Neidio i'r prif gynnwys

Cam-drin Plant

Archwilio is-bynciau

Beth yw Cam-drin Plant?

Cam-drin Plant yw un o’r dair elfen o dan ddiogelu. Fodd bynnag caiff Oedolyn mewn Perygl a Cham-drin Pobl Hŷn ei reoli ar y cyd o dan ddeddfwriaeth a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

Cam-drin plant yw pan gaiff plentyn ei niweidio’n fwriadol gan oedolyn neu gan blentyn arall – fe all fod dros gyfnod o amser ond gall hefyd fod yn weithred untro. Gall fod yn gorfforol, rhywiol neu emosiynol a gall ddigwydd wyneb yn wyneb neu ar-lein. Gall hefyd fod yn ddiffyg cariad, gofal a sylw – esgeulustod yw hyn.” NSPCC

Mae’r NSPCC yn nodi 13 math o gamdriniaeth o ran plant (i gael manylion penodol ar bob un gan yr NSPCC ewch i’w gwefan):

Cam-drin plant yw pan fo unrhyw un o dan 18 oed un ai yn cael ei niweidio neu lle na ofalir amdano ef/hi yn iawn. Mae yna bedwar prif gategori o gam-drin plant: cam-drin corfforol, cam-drin emosiynol, cam-drin rhywiol ac esgeulustod.”  Yr Heddlu Metropolitanaidd

Gall y gamdriniaeth ddigwydd mewn unrhyw leoliad, boed mewn annedd breifat, sefydliad neu unrhyw le arall. Os yw’r dioddefwr dros 18 oed, mae’n gorwedd o dan y categori oedolyn mewn perygl o ran camdriniaeth.

  • Deddf Plant 1989 dyletswydd awdurdodau lleol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phryd i gychwyn achosion gofal.
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gofynion ar gyfer byrddau diogelu rhanbarthol yng Nghymru. Disodli rhan o Ddeddf Plant 1989 a 2004. Wedi ei newid i ganolbwyntio ar atal ac ymyrraeth gynnar ac roedd yn rhoi llais cryfach i unigolion yn ogystal â mwy o ddewis a rheolaeth. Cryfhau’r pwerau ar gyfer diogelu plant ac oedolion mewn perygl, yn ogystal â gwneud newidiadau i wella gwasanaethau ac atebolrwydd.
  • Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gofyn am sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
  • Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys y 7 nod ar gyfer lles i sicrhau Cymru gydnerth, Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru Iachach a Chymru o Gymunedau Cydlynus. Mae’r rhain i gael eu cyflawni drwy’r 5 ffordd o weithio: cydweithio, atal, ymwneud, integreiddio a hirdymor.
  • Deddf Plant 2004 atebolrwydd partneriaid tuag at ddiogelu.

Ar gyfer deddfwriaeth unigol cysylltiedig â gweithgarwch penodol o gam-drin plant gweler yr adrannau ar ddeddfwriaeth o dan y pynciau gwahanol.


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os yw plentyn mewn perygl ar unwaith, ffoniwch yr heddlu ar 999. Fel arall ffoniwch yr heddlu ar 101 neu rhowch wybod am hyn ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent neu Heddlu Gogledd Cymru. Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu tecstiwch 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.

Rhowch wybod i dimau Diogelu’r Awdurdod Lleol neu’r Canolbwynt Diogelu Amlasiantaeth (gweler y Cyfeiriadur am fanylion cyswllt).

Mae gan wefan yr NSPCC ystod o wybodaeth a chyngor yn ymwneud â rhoi gwybod am gamdriniaeth a chadw plant yn ddiogel mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Gallwch ffonio’r NSPCC ar 0808 800 5000, rhoi gwybod ar-lein neu e-bostio help@nspcc.org.uk.