Neidio i'r prif gynnwys

Cam-drin Pobl Hŷn

Archwilio is-bynciau

Beth yw Cam-drin Pobl Hŷn?

Cam-drin Pobl Hŷn yw un o’r dair elfen o dan Ddiogelu. Fodd bynnag caiff Oedolyn mewn Perygl a cham-drin pobl hŷn ei reoli ar y cyd o dan ddeddfwriaeth a Gweithdrefnau Diogelu Cymru.

“Cam-drin pobl hŷn yw gweithred unigol neu un a ailadroddir, neu ddiffyg gweithredu priodol, sy’n digwydd o fewn unrhyw berthynas lle mae yna ddisgwyl ymddiriedaeth, sy’n achosi niwed neu ofid i unigolyn hŷn. Mae’r math yma o drais yn cynnwys ymyrryd â hawliau dynol ac yn cynnwys camdriniaeth gorfforol, rhywiol, seicolegol ac emosiynol; camdriniaeth ariannol a materol; gadael, esgeuluso; a cholli urddas a pharch yn ddifrifol.”

Sefydliad Iechyd y Byd

Mae Cam-drin Pobl Hŷn yn gorwedd o fewn y maes Diogelu gyda’r holl fathau o gamdriniaeth yn bosibl. Fe all camfanteisio gan gynnwys meddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn i werthu cyffuriau fod yn rhan o hyn (gweler camfanteisio yn droseddol). Yn ôl y Llinell Gymorth Gofal Cenedlaethol mae dros hanner miliwn o bobl hŷn yn profi camdriniaeth yn eu herbyn yn y DU, yn aml gan bobl y maent yn ymddiried ynddynt fel ffrindiau neu berthnasau, gyda merched dros 70 oed sy’n ddibynnol, bregus ac unig yn cael eu gweld fel unigolion sy’n hynod o agored i’r ffurf hwn o gamdriniaeth. Maent yn mynd ymlaen i ddweud fod disgwyliad o ymddiriedaeth sydd wedi ei feithrin gydag unigolyn hŷn sydd wedyn yn cael ei dorri yn greiddiol i hyn.

Tra gall pob ffurf o gamdriniaeth ddigwydd i’r rhai sy’n hŷn, mae Llywodraeth y DU wedi nodi’n benodol bum ffurf benodol o gamdriniaeth:

  • Esgeulustod: peidio â gofalu am rywun yn briodol
  • Dwyn drwy ffugio: rhoi pwysau ar rywun i roi arian neu eiddo i ffwrdd, gan gynnwys newid Ewyllysiau
  • Seicolegol: bygythiadau, aflonyddu, gall gynnwys gorfodi rhywun i fyw lle nad ydynt eisiau byw
  • Corfforol: trais
  • Rhywiol

Mae Hourglass (cyn hynny Action on Elder Abuse) yn nodi fod “camdriniaeth yn unrhyw weithred sy’n ymyrryd â hawliau dynol neu sifil unigolyn. Gall fod mewn sawl ffurf a gall gynnwys nifer o ffactorau”. Maent yn rhestru’r mathau o gamdriniaeth fel ariannol, rhywiol, seicolegol, corfforol, camdriniaeth ddomestig ac esgeulustod. Gellir cysylltu nifer o’r rhain gyda phynciau eraill yr ymdrinnir â hwy ar y wefan hon.

Gall camdriniaeth ddigwydd fel gweithred ddigymell pan fo’r troseddwr yn cymryd mantais o sefyllfa, neu fel weithred bwriadol ac wedi ei gynllunio. Yn sylfaenol mae’r ffurfiau hyn o drosedd yn deillio o ba mor agored i niwed yw pobl hŷn neu sut y maent yn ymddangos felly.” Hourglass

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi nodi atal cam-drin pobl hŷn fel un o’r prif flaenoriaethau, gan gynnwys sefydlu Grŵp Gweithredu ar Gamdriniaeth.

  • Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi’r dyletswyddau a’r cefndir deddfwriaethol i ddarparu gofal a chymorth, yn ogystal ag i ymateb i bryderon diogelu a’r angen i roi gwybod am unrhyw arwyddion o gamdriniaeth i dimau diogelu. Mae rhan 7 yn hynod o bwysig gan ei fod yn amlinellu’r canllawiau statudol y mae’n rhaid cydymffurfio â hwy.
  • Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn rhoi eglurder ac maent yn hygyrch ar gyfer cyflawni cyfrifoldebau diogelu ac ymateb i’r canllawiau.
  • Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cynnwys y 7 nod ar gyfer lles i sicrhau Cymru gydnerth, Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru Iachach a Chymru o Gymunedau Cydlynus. Mae’r rhain i gael eu cyflawni drwy’r 5 ffordd o weithio: cydweithio, atal, ymwneud, integreiddio a hirdymor.

 

  • Gofal Cymdeithasol Cymru:

Diogelu

  • Safe Lives

Hyfforddiant ymateb i bobl hŷn a effeithir gan gamdriniaeth ddomestig

  • Fe fydd gan unedau hyfforddi Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol wybodaeth am hyfforddiant lleol (gweler y Cyfeiriadur)
  • Age UK

Taflen ffeithiau diogelu pobl hŷn yng Nghymru rhag camdriniaeth ac esgeulustod

  • Podlediadau Hearing Aid

Pennod 3.04 Camdriniaeth pobl hŷn a diogelu

  • SafeLives

Aros yn Ddiogel Adref – camdriniaeth ddomestig a’r effaith ar bobl hŷn

  • Action on Elder Abuse (Hourglass)

YouTube Peidiwch â gadael i hyn ddigwydd i chi

  • Cyngor Sir Swydd Hertford

YouTube Allech chi weld arwyddion o gamdriniaeth pobl hŷn?


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Fe all fod yn anodd estyn am gymorth os yw’r gamdriniaeth gan rywun sy’n ffrind agos neu’n berthynas, ond nid yw camdriniaeth ac esgeulustod fyth yn dderbyniol ac mae yna gymorth ar gael er mwyn helpu ei atal. Os yw’r gamdriniaeth yn cael ei gwneud gan rywun sy’n darparu gofal a chymorth, yna ni fydd rhoi gwybod am hynny yn eich atal rhag derbyn gwasanaethau. Fe fydd eich anghenion gofal a chymorth yn parhau i gael eu diwallu fel rhan o unrhyw ymateb diogelu.

Rhowch wybod am faterion diogelu o fewn eich awdurdod lleol (gweler y Cyfeiriadur). Rhowch wybod i’r Heddlu drwy ffonio 101 neu rhowch wybod am hyn ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent  neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn argyfwng, ffoniwch 999. Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu tecstiwch 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.

Mae gan Hourglass linell gymorth – 0808 808 8141 – yn benodol i gynnig cymorth a chyngor ar gam-drin pobl hŷn, neu gellir ebostio helpline@wearehourglass.org (ni fydd y rhif ffôn yn ymddangos ar unrhyw fil ffôn). Mae Llinell Gymorth Age UK 0800 678 1174 ar gael os ydych yn poeni am gamdriniaeth.

Mae gan Hourglass restr o bethau i feddwl amdanynt ar eu gwefan os yw unigolyn hŷn yn teimlo y gallant fod mewn perygl o gamdriniaeth.