Neidio i'r prif gynnwys

Caethwasiaeth, Caethwasanaeth a Llafur Gorfodol Dan Orfod

Archwilio is-bynciau

Beth yw Caethwasiaeth, Caethwasanaeth a Llafur Gorfodol Dan Orfod?

Diffinnir caethwasiaeth fodern fel recriwtio, symud, llochesu neu dderbyn plant, merched neu ddynion drwy ddefnyddio grym, gorfodaeth, cam-drin gwendid, dichell neu gyfrwng arall at ddibenion camfanteisio.

Gall ffurfiau modern ar gaethwasiaeth gynnwys caethwasanaeth oherwydd dyledion, lle bydd person yn cael ei orfodi i weithio yn rhad ac am ddim er mwyn talu dyled, caethwasiaeth plant, priodas dan orfod, caethwasanaeth domestig a llafur dan orfod.

Mae ffigurau’n awgrymu y gallai nifer dioddefwyr caethwasiaeth fod rhwng 10,000 a 30,000 yn y DU. Credir bod oddeutu 3,000 o blant yn gweithio ar ffermydd canabis ac mewn bariau ewinedd (Newyddion y BBC). Dywedir wrth nifer o ddioddefwyr y bydd eu teuluoedd yn cael eu hanafu os byddant yn gadael.

Gan amlaf, nid yw caethwasiaeth fodern yn amlwg yn gyhoeddus. Mae’n digwydd mewn cartrefi ac ar ffermydd preifat. Gwelwyd enghreifftiau o gaethwasiaeth, caethwasanaeth a llafur gorfodol dan orfod. Mewn un enghraifft o hyn cafodd teulu eu carcharu am lafur dan orfod yng Nghaerdydd, gan fod dyn wedi ei orfodi i weithio i’r teulu am fwy nag 20 mlynedd drwy wneud gwaith adeiladu a gosod ffyrdd, a bu’n byw mewn sied yn yr ardd heb wres na dŵr rhedeg am ran o’r cyfnod hwnnw. Mewn enghraifft arall cafodd dyn ei garcharu am gadw ei wraig dan amodau caethwasanaeth domestig – cafodd y wraig ei harteithio, ei gorfodi i wneud yr holl waith tŷ ac nid oedd yn cael gadael ei chartref.

Mae caethwasiaeth fodern yn digwydd yn y gymuned, felly mae’n bwysig adnabod yr arwyddion a allai ddangos bod rhywun yn dioddef trosedd o’r math hwn. Nid yw’r arwyddion bob amser yn amlwg, ond gallent gynnwys:

  • Edrych yn flêr, heb gael digon o faeth neu wedi cael anaf
  • Ymddwyn yn orbryderus, yn ofnus neu’n methu â gwneud cyswllt llygaid
  • Oriau hir, gwisgo dillad anaddas neu bod â’r offer anghywir ar gyfer y gwaith
  • Byw mewn tai gorlawn, heb eu cadw na’u cynnal yn dda neu eu ffenestri’n cael eu glanhau bob amser
  • Ymddwyn fel petaent yn cael eu cyfarwyddo gan rywun arall, yn cael eu casglu/gollwng ar yr un pryd ac yn yr un man bob dydd neu nid oes ganddynt fynediad at arian neu ddull adnabod.

Gall dioddefwyr caethwasiaeth fod yn unrhyw un, o unrhyw oedran, ethnigrwydd a chenedligrwydd. Serch hynny, fel arfer mae’n fwy amlwg ymhlith y bobl fwyaf bregus neu o fewn grwpiau ac unigolion lleiafrifol neu rai sy’n cael eu heithrio’n gymdeithasol. Ystyrir tlodi fel un nodwedd sy’n arwain at gaethwasiaeth, caethwasanaeth a llafur dan orfod, pan fydd pobl sy’n byw mewn tlodi yn gorfod benthyca arian ac yna’n cael eu gorfodi i weithio er mwyn talu’r ddyled, a cholli rheolaeth dros eu hamodau gwaith a’r ddyled.

 “Mae llafur dan orfod neu lafur gorfodol i gyd yn waith neu’n wasanaeth sy’n cael ei fynnu gan berson sydd dan fygythiad cosb a phan nad yw’r person dan sylw wedi cynnig ei hun yn wirfoddol.” (Confensiwn Llafur Dan Orfod y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (rhif 29), 1930)

Llafur gorfodol dan orfod, a elwir hefyd yn Gamfanteisio ar Weithwyr, yw gwaith neu wasanaeth sy’n cael ei fynnu gan unrhyw berson dan fygythiad cosb a phan nad yw’r person dan sylw wedi cynnig ei hun yn wirfoddol. Caiff ei weld yn aml yn y DU mewn sectorau sy’n nodweddiadol yn defnyddio gweithwyr heb lawer o sgiliau, neu rai sy’n derbyn cyflogau isel ac ymhlith gweithwyr hyblyg, dros dro. 

Nid yw statws mewnfudo na’r hawl i weithio’n berthnasol yng nghyd-destun troseddau Llafur Dan Orfod. Mae rhai sectorau’n ymwneud yn fwy rheolaidd â llafur dan orfod sef amaethyddiaeth, prosesu a phecynnu bwyd, adeiladu, storfeydd a logisteg, lletygarwch a glanhau a gweithgynhyrchu (slafdai). I leihau lefelau Camfanteisio ar Weithwyr, mae’r Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Gweithwyr yn cynnal cynllun trwydded ar gyfer y rhai sy’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi cynnyrch ffres. 

Caethwasanaeth domestig yw llafur dan orfod lle bydd disgwyl i’r dioddefwr fel arfer weithio o amgylch cartref y person bob dydd a bod ar alwad 24 awr y dydd. Gall y dioddefwr fod yn gymar/partner, aelod o’r teulu neu rywun heb gysylltiad teuluol.

  • Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn ei gwneud yn drosedd i gadw person arall dan amodau caethwasiaeth neu gaethwasanaeth neu i berfformio gwaith dan orfod neu waith gorfodol, yn ogystal â diffinio caethwasiaeth, caethwasanaeth a llafur dan orfod neu lafur gorfodol.

Cyflwyno Gorchmynion Atal a Gorchmynion Risg Caethwasiaeth a Masnachu mewn Pobl

  • Gellir cyflwyno Gorchymyn Atal Caethwasiaeth a Masnachu mewn Pobl dim ond os bydd y diffynnydd wedi ei ganfod yn euog o drosedd masnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth a bod y llys yn credu bod perygl y bydd yn cyflawni troseddau pellach a bod angen diogelu pobl eraill rhag niwed, os torrir y gorchymyn gellir cael cosb o hyd at bum mlynedd yn y carchar.
  • Gellir gwneud Gorchmynion Risg Caethwasiaeth a Masnachu mewn Pobl heb gollfarn ond os credir ei fod mewn perygl o achosi niwed a bod angen diogelu pobl eraill. Os torrir y gorchymyn hwn hefyd, gellir cael cosb o hyd at bum mlynedd yn y carchar.

Llywodraeth Cymru: Canllawiau am gaethwasiaeth fodern i weithwyr proffesiynol 

Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Gweithwyr: Adnoddau sy’n cynnwys taflenni, fideos, podcastiau a phosteri


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych chi’n adnabod unrhyw rai o’r arwyddion ac yn amau bod rhywun yn ddioddefwr caethwasiaeth fodern, dywedwch wrth rywun. I roi gwybod am unrhyw amheuaeth neu i ofyn am gyngor, cysylltwch â Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern 24/7 ar 08000 121 700. Gellir hefyd rhoi gwybod amdano ar-lein neu drwy ffonio 101 ar unrhyw adeg, neu i bobl fyddar neu rai sy’n drwm eu clyw, defnyddiwch y gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101. I aros yn ddienw cysylltwch â Crimestoppers ar 0800 555 111. Os oes trosedd yn cael ei chyflawni neu os yw bywyd rhywun mewn perygl, ffoniwch 999.

Mae Kalayaan yn cynnig gwasanaethau eiriolaeth, cyngor a chefnogaeth er mwyn sicrhau cyfiawnder ar gyfer gweithwyr domestig mudol sydd wedi dod i’r DU yn gyfreithlon gyda chyflogwr, ar fisa gweithiwr domestig, i weithio mewn cartref preifat ac yna’n cael eu cam-drin a phobl yn camfanteisio arnynt ac yn eu gorfodi i weithio dan orfodaeth.

Mae’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM) yn fframwaith sengl sy’n canolbwyntio ar ddull amlasiantaethol i adnabod dioddefwyr a’u cyfeirio at y gefnogaeth briodol. Gall yr Heddlu, Yr Awdurdodau Mewnfudo, Awdurdodau Lleol a rhai sefydliadau anllywodraethol gyfeirio dioddefwyr dan amheuaeth at yr Awdurdod Cymwys Sengl i wneud penderfyniad. Mae’r Awdurdod Cymwys Sengl yn rhan o’r Swyddfa Gartref. Mae angen cydsyniad ar gyfer atgyfeirio oedolion at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol. 

Mae New Pathways a BAWSO yn cynnig cefnogaeth i rai 18 oed a hŷn ac mae Barnardo’s yn cynnig cefnogaeth i rai o dan 18 oed sydd wedi goroesi caethwasiaeth. Mae prosiect New Pathways i roi rhyddid yn cynnig cefnogaeth seicolegol, eiriolaeth ymarferol a chefnogaeth er mwyn i oroeswyr ddianc rhag sefyllfaoedd lle camfanteisir ar bobl, ffoniwch 01633 250205. Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern Barnardo’s yw 0800 0121700.

Gall Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Gweithwyr helpu i roi diwedd ar gamfanteisio ar weithwyr drwy sicrhau bod hawliau gweithwyr yn cael eu cynnal drwy ffonio 03456025020 (dewis 2) rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu drwy anfon e-bost at intelligence@gla.gov.uk, galw eu llinell adrodd yn rhad ac am ddim ar 08004320804, neu drwy eu gwefan www.gla.gov.uk. Gallant ddarparu gwybodaeth a chyngor am hawliau cyflogaeth ac mae hyn hefyd yn wir am y Ganolfan Cyngor ar Bopeth leol neu drwy ACAS.