- Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn rheoleiddio sut y trwyddedir eiddo sy’n gwerthu alcohol ac mae’n nodi mai’r awdurdodau lleol yw’r awdurdodau trwyddedu.
- Mae Gorchymyn Deddf Trwyddedu 2003 (Amodau Trwyddedu Mandadol) 2010 (“Gorchymyn 2010”) yn gosod pum amod sy’n berthnasol i bob eiddo sydd wedi eu hawdurdodi i gyflenwi alcohol o dan drwydded eiddo neu drwydded eiddo clwb. Daeth Gorchymyn Deddf Trwyddedu 2003 (Amodau Trwyddedu Mandadol) (Diwygiad) 2014 (“Gorchymyn 2014”) i ddiwygio Gorchymyn 2010 a daeth yr amodau yng Ngorchymyn 2014 i gymryd lle’r amodau mandadol a osodwyd yng Ngorchymyn 2010.
- Yn Neddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ychwanegwyd awdurdodau trwyddedu a byrddau iechyd lleol fel awdurdodau cyfrifol o ran trwyddedu. Rhoddwyd pwerau ychwanegol Ardoll Hwyr y Nos a Gorchmynion Cyfyngu ar Alcohol yn Gynnar yn y Bore.
- Rhoddodd Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 bwerau newydd i’r heddlu ac asiantaethau lleol (gweler Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac Anrhefn).
- Gwnaeth Deddf Dadreoleiddio 2015 leihau’r baich i fusnesau o ran deddfwriaeth drwy gyflwyno amryw o ddarpariaethau newydd.
- Cyflwynodd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) Cymru 2018 isafbris fesul uned o alcohol.
- Deddf Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
- Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
Newidiodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 y ffocws i ddull rhagweithiol ac ataliol er mwyn sicrhau economi’r nos ffyniannus a diogel