Neidio i'r prif gynnwys

Diogelwch Personol

Archwilio is-bynciau

Beth yw Diogelwch Personol?

Diffinnir diogelwch personol fel “gallu unigolyn i fyw ei fywyd o ddydd i ddydd heb boeni am fygythiad neu ofn o unrhyw niwed seicolegol, emosiynol na chorfforol gan bobl eraill.” (Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh)

Gall diogelwch personol fod yn y gweithle ac mewn mannau cyhoeddus a phreifat. Gall gynnwys cam-drin domestig, trosedd casineb, troseddau arfau ymosodol, stelcio, dwyn, dwyn hunaniaeth, seibrdroseddu ac aflonyddwch.

Gall person ddiogelu eu diogelwch personol mewn nifer o ffyrdd:

  • Cario larwm personol
  • Gwneud yn siŵr fod rhywun rydych chi’n ymddiried ynddynt yn gwybod ym mhle y dylech chi fod
  • Aros mewn ardaloedd sydd wedi eu goleuo’n dda
  • Peidio â chadw eitemau yn eich poced ôl
  • Cadw eitemau lle gallwch eu gweld lle bynnag y bo hynny’n bosibl
  • Dilyn polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau gwaith ar gyfer iechyd a diogelwch yn cynnwys gweithio ar eich pen eich hun
  • Bod yn ofalus am yr hyn rydych yn ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol (AP Diogelwch Personol Hollie Guard)
  • Cloi drysau, ffenestri, ceir
  • Peidio byth â rhoi eich manylion diogelwch na manylion eich cerdyn banc i unrhyw un sydd wedi eich ffonio
  • Peidio byth â rhoi eich rhif pin i unrhyw un

  • Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yn gosod dyletswydd gofal ar gyflogwyr i sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr.
  • Mae Deddf Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn amlinellu’r angen i asesu’r risgiau ar gyfer gweithwyr. Cyflwynwyd hefyd asesiadau risg ar gyfer unrhyw berson y mae gweithgareddau yn y gwaith yn effeithio arnynt, er enghraifft gwirfoddolwyr.
  • Mae Deddf Dynladdiad Corfforaethol a Lladdiad Corfforaethol 2007 yn amlinellu’r atebolrwydd troseddol lle bydd torri rheolau iechyd a diogelwch wedi arwain at farwolaeth.
  • Mae Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 2013 yn datgan bod yn rhaid i gyflogwyr hysbysu awdurdodau gorfodi os ceir digwyddiad yn y gwaith sy’n arwain at farwolaeth, anaf difrifol neu analluogrwydd, ac mae hyn yn cynnwys unrhyw drais a gafwyd neu sy’n codi oherwydd y gwaith, neu mewn cysylltiad ag ef.
  • Yn Neddf Amddiffyn rhag Aflonyddwch 1997 fe’i gwnaethpwyd yn drosedd i gyflawni gweithredoedd sy’n gwneud i berson arall gael ei ddychryn neu ei gynhyrfu neu fod arno ofn y bydd rhywun yn dreisgar yn ei erbyn. Ychwanegwyd stelcio fel trosedd yn 2012.
  • Mae Deddf Diogelu Data 2018 yn datgan y dylai diogelwch staff gymryd blaenoriaeth dros gyfrinachedd.
  • Mae Deddf Dwyn 1968 yn amlinellu’r ddeddfwriaeth ar gyfer troseddau lladrata, byrgleriaeth, trin a bod ym meddiant yr offer i gyflawni gweithgaredd o’r fath.
  • Mae Deddf Dwyn 1978 yn ychwanegu at Ddeddf 1968 ac mae’n cynnwys dianc heb dalu.
  • Mae Deddf Twyll 2006 yn cyfeirio at atebolrwydd troseddol ar gyfer twyll a manteisio ar wasanaethau mewn modd anonest, ac mae’n disodli’r troseddau twyll yn Neddfau Dwyn 1968 a 1978.

  • Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Canllawiau bras am Hyfforddiant Iechyd a Diogelwch er mwyn cynorthwyo i adnabod hyfforddiant addas yn y gweithle

  • Yr Heddlu 

Hyfforddiant diogelwch personol ar gyfer swyddogion

  • Ymddiriedolaeth Hollie Gazzard

Gweithdai ar gyfer Busnesau a Phrifysgolion / Colegau

  • Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh

Hyfforddiant diogelwch personol a gweithio ar eich pen eich hun  

Diogelwch personol a gweithio ar eich pen eich hun (YouTube)

  • Cymdeithas Archwilwyr Twyll Cofrestredig (ACFE)

Beth yw dwyn hunaniaeth? (YouTube) 

  • Action Fraud

The Devil’s in Your Details – twyll ar-lein (YouTube)

Pa mor breifat yw eich gwybodaeth bersonol? (YouTube)

Dolenni Defnyddiol

Gwefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch – gwybodaeth am ddiogelwch yn y gweithle ac adrodd am ddigwyddiadau 

Ewch i’r Wefan

Crimestoppers – gwybodaeth am ddiogelwch personol

Ewch i’r Wefan

Cymorth i Ddioddefwyr – cefnogaeth i ddioddefwyr.

Ewch i’r Wefan

Age UK – cyngor ynghylch ymwybyddiaeth am droseddau ar gyfer y gymuned hŷn

Ewch i’r Wefan

Heddlu Metropolitanaidd – Twyll Hunaniaeth

Ewch i’r Wefan

 


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Dylid rhoi gwybod i’r heddlu am achos o ddwyn neu ddwyn hunaniaeth drwy ffonio 101, neu dylid ffonio 999 mewn argyfwng. 

Mae Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh yn cynnig cyngor amrywiol ar ddiogelwch personol mewn lleoliadau gwahanol.

Gall Crimestoppers a Chymorth i Ddioddefwyr gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i rai sydd wedi dioddef troseddau’n ymwneud â diogelwch personol.