywiol
  • Cymryd, gwneud neu feddu ar ffotograffau a delweddau anweddus o blant o dan 18 oed
  • Camfanteisio’n rhywiol ar blentyn o dan 18 oed.

Yng Nghymru a Lloegr mae’r drosedd o feithrin perthynas amhriodol yn berthnasol i unrhyw un dros 18 oed sy’n meithrin perthynas amhriodol gydag unrhyw un o dan 16 oed.

Mae’r Swyddfa Gartref yn rhoi canllawiau am Ddeddf Troseddau Rhyw 2003, yn cynnwys y gwahanol droseddau rhyw a’u cosbau mwyaf. Mae’r canllawiau hefyd yn ymwneud â Gorchmynion Atal Niwed Rhywiol a Gorchmynion Risg Rhywiol. Darperir canllawiau gan Wasanaeth Erlyn y Goron am ddwyn achos yn erbyn achosion o gam-drin plant yn rhywiol.

Mae Deddf Troseddwyr Rhyw 1997 yn amlinellu cyfres o ofynion monitro ac adrodd ar gyfer troseddwyr rhyw. 

O dan gynllun datgelu troseddwyr rhyw â phlant, mae “Deddf Sarah” yn golygu y gall unrhyw un yng Nghymru a Lloegr ofyn i’r heddlu os oes gan unrhyw un â mynediad at blentyn gofnod o droseddau rhyw ar blant (Swyddfa Gartref). Bydd yr Heddlu yn datgelu manylion yn gyfrinachol i’r person sydd fwyaf abl i ddiogelu’r plentyn os ydynt yn credu y byddai hynny er lles y plentyn. 

Mae Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 yn rhoi’r fframwaith ar gyfer fetio a gwahardd pobl sy’n ceisio gweithio gyda phlant.

Ceir canllawiau i gefnogi ymarferwyr sy’n cynnal archwiliadau meddygol ar blant a phobl ifanc sydd wedi, neu y credir eu bod wedi, cael eu cam-drin yn rhywiol a bod rhywun wedi camfanteisio arnynt yn rhywiol.

Gofal Cymdeithasol Cymru:  Hyfforddiant am Ymwybyddiaeth o Ddiogelu 

NSPCC: Hyfforddiant am ddiogelu ac amddiffyn plant  

Stop it Now! Hyfforddiant i weithwyr proffesiynol  

PACE: Hyfforddiant i weithwyr proffesiynol  

Mae Seen and Heard yn cynnig sesiynau e-ddysgu a hyfforddiant i weithwyr proffesiynol fel eu bod yn gwybod sut i helpu plentyn sy’n datgelu achos o gam-drin neu gamfanteisio’n rhywiol arnynt 

Hwb Llywodraeth Cymru: Canllaw i’r teulu er mwyn siarad am feithrin perthynas amhriodol


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

I adrodd am gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn ffoniwch 999 os yw’r plentyn mewn perygl ar unwaith, neu ffoniwch 101 os ydych chi’n credu bod trosedd wedi ei chyflawni, neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu adroddwch ar-lein

Mae PACE yn gweithio gyda rhieni a gofalwyr plant sydd wedi dioddef rhywun yn camfanteisio’n rhywiol arnynt, neu maent mewn perygl o wneud hynny. Gellir eu ffonio ar 0113 240 5226 neu drwy lenwi eu ffurflen ar-lein.

Mae Barnado’s yn cynnig cefnogaeth i rieni drwy eu gwasanaethau ym mhob rhan o’r DU.

Mae NSPCC yn cynnal gwasanaethau therapiwtig ar gyfer plant sydd wedi dioddef rhywun yn camfanteisio’n rhywiol arnynt, neu maent mewn perygl o wneud hynny.

Gall plant a phobl ifanc gysylltu â:

  • Fearless i adrodd am droseddau’n ddienw
  • Gangsline am gyngor a chefnogaeth yn rhad ac am ddim gan gyn aelodau o ganigau
  • Cymorth i Ddioddefwyr os ydynt wedi dioddef trosedd yn eu herbyn
  • Gall Childline gynnig cyngor ar gyfer plant a phobl ifanc.

Mae dulliau ar gael gan NSPCC i geisio atal camfanteisio’n rhywiol ar blant, siarad gyda phlant am gadw’n ddiogel; gwybod beth i’w wneud os ydych chi’n poeni am gangiau; a helpu i gadw plant yn ddiogel ar-lein.

Mae cymorth hefyd ar gael i rai sy’n poeni am eu hymddygiad eu hunain. Os bydd person yn meddwl am gamfanteisio’n rhywiol ar blentyn neu berson ifanc, neu eisoes wedi gwneud hynny, gallant gysylltu â Stop It Now!, sef llinell gymorth yn rhad ac am ddim sy’n cynnig gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth. Ffoniwch 0808 1000 900 yn rhad ac am ddim rhwng 9am a 9pm o ddydd Llun i ddydd Iau neu rhwng 9am a 5pm ar ddydd Gwener, neu defnyddiwch y gwasanaeth negesu diogel 24 awr y dydd.