Neidio i'r prif gynnwys

Camfanteisio Troseddol

Archwilio is-bynciau

Beth yw Camfanteisio Troseddol?

Camfanteisio troseddol yw mynd ati’n fwriadol i ddylanwadu ar berson arall neu gam-drin pŵer neu reolaeth dros berson arall. Mae’n golygu cymryd mantais o sefyllfa neu berson arall at ddibenion troseddol er mwyn elwa’n bersonol. Gwelir camfanteisio ar sawl ffurf, yn cynnwys caethwasiaeth a chael eich rheoli gan berson neu grŵp.

Oedolion mewn perygl (gweler Diogelu) sydd fwyaf tebygol o gael rhywun yn camfanteisio arnynt ond gall unrhyw un gael eu targedu at ddibenion camfanteisio troseddol.

Dyma rai o’r peryglon i’r oedolyn pan fydd yn ymwneud â dulliau camfanteisio troseddol:

  • Cael eu harestio, gan gynnwys troseddau a gyflawnir gan aelodau eraill o’u gang nad ydynt wedi eu cyflawni’n uniongyrchol eu hunain (deddf cydfentergarwch).
  • Bod yn destun bygythiadau, blacmel, trais a chamdriniaeth emosiynol. Yn cynnwys bygythiadau tuag at y teulu a ffrindiau (yn cynnwys bygythiad y bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu hysbysu felly byddant yn cael eu gwahanu oddi wrth eu teulu, sy’n ychwanegu teimlad o ofn tuag at y gwasanaethau cymdeithasol).
  • Camddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill.
  • Camfanteisio arnynt i wneud mwy o droseddau.
  • Methu â gadael neu dorri cysylltiad â’r person neu’r gang.
  • Perygl o niwed corfforol (yn cynnwys trais neu gam-drin rhywiol) neu gael eu lladd.
  • Effaith hirdymor ar ddewisiadau cyflogaeth gan nad yw rhai swyddi’n hygyrch i berson sydd â chofnod troseddol.

Meithrin perthynas amhriodol ag oedolion

Gall oedolyn feithrin perthynas amhriodol gydag oedolion yn ogystal â phlant. Maent yn gwneud hyn drwy ffurfio perthynas, ymddiriedaeth a chysylltiad emosiynol fel y gallant ddylanwadu arnynt, camfanteisio arnynt a/neu eu cam-drin. Gall fod yn anodd i’w adnabod, ac mae’n annhebygol y bydd rhywun yn ymwybodol ohono tan ar ôl iddo digwydd. Ymhlith prif elfennau meithrin perthynas amhriodol rhwng oedolion ceir ffurfio cyfeillgarwch, adeiladu ymddiriedaeth, profi, ynysu rhag teulu a ffrindiau, a cham-drin. Profi yw pan fydd y troseddwr yn defnyddio ymddygiad i weld sut bydd y targed dan sylw yn ymateb i gael rhywun yn dylanwadu arno, ond hefyd i weld a oes cyfle. Yn ystod y cam-drin, bydd y troseddwr yn defnyddio’r dioddefwr at ei ddibenion ei hun ac er ei les ei hun. Mae meithrin perthynas amhriodol yn ymwneud â cham-drin rhywiol, ond gall hefyd ymwneud â chwrdd ag angen emosiynol, os bydd y dioddefwr yn ceisio ymladd yn ôl yna efallai y defnyddir tactegau twyllo rhywun i amau ei bwyll ei hun (gaslighting) er mwyn eu cadw dan eu rheolaeth. 

Fel sy’n wir am blant, gellir meithrin perthynas amhriodol wyneb yn wyneb ac ar-lein. Gall effeithiau hyn ar y dioddefwyr fod yn ddistrywiol tu hwnt – nid cofnod troseddol yn unig ond yr effeithiau seicolegol ac emosiynol ohono hefyd. Gellir meithrin perthynas amhriodol yn y gweithle.

Enwyd chwe math o gamfanteisio troseddol mewn adroddiad gan y Swyddfa Gartref yn 2017:

  • Troseddoldeb dan orfod yn ymwneud â gangiau (gweler Llinellau Sirol a Meddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn i werthu cyffuriau)
  • Llafur dan orfod mewn gweithgareddau anghyfreithlon (gan gynnwys Meddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn i werthu cyffuriau)
  • Trosedd feddiangar dan orfod (megis dwyn o siopau a phocedi)
  • Cardota dan orfod – caiff dioddefwyr eu cludo gan droseddwyr i leoliadau i gardota am arian ac yna cymerir yr arian oddi arnynt 
  • Masnachu mewn pobl at ddibenion priodas ffug dan orfod – mae’r bobl sy’n camfanteisio’n priodi dioddefwyr at ddibenion mewnfudo, arian ac i’w cam-drin yn rhywiol
  • Twyll ariannol – camfanteisir ar ddioddefwyr yn ariannol, gan gynnwys cymryd eu budd-daliadau oddi arnynt.

Meddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn i werthu cyffuriau

Meddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn i werthu cyffuriau yw’r term a ddefnyddir i gyfeirio at unigolyn neu gang yn meddiannu eiddo/cartref, sydd fel arfer yn eiddo i berson diamddiffyn, ac yna’n cynnal gweithgaredd troseddol oddi yno. Bydd y rhai y camfanteisir arnynt yn aml yn cael eu cam-drin yn gorfforol, yn feddyliol ac yn rhywiol. 

Mae meddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn i werthu cyffuriau yn aml yn gysylltiedig â Llinellau Sirol, sef pan fydd y gangiau cyffuriau’n meddiannu’r cartref. 

Mae dioddefwyr y weithred o feddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn i werthu cyffuriau yn aml yn ddefnyddwyr cyffuriau ond gallant gynnwys pobl hŷn (yn arbennig rhai sydd wedi eu hynysu ac yn unig), rhai gydag anawsterau dysgu, neu rai sydd â phroblemau iechyd meddyliol a chorfforol, gweithwyr rhyw benywaidd, mamau sengl a rhai sy’n byw mewn tlodi. Gellir defnyddio cartrefi i ddelio cyffuriau, i roi llety i droseddwyr a rhai sy’n cael eu masnachu drwy’r llinellau sirol, ac ar gyfer ffermydd canabis a gweithgareddau troseddol ariannol.

Gall arwyddion o feddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn i werthu cyffuriau gynnwys:

  • Cynnydd yn nifer y bobl sy’n cyrraedd a gadael y cartref
  • Cynnydd yn nifer y ceir a’r beiciau’r tu allan
  • Cynnydd posibl mewn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Mwy o sbwriel y tu allan
  • Arwyddion o ddefnyddio cyffuriau
  • Diffyg ymwelwyr gofal iechyd.

Gall gangiau dargedu cartrefi lle gwelir gweithwyr gofal cymdeithasol yn ymweld â nhw’n aml, lle maent yn gwybod y mae rhai sydd wedi gadael gofal yn ddiweddar wedi symud iddo, neu lle byddant yn gwybod y mae’r defnyddwyr cyffuriau’n byw.

Er bod y rhan fwyaf o achosion o feddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn y clywir amdanynt yn ymwneud â defnyddio’r eiddo i ddelio, storio neu gymryd cyffuriau, gall yr eiddo gael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith rhyw, fel man i’r troseddwr/troseddwyr fyw (yn ddi-rent), neu i feddiannu’r eiddo er mwyn cam-drin y tenant yn ariannol.

  • Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn amlinellu troseddau caethwasiaeth, caethwasanaeth a llafur gorfodol dan orfod yn adran 1, a masnachu mewn pobl yn adran 2. Mae Adran 45 yn datgan yr amgylchiadau lle nad yw person yn euog o drosedd, sy’n cynnwys “mae’r person yn gwneud y weithred honno o ganlyniad uniongyrchol i fod, neu wedi bod, yn ddioddefwr caethwasiaeth neu’n ddioddefwr camfanteisio perthnasol…”. Mae’r Ddeddf yn rhoi’r fframwaith deddfwriaethol sy’n ei gwneud yn bosibl i ddwyn achos effeithiol yn erbyn cyflawnwyr caethwasiaeth fodern (gan gynnwys camfanteisio troseddol) a’u canfod yn euog o’r drosedd.
  • Mae Deddf Troseddau Difrifol 2015 yn cynnwys y drosedd gyfreithiol o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol a’r Gorchmynion Atal Troseddu Difrifol ataliol, yn ogystal â chryfhau ar seibrdroseddu, gwaharddebau gangiau a mesurau eraill i amharu ar droseddau a rhoi diwedd arnynt. Mae’r Ddeddf hefyd yn diwygio’r diffiniad statudol o’r hyn a ystyrir yn gang – mae’n cynnwys tri pherson o leiaf a gall pobl eraill ei adnabod fel grŵp.
  • Mae Deddf Cyllid Troseddol 2017 yn rhoi pwerau i fynd i’r afael â gwyngalchu arian, llygredd ac adennill yr hyn a enillwyd o droseddau.
  • Mae Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yn ymwneud ag amryw o droseddau yn cynnwys bod ym meddiant, cyflenwi a chynhyrchu.
  • Gall Deddf Atal Troseddu 1953 a Deddf Cyfiawnder Troseddol 1998 fod yn addas ar gyfer Llinellau Sirol a gangiau eraill gan eu bod yn cynnwys troseddau’n ymwneud ag arfau ymosodol. 
  • Mae Deddf Arfau Tanio 1968 yn cynnwys y drosedd yn ymwneud ag arfau tanio, drylliau ac arfau eraill, eu cydrannau a bwledi a chetris.
  • Mae Deddf Troseddau yn erbyn y Person 1861 yn ymwneud â throseddau megis ymosodiad cyffredin ac ymgais i lofruddio. 
  • Mae Deddf Plismona a Throsedd 2009 yn darparu ar gyfer gwaharddebau i atal trais yn ymwneud â gangiau a gweithgareddau delio cyffuriau yn erbyn unigolyn.
  • Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 Mae gan gyrff statudol gyfrifoldeb statudol i wneud popeth rhesymol o fewn eu gallu i atal trosedd ac anrhefn yn eu hardal a rhannu gwybodaeth i ddiogelu cymunedau rhag troseddau difrifol a throseddau cyfundrefnol.
  • Mae Rheoliadau Masnachu mewn Pobl at ddibenion Camfanteisio 2013 yn amddiffyn pobl sy’n cael eu masnachu rhag camfanteisio troseddol ac maent yn gosod mesurau i amddiffyn dioddefwyr.
  • Mae Deddf Troseddau Rhyw 2003 yn ymwneud â throseddau rhyw a all fod yn rhan o gamfanteisio troseddol, yn cynnwys defnyddio merched yn erbyn eu hewyllys fel rhan o ddefod i dderbyn dynion i gangiau drwy weithgaredd rhywiol. 
  • Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn darparu amryw o fesurau a allai fod yn gysylltiedig ag ymddygiad gangiau a Gorchmynion Ymddygiad Troseddol.
  • Cyflwynodd Deddf yr Economi Ddigidol 2017 reoliadau Gorchmynion Cyfyngu ar Delegyfathrebu’n ymwneud â Delio Cyffuriau, sy’n gorfodi cwmnïau rhwydweithiau ffonau symudol i gau llinellau ffonau symudol a/neu ddarnau llaw a ddefnyddir i ddelio cyffuriau.
  • Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn amlinellu’r ddyletswydd statudol i ddiogelu oedolion mewn perygl. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am hyn.

Gofal Cymdeithasol Cymru: Ymwybyddiaeth am Ddiogelu 

Research in Practice (Podcast): Llinellau sirol, camfanteisio troseddol a meddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn i werthu cyffuriau – yr hyn a ddysgwyd ym Manceinion Fwyaf rhan 1 a rhan 2 

Newyddion y BBC: Golwg agos ar linell sirol (YouTube)

Fearless.org (YouTube): Hanes Chris (meddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn i werthu cyffuriau)


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Ffoniwch 999 os yw’r plentyn mewn perygl ar unwaith, neu ffoniwch 101 os ydych chi’n credu bod trosedd wedi ei chyflawni, neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu adroddwch ar-lein

Mae gwasanaethau Diogelu Oedolion ar gael ym mhob Awdurdod Lleol ar draws Cymru (gweler Diogelu).

Mae’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM) yn fframwaith sengl sy’n canolbwyntio ar ddull amlasiantaethol i adnabod dioddefwyr a’u cyfeirio at y gefnogaeth briodol. Gall yr Heddlu, Yr Awdurdodau Mewnfudo, Awdurdodau Lleol a rhai sefydliadau anllywodraethol gyfeirio dioddefwyr dan amheuaeth at yr Awdurdod Cymwys Sengl i wneud penderfyniad. Mae’r Awdurdod Cymwys Sengl yn rhan o’r Swyddfa Gartref. Mae angen caniatâd er mwyn atgyfeirio oedolion at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ond nid oes angen caniatâd ar gyfer rhai o dan 18 oed.